‘A unique facility and a unique investment opportunity’ – GCRE takes next step in private investment process
Heddiw, amlinellodd y Ganolfan Fyd-Eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd (GCRE) y cam nesaf yn ei chynlluniau i ddenu buddsoddiad sector preifat i’r cwmni, GCRE Ltd.
Pan fydd yn agor yn 2025, bydd GCRE yn gyfleuster sy’n darparu ymchwil, profion ac ardystio o’r radd flaenaf o ran cerbydau rheilffyrdd, seilwaith a thechnolegau newydd arloesol a fydd yn llenwi bwlch strategol, nid yn unig ym maes rheilffyrdd y DU ond ledled Ewrop.
Ym mis Tachwedd y llynedd, cyhoeddodd GCRE Ltd hysbysiad gwybodaeth ymlaen llaw, yn nodi ei fwriad i wahodd buddsoddwyr o bob cwr o’r byd i ymgymryd â chyfran ecwiti reoli fwyafrifol yn ei busnes i gefnogi ac ariannu camau datblygu nesaf y cyfleuster arloesi rheilffyrdd y mae’n ei adeiladu yn ne Cymru.
Heddiw, mae GCRE Ltd yn lansio’r broses gaffael yn ffurfiol, trwy gyhoeddi Hysbysiad Contract a Holiadur Dewis, yn gwahodd ymgeiswyr i rag-gymhwyso. Mae Memorandwm Gwybodaeth yn amlinellu mwy o fanylion am y cyfle i fuddsoddi ar gael ar gais (yn amodol ar lofnodi cytundeb cyfrinachedd).
Gan fod £50m o arian cyhoeddus eisoes yn ei le gan Lywodraeth Cymru ac £20m gan Lywodraeth y DU, mae GCRE bellach yn chwilio am un buddsoddwr, neu gonsortiwm o fuddsoddwyr, i helpu ariannu’r cyfleuster arloesi hyd at ei gwblhau a chefnogi potensial masnachol ehangach y safle 700 hectar.
Yn ôl amcan, £400m fydd cyfanswm y gost gyfalaf ar gyfer camau buddsoddi 1 a 2. Mae’r camau buddsoddi hyn yn cynnwys darparu’r seilwaith rheilffyrdd, safle busnes newydd, cyfleusterau cynnal a chadw, a gwesty. Cynigir y bydd y gost gyfalaf amcangyfrifedig yn cael ei ddarparu trwy gyllid cyhoeddus a ymrwymwyd eisoes a buddsoddiad preifat, newydd y ceisir trwy’r broses gaffael.
Meddai Simon Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Fyd-Eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd:
“Bydd y Ganolfan Fyd-Eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd yn gyfleuster unigryw ym maes rheilffyrdd Ewrop. Bydd yn ateb y galw sylweddol sydd wedi bodoli ers blynyddoedd lawer yn y sector am safle integredig, pwrpasol ar gyfer ymchwil, arloesi, profion a dilysu o’r radd flaenaf o ran cynnyrch, technolegau a phrosesau newydd.
“Credwn fod y cwsmeriaid sydd angen ac sydd am ddefnyddio cyfleuster fel hwn – nid dim ond yma, ond ledled Ewrop – yn arwyddocaol ac mae hynny yn ei dro’n golygu bod GCRE Ltd yn gynnig masnachol cadarn ac yn gyfle buddsoddi unigryw.
“Heddiw, rydym wedi cyhoeddi manylion pellach am y cyfle hwnnw i ddarpar fuddsoddwyr, gan nodi carreg filltir bwysig yn y broses gaffael. Mae llawer o waith o’n blaenau, ond mae’r hyn rydym wedi’i gyhoeddi heddiw yn darparu platfform cadarn ar gyfer y misoedd pwysig i ddod.”
Mae disgwyl i’r broses caffael cyhoeddus bara tan hydref 2023. Yn dilyn hyn, disgwylir y bydd GCRE ym mherchnogaeth fwyafrifol buddsoddwr/buddsoddwyr preifat.
Ychwanegodd Simon Jones:
“Mae gan GCRE Ltd weledigaeth uchelgeisiol i greu cyfleuster sydd wir o’r radd flaenaf, a all drawsnewid arloesi ledled maes rheilffyrdd Ewrop, gyda buddion lluosog i’r sector, i’r trethdalwr ac i’n heconomi.
“I’r diwydiant, gallwn gyflymu arloesi a dod â nwyddau i’r farchnad yn gyflymach; i lywodraethau, gallwn leihau cost rheilffyrdd trwy helpu i gyflawni prosiectau mawr yn unol â’r amserlen a’r gyllideb; ac i genedlaethau’r dyfodol, gallwn helpu i gyflymu’r ffordd tuag at sero net a helpu i greu swyddi o ansawdd da mewn ardal sydd angen swyddi o’r fath.
“Heddiw, rydym wedi cymryd cam pwysig tuag at wireddu’r uchelgais honno ac rydym yn annog darpar fuddsoddwyr o bob cwr o’r byd i ystyried y cyfle buddsoddi cryf y mae GCRE Ltd yn ei gynrychioli.”
Dyma gam cyn-cymhwyso’r broses gaffael. Ar ôl eu dewis, bydd cynigwyr wedi cael eu gwahodd i’r cam tendro a bydd gwybodaeth ychwanegol yn cael ei darparu iddynt, gan gynnwys dadansoddiadau manwl, fel y model ariannol, refeniw a chleientiaid.
Yn cefnogi GCRE â’r broses gaffael y mae’r cynghorwyr Ernst and Young ac Ashurst LLP.
Gall darpar fuddsoddwyr sydd am weld yr Hysbysiad Contract a’r Holiadur Dewis a gyhoeddwyd heddiw wneud hynny yma: