GCRE yn gwneud addewid cyhoeddus ynglŷn ag adfer y ‘Gacen Briodas’

Gwaith i leihau tomen sborion i ddechrau cyn gynted â phosibl

Mae’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd yn gweithio gyda chynghorau Powys a Chastell-nedd i alluogi adfer y domen sborion ddadleuol a adwaenir yn lleol fel y ‘Gacen Briodas’. Bydd gwaith yn dechrau yn y misoedd i ddod yn amodol ar gytuno ar y caniatadau a’r cydsyniadau angenrheidiol.

Mae GCRE Limited yn adeiladu cyfleuster arloesedd rheilffyrdd mawr newydd yn ne Cymru. Bwriedir i’r safle ddod yn lleoliad ar gyfer gwaith ymchwil, profi ac ardystio cerbydau rheilffyrdd, seilwaith a thechnolegau newydd arloesol o’r radd flaenaf a fydd yn llenwi bwlch strategol nid yn unig ym maes rheilffyrdd yn y Deyrnas Unedig, ond ledled Ewrop.

Caffaelodd GCRE ei safle 700 hectar ym mis Medi 2022, gan gynnwys hen waith glo brig Nant Helen.

Law yn llaw â’r trosglwyddiad tir, etifeddodd rwymedigaethau hefyd i leihau uchder ac effaith weledol y domen sborion sy’n weddill yn unol ag amodau cynllunio ar gyfer adfer y safle.

Dywedodd Prif Weithredwr GCRE, Simon Jones, fod dileu rhan uchaf y domen wedi dod yn fater o ‘ymddiriedaeth’ a’i bod yn bwysig bod y cwmni’n gwireddu dymuniadau’r gymuned leol.

Dywedodd Prif Weithredwr GCRE Limited, Simon Jones:

“Rwy’n falch iawn o gyhoeddi bod y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd wedi ymrwymo i leihau uchder y domen sborion a adwaenir yn lleol fel y ‘Gacen Briodas’, ac i sicrhau bod y gwaith yn creu tirffurf wedi’i adfer sy’n dderbyniol i’r cymunedau lleol.

“Fel y bydd pobl yn gwybod, pan ddaeth safle GCRE i’n perchnogaeth ym mis Medi 2022, gwnaethom hefyd etifeddu her y domen sborion. Bryd hynny, nid oedd gwaith adfer wedi cael ei wneud ar y domen eto ac nid oedd yn glir a oedd digon o gyllid etifeddol i leihau uchder y domen yn unol â’r rhwymedigaethau a nodwyd yn y caniatâd cynllunio.

“Yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym wedi bod yn gwrando ar y gymuned leol a chlywed eu hawydd clir iawn i weld y domen hon yn cael ei lleihau. Ond rydym hefyd wedi bod yn ymgodymu â’r her o sut gallem ariannu’r gwaith adfer hwnnw’n gynaliadwy.

“Mae’n bleser gennyf ddweud, ar ôl gweithio’n agos ac yn gadarnhaol gyda gwleidyddion a swyddogion o gynghorau Castell-nedd Port Talbot a Phowys, rydym bellach mewn sefyllfa i ymrwymo i leihau’r domen orsborion ac y bydd gwaith yn dechrau cyn gynted â phosibl.

“Yr hyn sy’n glir iawn i ni fel cwmni – ac sy’n sail i’r ymrwymiad hwn – yw ein cred bendant bod y gymuned yn haeddu’r gwaith adfer hwn. Byddwn yn dod o hyd i’r arian y mae ei angen i wneud hyn trwy gynnwys dileu’r domen yn ein hymagwedd ddatblygu ehangach ar gyfer safle cyffredinol GCRE.

“Mae’r cymunedau lleol o amgylch y safle wedi bod yn wych i ni fel cwmni trwy roi cefnogaeth bwysig iawn i GCRE. Mater o ymddiriedaeth yw hwn, sef ein bod yn cydnabod y gefnogaeth honno trwy ymrwymo i wneud y gwaith ar y domen sborion.

“Gobeithiaf fod hyn yn dangos ein bwriad, wrth symud ymlaen, i ddatblygu perthynas agos â’r gymuned leol o ran sut byddwn yn cydweithio i ddatblygu gweledigaeth GCRE.

“Byddwn yn gweithio’n galed i wrando ar bryderon pobl leol ac yn ymateb yn gadarnhaol, lle y bo modd, fel y gallwn gyflawni’r swyddi lleol, y sgiliau a’r effaith rydym yn gwybod y bydd y cyfleuster yn eu cynnig.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Steve Hunt:

“’Does dim dwywaith y bydd datblygiad GCRE yn darparu gallu unigryw yn y Deyrnas Unedig ac Ewrop i gefnogi arloesedd yn y diwydiant rheilffyrdd yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, gan gynnwys profi technolegau gwyrdd, arloesol. Ar y sail hon, mae cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi bod yn gweithio’n agos gyda thîm GCRE a Chyngor Powys i sicrhau bod buddion y datblygiad hwn nid yn unig yn cael eu gwireddu ar gyfer y diwydiant rheilffyrdd, ond eu bod hefyd o fudd uniongyrchol i’r cymunedau amgylchynol.”

“Ac fel cynghorydd ward ar gyfer Creunant, Onllwyn a Blaendulais, rwy’n falch o weld y bwriad a ddangoswyd gan GCRE i fod yn sefydliad sy’n gwrando ac ymrwymo i fynd i’r afael â sefyllfa’r gorsborion ‘cacen briodas’ a godwyd gan breswylwyr lleol.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd James Gibson Watt:

“Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio ar y cyd gyda GCRE a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ar y prosiect cyffrous iawn hwn sy’n amlwg o arwyddocâd cenedlaethol. Croesawn ymrwymiad GCRE i leihau’r domen orsborion a bydd ein tîm cynllunio yn gweithio’n agos gyda nhw i sicrhau bod y tirffurf adfer tymor hir mwyaf priodol yn cael ei gyflawni ar gyfer y safle cyfan, gan gynnwys y “gacen briodas”, fel y’i gelwir, a gwagle terfynol y gweithrediadau glo brig.”

Drwy gofrestru ar gyfer y cylchlythyr rydych yn cytuno i'n telerau ac amodau