Cynllunio ar gyfer y tymor hir…

Yn ei blog yr wythnos hon, mae Prif Swyddog Masnachol y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd, Kelly Warburton, yn dweud bod datgarboneiddio rheilffyrdd yn gofyn am wneud penderfyniadau tymor hir, gan ddechrau gyda chyfle mawr yn ymwneud â cherbydau rheilffyrdd.

Datgarboneiddio rhwydwaith rheilffyrdd y Deyrnas Unedig yw un o’r heriau mwyaf brys a strategol bwysig sy’n wynebu ein diwydiant.

Trafnidiaeth yw un o’r allyrwyr carbon mwyaf yn y Deyrnas Unedig, felly mae datblygu systemau trafnidiaeth cynaliadwy, integredig ac aml-ddull ar draws y wlad, gyda rhwydwaith rheilffyrdd wedi’i ddatgarboneiddio yn ganolog iddynt, yn allweddol i gyflawni’r targedau lleihau carbon uchelgeisiol y mae’r Deyrnas Unedig wedi’u gosod.

Ond mae sicrhau bod ein cadwyn gyflenwi rheilffyrdd yn barod i gefnogi’r gwaith sy’n angenrheidiol i wneud y newid hwnnw’n un llwyddiannus yn hanfodol. Ac fel mae adroddiad newydd diweddar gan Gymdeithas y Diwydiant Rheilffyrdd wedi amlygu, cerbydau rheilffyrdd yw un o’r meysydd pwysicaf lle mae gennym gyfle i gymryd camau beiddgar, tymor hir.

Fel mae adroddiad Cymdeithas y Diwydiant Rheilffyrdd yn ei amlygu’n gywir, yr hyn sydd ei angen nawr i gefnogi targedau lleihau carbon uchelgeisiol yw strategaeth gydlynol a thymor hir ar gyfer datgarboneiddio cerbydau rheilffyrdd ochr yn ochr ag arwyddion clir i’r farchnad ynglŷn â sut i gyflawni hyn. Yn fyr, mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn cynllunio nawr, ar draws y diwydiant a’i gadwyn gyflenwi, ar gyfer datblygu a gweithgynhyrchu cerbydau rheilffyrdd sy’n addas i’r math o reilffordd wedi’i datgarboneiddio rydym eisiau ei gweld ar draws y Deyrnas Unedig yn y blynyddoedd i ddod.

O ystyried y capasiti cynhyrchu a ddatblygwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ynghyd â’r cryfder ymchwil a datblygu sy’n bodoli ar draws y pedair gwlad, mae’r Deyrnas Unedig mewn sefyllfa dda i ateb yr her o gynhyrchu a chynnal y cerbydau rheilffyrdd y mae arnom eu hangen ar gyfer y dyfodol, a mwy.

Yn wir, gan fod ein cyfleuster Canolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd ein hunain ar fin cael ei ychwanegu at y cyd-destun – cyfleuster a adeiladwyd i’r diben ar gyfer gwaith ymchwil, profi ac ardystio cerbydau rheilffyrdd, seilwaith a thechnolegau rheilffyrdd newydd arloesol a fydd yn brif safle Ewrop ar gyfer arloesedd rheilffyrdd – mae’r Deyrnas Unedig mewn sefyllfa dda i arwain y byd wrth ddatblygu cerbydau rheilffyrdd newydd a thechnolegau tyniant arloesol sy’n gallu cefnogi rhwydwaith rheilffyrdd wedi’i ddatgarboneiddio yfory.

Mae ateb yr her yn ymwneud yn rhannol â rhoi hyder i’r farchnad fel y gall gynllunio gwaith cynhyrchu a chynnal a chadw mewn modd amserol ac effeithiol. Bydd proffil mwy cytbwys a chyson o ddisgwyliadau cynhyrchu a chyflawni cerbydau yn rhoi cyfle i’r holl gwmnïau blaenllaw yn y gadwyn gyflenwi gynllunio’n fanylach y gwaith y mae angen iddynt ei wneud i gyfrannu at yr ymdrech ddatgarboneiddio. Bydd hefyd yn optimeiddio gallu ein safle GCRE ein hunain i ychwanegu gwerth fel y gallwn gynllunio anghenion profi a chynnal a chadw’r fflyd honno’n well.

Wrth gwrs, mae’n rhwydd gwneud rhai o’r gofynion hyn y tu allan i Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Bydd angen ymrwymiadau cyllido tymor hir ac, yng nghanol un o’r cyfnodau mwyaf anodd a heriol i wariant cyhoeddus yn y deugain mlynedd diwethaf, mae’n gyfrifoldeb arnom yn y diwydiant ehangach i ddeall yr her sy’n wynebu Gweinidogion y Deyrnas Unedig wrth gynnal y cynlluniau hyn.

Gellid lliniaru rhywfaint o’r pryderon trwy ddeall a manteisio ar gryfderau mawr y cyd-destun arloesedd rheilffyrdd sydd gennym yn y Deyrnas Unedig ac, yn ei dro, datblygu ffordd newydd o feddwl ac ymagwedd newydd at gaffael y fflyd newydd y mae ei hangen.

Mae manteisio ar y gallu sydd gennym yn y Deyrnas Unedig i ddatblygu, cynhyrchu a chynnal cerbydau rheilffyrdd yfory yn allweddol i’r ymagwedd newydd honno. Yn sgil cyfleuster newydd pwrpasol fel y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd a fydd yn weithredol yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf – cyfleuster a fydd yn cynyddu’r capasiti i brofi, cynnal a chadw ac uwchraddio cerbydau rheilffyrdd – gallai mesurau lliniaru risg cryfach ac, yn eu tro, ystyriaethau gwerth am arian gael eu cynnwys yn yr achos busnes sy’n ofynnol i gomisiynu asedau newydd yn y tu blaen gan fod eu gweithrediadau oes gyfan yn cael eu rheoli’n fwy effeithiol a’u hymestyn.

Mae cynllunio tymor hir yn sicr yn allweddol oherwydd bod heriau technegol yr hyn sydd o’n blaenau yn sylweddol. Mae adroddiad Cymdeithas y Diwydiant Rheilffyrdd yn tynnu sylw at gyflwyno technoleg System Rheoli Trenau Ewropeaidd (ETCS) ym mhob fflyd dros amser, ac mae angen i oblygiadau hyn fod yn fwy amlwg ar draws y gadwyn gyflenwi yn ddi-os.

Ond, unwaith eto, gallai deall a defnyddio cryfderau’r Deyrnas Unedig o ran arloesedd rheilffyrdd helpu i gefnogi rhai o’r penderfyniadau tymor hir y mae angen i ni eu gwneud.

Mae bod â chyfleuster arloesi, profi, dilysu ac ardystio yn y Deyrnas Unedig ar ffurf GCRE yn golygu bod gan y wlad lawer o’r offer allweddol y mae eu hangen i gefnogi a chyflymu’r broses o ddefnyddio’r dechnoleg ddargarboneiddio newydd sy’n ofynnol. Bydd hyn, yn ei dro, yn cynyddu effeithlonrwydd a chapasiti ar draws rhwydwaith y Deyrnas Unedig sydd, ynddo’i hun, yn cynnig cyfleoedd newydd cyffrous i gyflymu newid dulliau teithio i reilffyrdd teithwyr a chludo llwythi.

Mae’n hanfodol ein bod yn cael y penderfyniadau hyn yn iawn o safbwynt datblygu economaidd hefyd. Un o’r ffyrdd cadarnhaol y gallwn helpu i gefnogi economi fwy cytbwys ar draws y Deyrnas Unedig yw trwy ddatblygu cyfleoedd cadwyn gyflenwi tymor hir sy’n dod o’r newid i sero net.

Mae hyn yn arbennig o bwysig i gefnogi twf economaidd mewn rhannau o’r Deyrnas Unedig sydd wedi’u dad-ddiwydiannu. Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru i CAF yng Nghasnewydd wedi darparu cyfleoedd cyflogaeth a sgiliau newydd pwysig yn ne-ddwyrain Cymru, a bydd y buddsoddiad a wnaed gan ein dwy lywodraeth yn y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd yn ne-orllewin Cymru yn rhoi hwb cryf i dwf economaidd yn y cymunedau meysydd glo gerllaw.

Un o’r ffyrdd cadarnhaol y gallwn helpu i gefnogi economi fwy cytbwys ar draws y Deyrnas Unedig yw trwy ddatblygu cyfleoedd cadwyn gyflenwi newydd sy’n dod o’r newid i sero net, ac mae’r gwaith i ddatgarboneiddio’r rhwydwaith rheilffyrdd yn cynnig cyfle allweddol i wneud hyn.

Bydd mwy o sicrwydd o ran cyllid ac archebion nid yn unig yn helpu’r diwydiant i newid i sero net, ond hefyd yn rhoi sicrwydd economaidd y mae mawr angen amdano i weithgynhyrchwyr presennol sydd wedi’u lleoli yn y Deyrnas Unedig, yn ogystal â chynnig cyfle i gynllunio anghenion capasiti a chynnal a chadw ychwanegol.

Nid yw penderfyniadau fel y rhain byth yn hawdd a dylem wneud mwy fel diwydiant i weithio gyda Gweinidogion, ac wrth eu hochr, wrth iddynt ymgodymu â’r ystyriaethau ehangach y mae’n rhaid meddwl amdanynt. Ond mae mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a datgarboneiddio ein rhwydwaith rheilffyrdd yn bethau y mae’n rhaid iddynt ddigwydd a pho gyflymaf y cymerwn y camau nesaf hyn, gorau oll i ni – fel diwydiant ac fel economi.

Drwy gofrestru ar gyfer y cylchlythyr rydych yn cytuno i'n telerau ac amodau