Beth yw rhyddid gwybodaeth?

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth (2000) yn rhoi mynediad i’r cyhoedd at wybodaeth sy’n cael ei chadw gan gyrff cyhoeddus. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus sicrhau bod gwybodaeth benodol ar gael fel mater o drefn drwy gael cynllun cyhoeddi. Bwriad y Ddeddf oedd sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn gweithredu mewn modd agored a thryloyw i ysbrydoli ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd. Mae hefyd yn sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn cael eu dal yn atebol am y ffordd y maent yn gwario arian trethdalwyr ac yn caniatáu i drafodaeth gyhoeddus fod yn seiliedig ar wybodaeth well ac yn fwy cynhyrchiol.

Fel corff cyhoeddus sydd ym mherchnogaeth lwyr Llywodraeth Cymru, mae GCRE Ltd yn ddarostyngedig i’r Ddeddf hon. Mae’r Ddeddf yn ymdrin ag unrhyw wybodaeth a gofnodwyd gan GCRE Ltd, gan gynnwys:

  • Data Amrwd a meta ddata 
  • Dogfennau wedi’u hargraffu
  • Dogfennau digidol
  • Llythyrau
  • Negeseuon E-bost
  • Lluniau a delweddau
  • Recordiadau sain

Nid yw’r Ddeddf yn ymdrin â gwybodaeth sydd gan rywun yn ei ben, ac nid oes rhaid i awdurdod cyhoeddus greu gwybodaeth newydd er mwyn ateb cais.

Cofnod Datgeliadau

Pwy gaiff wneud Cais Rhyddid Gwybodaeth?

Gall unrhyw un wneud cais Rhyddid Gwybodaeth i GCRE Ltd. Fodd bynnag, rhaid i chi roi eich enw cyfreithiol llawn a’ch cyfeiriad cyswllt (gall hwn fod yn gyfeiriad e-bost) er mwyn i’r cais fod yn ddilys.

Beth yw fy hawliau i?

Mae gan bawb hawl i weld gwybodaeth swyddogol

Rhaid i bob cais gael ei brosesu, gan ffafrio datgelu (cyfeirir at hyn fel ‘rhagdybiaeth o blaid datgelu’) oni bai fod yr wybodaeth dan sylw yn cael ei chynnwys o dan eithriad datganedig i’r Ddeddf

Nid oes angen i ymgeiswyr roi rheswm dros ofyn am wybodaeth

Rhaid trin pob cais yn gyfartal, oni bai ei fod yn flinderus

Gallwch wneud cais yn Gymraeg. Ni fydd hyn yn arwain at oedi wrth ymateb

Sut mae mynd ati i wneud cais Rhyddid Gwybodaeth?

Rhaid i gais Rhyddid Gwybodaeth gael ei wneud yn ysgrifenedig.

Cofiwch edrych ar ein cynllun cyhoeddi, ein log datgelu, ein tudalen tryloywder a’n tudalen prosiectau rhag ofn bod yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch eisoes ar gael yn rhwydd.

Os nad yw’r wybodaeth ar gael, anfonwch e-bost atom yn: FOI@GCRE.wales

Fel arall, gallwch wneud y canlynol ysgrifennu atom yn:


Canolfan Fyd-Eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd 

Onllwyn

Castell-nedd Port Talbot

SA10 9HN

  • Cofiwch roi eich enw cyfreithiol llawn a’ch cyfeiriad cyswllt (gall hwn fod yn gyfeiriad e-bost).
  • Cofiwch roi disgrifiad clir o’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch, gan ddefnyddio iaith syml.
  • Cofiwch anfon eich cais yn uniongyrchol i’r tîm Rhyddid Gwybodaeth gan ddefnyddio’r manylion cyswllt uchod.
  • Cofwich nodi’n glir eich bod yn gwneud cais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
  • Peidiwch â defnyddio’r broses Rhyddid Gwybodaeth fel ffordd o wneud cwyn fel cwsmer neu fynegi pryder. Yn hytrach, cysylltwch â’n Tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid enquiries@gcre.wales
  • Peidiwch â gwneud ceisiadau rhy gyffredinol am yr ‘holl’ wybodaeth yn ymwneud â mater penodol. Yn lle hynny, gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi’n union pa wybodaeth gofnodedig sydd ei hangen arnoch.
  • Peidiwch â ‘physgota’ am gyfleoedd masnachol posibl.
  • Peidiwch â gwneud yr un cais fwy nag unwaith oni bai fod yr amgylchiadau wedi newid.

Ar ôl cael eich cais, byddwn yn ymateb i’ch cais o fewn 20 diwrnod gwaith.

A fyddaf bob amser yn cael y wybodaeth y gofynnaf amdani?

Gallwn wrthod datgelu gwybodaeth am y rhesymau canlynol:

  • Byddai’n costio mwy na £450 (yn seiliedig ar 18 awr o amser staff ar gyfradd safonol o £25 yr awr) i ddarparu’r wybodaeth.
  • Mae'r wybodaeth dan sylw wedi'i heithrio rhag cael ei datgelu o dan y Ddeddf. Yn yr achos hwn, byddwn yn egluro ein bod yn cymhwyso'r eithriad perthnasol. Gellir gweld rhestr o'r eithriadau y gellir eu cymhwyso o dan y Ddeddf yma
  • Ystyrir bod eich cais yn flinderus neu wedi ei wneud o’r blaen.

Byddwn hefyd yn rhoi gwybod os nad oes gennym y wybodaeth sydd ei hangen arnoch, neu os yw’r wybodaeth yn cael ei chadw gan gorff cyhoeddus arall.

A oes tâl am ddarparu gwybodaeth?

Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn caniatáu i GCRE Cyf adennill rhai o'r costau gweinyddol yr eir iddynt wrth brosesu cais sy'n costio llai na £450. Ni chodir ffi unffurf, ond efallai y byddwn yn ystyried adennill costau cyfathrebu fel llungopïo, argraffu a phostio fesul achos. Fodd bynnag, os byddai cost cydymffurfio â’r cais yn fwy na’r terfyn costau o £450 a nodir yn y Ddeddf, efallai y byddwn yn cynnig darparu’r wybodaeth ac adennill y gost lawn, yn hytrach na gwrthod y cais. Os byddwn yn penderfynu codi ffi, byddwn yn rhoi hysbysiad ffioedd i chi. Mae’r penderfyniad i godi ffi, pa un a yw cost y cais yn fwy na’r terfyn cost a nodwyd, sef £450 neu beidio, yn unol â’n disgresiwn ni’n unig.

Beth os nad ydw i'n hapus gydag ymateb GCRE Ltd?

Os ydych chi’n anhapus â’n hymateb i’ch cais Rhyddid Gwybodaeth, mae gennych hawl i ofyn am adolygiad mewnol. Caiff yr adolygiad ei gwblhau o fewn 20 diwrnod gwaith, lle bynnag bo’n bosib, gan rywun ar wahân i’r person a atebodd yr ymateb gwreiddiol. Os byddwch yn dal yn anfodlon yn dilyn canlyniad yr adolygiad mewnol, byddwch yn cael eich cyfeirio i gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, a fydd yn ymchwilio i'ch cwyn.

Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol

Mae Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn rhoi'r hawl i aelodau'r cyhoedd gael mynediad at wybodaeth amgylcheddol a gedwir gan awdurdodau cyhoeddus. Mae'r Rheoliadau'n berthnasol i wybodaeth amgylcheddol yn unig, tra bod Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi mynediad i'r rhan fwyaf o fathau eraill o wybodaeth.

Beth yw Gwybodaeth Amgylcheddol?

Mae’r rheoliadau’n cwmpasu unrhyw wybodaeth a gofnodwyd sy’n ymwneud â chyflwr yr amgylchedd, megis:

  • Gwybodaeth am gyflwr aer, dŵr, pridd, tir, fflora a ffawna
  • Gwybodaeth am allyriadau a gollyngiadau, sŵn, ynni, ymbelydredd, gwastraff
  • Cyflwr iechyd a diogelwch dynol
  • Polisïau, cynlluniau a chytundebau

Nid yw'r rheoliadau'n cynnwys gwybodaeth sydd ym mhen rhywun.

Pwy all wneud cais am wybodaeth o dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol?

Gall unrhyw un wneud cais Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol i GCRE Ltd. I wneud cais rhaid i chi roi eich enw llawn a'ch cyfeiriad cyswllt (gall hwn fod yn gyfeiriad e-bost).

Sut y gellir gwneud cais?

Rydych yn gwneud cais gan ddefnyddio'r un wybodaeth gyswllt â'r wybodaeth a restrir ar gyfer ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth uchod. Ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn arwain at oedi wrth ymateb.

Pa mor hir fydd yn rhaid i mi aros am ymateb?

Yn yr un modd â chais Rhyddid Gwybodaeth, fel arfer rhaid ateb Cais Rheoliadau Amgylcheddol o fewn 20 diwrnod gwaith i dderbyn y cais. Fodd bynnag, mae'r rheoliadau'n nodi y gellir ymestyn y cyfnod hwn i 40 diwrnod gwaith os yw'r cais yn un sylweddol neu gymhleth.

A fyddaf bob amser yn cael y wybodaeth y gofynnaf amdani?

Gallwn wrthod datgelu gwybodaeth os yw un o’r eithriadau a amlinellir yn y rheoliadau yn berthnasol. Mae'r holl eithriadau yn amodol ar brawf lles y cyhoedd.

A oes tâl am ddarparu gwybodaeth?

Nid yw’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol yn diffinio swm ‘rhesymol’ o arian nac amser y dylai awdurdod cyhoeddus ei dreulio ar gais; fodd bynnag, mae’n bosibl y byddwn yn codi ffi resymol am ddatgelu gwybodaeth pan fydd ceisiadau’n rhoi cryn bwysau ar ein hadnoddau.

Beth os nad wyf yn hapus ag ymateb GCRE?

Os ydych yn anhapus gyda'n hymateb i'ch cais Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, mae gennych yr hawl i ofyn am adolygiad mewnol. Rhaid i'r cais am adolygiad ddod i law o fewn 40 diwrnod gwaith o dderbyn ein gwrthodiad; a bydd yr adolygiad ei hun yn cael ei gwblhau o fewn 40 diwrnod gwaith gan benderfynwr cychwynnol uwch. Os byddwch yn parhau i fod yn anhapus ar ôl canlyniad yr adolygiad mewnol, cewch eich cyfeirio i gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), a fydd yn ymchwilio i'ch cwyn.

Ein Cynllun Cyhoeddi

Yn ogystal ag ymateb i geisiadau gan y cyhoedd am wybodaeth, mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn ei gwneud yn ofynnol i ni fynd ati’n rhagweithiol i gyhoeddi gwybodaeth ar ein gwefan. Dyma isafswm y wybodaeth y mae’n rhaid i ni ei datgelu o dan y Ddeddf.

Gwneud cais am eich gwybodaeth bersonol

Ni ellir cael data personol (gwybodaeth amdanoch chi eich hun) dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Os ydych chi am wneud cais am yr wybodaeth hon, rhaid i chi wneud Cais Gwrthrych am Wybodaeth. Anfonwch eich cais at: SAR@gcre.wales

Dolenni defnyddiol

Gwefan ICO – Canllaw i ryddid gwybodaeth | ICO