
I'r Gymuned
Yr uchelgais ar gyfer safle GCRE yw ei wneud yn safle lle gall pobl a syniadau ddod at ei gilydd, er budd y diwydiant rheilffyrdd, yr amgylchedd, yr economi, ac yn hanfodol, y gymuned leol.
Canolfan Fyd-Eang Rhagoriaeth Rheillffyrdd Sioe Deithiol Gymunedol
Mae’r Ganolfan Fyd-eang ar gyfer Rhagoriaeth Rheilffyrdd yn un o’r datblygiadau seilwaith pwysicaf sydd wedi bod o fudd i’r ardal leol yn y blynyddoedd diwethaf, gydag effeithiau cadarnhaol ar yr economi, yr amgylchedd ac ar gyfer busnesau a chymunedau lleol gerllaw.
Mae gwaith bellach yn mynd rhagddo i adeiladu’r cyfleuster newydd – canolfan arloesi rheilffyrdd o’r radd flaenaf ar hen safle glo brig Nant Helen.
Rydym bob amser yn awyddus i siarad â thrigolion a rhanddeiliaid lleol am ein cynlluniau ehangach ar gyfer y safle a darparu ffyrdd ystyrlon i chi ofyn cwestiynau i'r tîm GCRE.
Yn ddiweddar cynhaliom gyfres o ddigwyddiadau 'Sioe Deithio' a gynlluniwyd i helpu cymunedau lleol i gwrdd â'r tîm GCRE a darganfod mwy am y cynlluniau cyffrous. Gellir dod o hyd i gopi o'r byrddau arddangos o'r digwyddiad hwnnw yn y ddolen isod.
Yn dilyn hyn a'r cwestiynau a ofynnwyd yn y sesiynau, rydym wedi paratoi dogfen cwestiwn ac ateb y byddwn yn ei diweddaru wrth i'r datblygiad fynd yn ei flaen.
Bydd y digwyddiadau sioe deithiol ddiweddar a gynhaliwyd gennym yn ddechrau ymgysylltu pellach â'r gymuned leol. Byddwn yn rhoi cyhoeddusrwydd i ddyddiadau digwyddiadau ac ymgysylltu pellach ar ein gwefan ac yn lleol.
I gael rhagor o wybodaeth am GCRE ewch i www.gcre.wales neu i gysylltu ag e-bost y tîm enquiries@gcre.wales.

Yfory economaidd mwy disglair
Mae’r weledigaeth ar gyfer y Ganolfan Fyd-Eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd bob amser wedi bod yn fwy o lawer na dim ond gosod trawstiau concrid a chledrau dur ar y ddaear.
Un o gryfderau sylfaenol y Ganolfan Fyd-Eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd yw’r gefnogaeth mae’r prosiect wedi’i chael gan gymunedau lleol, busnesau a’r gymdeithas ddinesig o amgylch y safle. Ac yntau’n brosiect datblygiad economaidd, mae GCRE yn gyfle pwysig i’r pentrefi cyfagos; i'r rhanbarth economaidd ehangach; i Gymru ac i’r DU yn gyffredinol.
Mae’r prosiect yn cynnig cyfle o ran swyddi o ansawdd da a sgiliau heddiw, a chyfle i adeiladu dyfodol economaidd mwy disglair ar gyfer y gymuned a’r bobl ifanc yn yr ardal. Mae’r cymorth hwnnw yr un mor bwysig i’r prosiect ag unrhyw ased arall.
Wedi ymrwymo i'r gymuned leol
Mae tîm y GCRE wedi ymrwymo i weithio gyda’r gymuned leol, o’r cyfnod adeiladu hyd at ei weithredu’n llwyddiannus, i sicrhau bod y weledigaeth ar gyfer y prosiect i’w gweld ac yn cael ei deall yn glir.
Mae GCRE yn ceisio deialog ddilys ynglŷn â beth yw’r prosiect a sut mae’n datblygu â’r gymuned leol. Bydd GCRE yn ffurfio Pwyllgor Cymuned Leol fel rhan o’i fframwaith llywodraethu y bydd yn ei ddefnyddio trwy gydol y prosiect – o’r cyfnod adeiladu hyd ei weithredu – i sicrhau bod llais y gymuned leol yn cael ei glywed.
Bydd mwy o fanylion am ymgysylltu â’r gymuned leol yn cael eu postio ar y dudalen hon.
