Dyfodol Arloesi Rheilffyrdd’

Rheilffordd sero net gyntaf y DU

Bydd y Ganolfan Fyd-Eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd yn safle pwrpasol ar gyfer ymchwil, profion ac ardystio o’r radd flaenaf o ran cerbydau rheilffyrdd, seilwaith a thechnolegau rheilffordd newydd arloesol a fydd yn llenwi bwlch, nid yn unig ar reilffyrdd y DU, ond ledled Ewrop.

Rhwydwaith rheilffyrdd mwy fforddiadwy ar gyfer yfory

Mae’r Ganolfan Fyd-Eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd sy’n cael ei hadeiladu yn Ne Cymru yn un o’r prosiectau seilwaith mwyaf allweddol a chreadigol sy’n digwydd yn unrhyw le mewn rheilffyrdd yn Ewrop.

Mae’r prosiect, sy’n cynnig buddion i’r diwydiant a’r llywodraeth, i’n hamgylchedd naturiol a’n heconomïau lleol, yn unigryw o ran ei weledigaeth a’r buddion niferus y bydd yn eu cynnig.

Ac yntau’n safle arloesi rheilffyrdd o’r radd flaenaf, bydd GCRE yn dod â phobl a syniadau at ei gilydd, gan gefnogi dylunio a datblygu technolegau a chysyniadau newydd dychmygus a all fod yn asgwrn cefn rhwydwaith rheilffyrdd cryfach, gwyrddach a mwy fforddiadwy y dyfodol.


Bydd y cyfleuster yn cynnwys dwy ddolen brofi 25KV wedi’u trydaneiddio; un ohonynt yn drac cerbydau rheilffyrdd cyflymdra uchel 6.9km gydag uchafswm cyflymdra o ryw 177km yr awr (mae potensial ar gyfer 201km yr awr yn destun adolygiad) a’r llall yn drac profi seilwaith 4km ~65km yr awr.

Bydd cyfleusterau’n cynnwys amgylchedd profi platfform deuol, cyfleusterau storio a chynnal cynnes ar gyfer cerbydau rheilffyrdd, ystafell weithrediadau, adeiladau i staff a chysylltiadau â’r brif linell. Bydd cyfleusterau modern ar gyfer ymwelwyr a chynadleddau, parc busnes diwydiannol a gwesty.

Sefydlwyd GCRE yn 2021 gydag ymrwymiad o £50 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth y DU wedi darparu £20m ac mae £7.4m yn fwy yn cael ei ddarparu trwy Innovate UK for Research and Development.

Mae’r safle, sy’n rhychwantu hen safle brig Nant Helen a Golchfa Onllwyn, wedi’i leoli yn ardaloedd awdurdodau lleol Castell-nedd Port Talbot a Phowys. Bydd GCRE yn gwbl weithredol yn haf 2025.

I’r diwydiant rheilffyrdd

Bydd GCRE yn llenwi bwlch strategol yn y DU ac yn Ewrop fel lle i gynnal profion, ymchwil ac ardystio o’r radd flaenaf o ran cerbydau rheilffyrdd, seilwaith, technoleg a syniadau newydd, gan helpu cyflymu arloesedd a dod â chynhyrchion newydd i’r farchnad yn gyflymach.

I lywodraethau ledled y DU ac Ewrop,

Bydd GCRE yn cefnogi gwerth gwell am arian ac yn cefnogi rheoli costau’n well trwy brofi syniadau ac arloesiadau newydd cyn eu defnyddio mewn prosiectau pwysig, gan helpu datblygu’r systemau trafnidiaeth, fel eu bod yn gyflymach ac yn fwy effeithlon yn y dyfodol. Bydd angen cyfiawnhau a rhoi cyfrif am bob ceiniog o fuddsoddiad cyhoeddus mewn prosiectau seilwaith mawr mor effeithlon ac mor effeithiol ag y bo modd – dyna ble gall GCRE helpu.

Ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol

Bydd GCRE yn cefnogi ein hangen brys, cyfunol, i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a chyrraedd sero net trwy helpu datblygu technolegau rheilffordd a thrafnidiaeth newydd a all gael eu defnyddio’n gyflymach i leihau allyriadau carbon ac annog mwy o bobl i ddefnyddio ein rheilffyrdd. Yn syml, rhaid i’r DU fodloni’r targedau estynedig, cyfreithiol rwymol i leihau carbon y mae wedi’u gosod erbyn 2050, a bydd hynny’n golygu datblygu technolegau rheilffyrdd newydd fel hydrogen a batri a all gefnogi’r gwaith hwnnw.

Ac i'r Economi

Bydd GCRE yn creu swyddi tymor hir, o ansawdd da ac yn cefnogi creu sgiliau newydd, gan ddod yn brosiect atyniadol a all ddenu buddsoddiadau eraill o ansawdd uchel. 

Dechreuodd ymarfer caffael cyhoeddus ar 23 Tachwedd i sicrhau buddsoddiad preifat ar gyfer y prosiect. Disgwylir y bydd y broses hon yn dod i ben yn hydref 2023.

Ein Cenhadaeth

Ein huchelgais yw sefydlu’r Ganolfan Fyd-Eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd yn brif safle Ewrop ar gyfer arloesedd rheilffyrdd. Daw’n siop un stop ar gyfer y diwydiant, gan ddarparu ymchwil, profi ac ardystio o’r radd flaenaf o ran technolegau newydd a syniadau newydd a all fod fod yn asgwrn cefn rheilffyrdd cryfach, gwyrddach a mwy fforddiadwy y dyfodol.

I gyflawni hyn, bydd GCRE yn chwilio am rôl arwain yn ein diwydiant, sy’n cyfrannu at y weledigaeth, ac yn darparu’r platfform i drawsnewid a chyflymu arloesi rheilffyrdd ohono, er mwyn i ni allu mynd i’r afael â’r heriau rydym ni’n eu hwynebu ar y cyd – gan gynnwys cefnogi ein llwybr at sero net, cyfrannu at economi decach a chreu swyddi gwyrdd newydd ar gyfer y genhedlaeth hon, a chenedlaethau’r dyfodol.

Drwy gofrestru ar gyfer y cylchlythyr rydych yn cytuno i'n telerau ac amodau