Bydd partneriaeth Hitachi â’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd yn darparu ynni o ffynonellau diogel ac arloesedd yn y Deyrnas Unedig
- Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cefnogi cydweithrediad Hitachi a’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd (GCRE) i gyflymu arloesedd ar gyfer teithwyr rheilffyrdd a darparu gwerth am arian
- Hitachi Rail yn llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth i brofi cerbydau rheilffyrdd, datrysiadau digidol a thechnoleg fatri yn GCRE yng Nghymru
- Hitachi Energy yn ennill contract GCRE i wella diogeledd ynni gyda’u Trawsnewidydd Amledd Statig sy’n arwain y ffordd yn y diwydiant
Yn gynharach heddiw, llofnododd Hitachi Rail a’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd (GCRE) gytundeb i brofi’r dechnoleg ddiweddaraf ym maes rheilffyrdd. Daw hyn ar ôl i Hitachi Energy ennill tendr cystadleuol i ddarparu Trawsnewidydd Amledd Statig i reoli’r grid pŵer a darparu diogeledd ynni.
Mae’r bartneriaeth strategol hon yn dangos ymagwedd gydweithredol Hitachi, gan ddefnyddio ei arbenigedd eang mewn Ynni Gwyrdd a Symudedd i gyflawni datrysiadau arloesol o’r gwynt i’r olwyn yn y Deyrnas Unedig.
Hitachi Rail i brofi technoleg reilffyrdd arloesol
Mewn cam a fydd yn rhoi hwb mawr i gadwyn gyflenwi reilffyrdd y Deyrnas Unedig, bydd Hitachi yn profi trenau newydd a adeiladwyd ym Mhrydain, technoleg fatri a datrysiadau digidol yn y cyfleuster profi yng Nghymru sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang.
Bydd Hitachi yn defnyddio cyfleuster £400m GCRE i brofi cerbydau rheilffyrdd y dyfodol a’i dechnoleg fatri arloesol, a ddatblygwyd ar y cyd â’r cwmni Turntide o Sunderland, yn y safle.
Mae Hitachi a GCRE yn gweld cyfle i wneud y safle’n ganolfan ar gyfer technoleg reilffyrdd ddigidol trwy brofi datrysiadau monitro seilwaith a signalau digidol.
Mae Hitachi wedi datblygu datrysiadau digidol sy’n gallu awtomeiddio prosesau monitro traciau, llinellau uwchben a llystyfiant, er mwyn nodi diffygion yn fanwl a lleihau costau. Gall GCRE gefnogi’r camau datblygu nesaf, sy’n cynnwys defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) i ragfynegi mannau sydd mewn perygl o ddatblygu diffygion a lle byddai’n werth gwneud gwaith cynnal a chadw ataliol.
Mae gan Hitachi 187 o drenau rhyng-ddinas sy’n gwasanaethu teithwyr gyda System Rheoli Trenau Ewropeaidd (ETCS). Mae hyn yn creu cyfle i brofi uwchraddiadau i’r ETCS yn y dyfodol er mwyn sicrhau newid didrafferth mewn signalau digidol.
GCRE i gyflymu’r broses o fabwysiadu technoleg
Ar hyn o bryd, mae technoleg newydd yn cael ei phrofi ar rwydwaith rheilffyrdd presennol y Deyrnas Unedig. Yn ddealladwy, cyfyngir ar fynediad i draciau ac amser profi er mwyn peidio ag effeithio ar deithwyr. Mae cyfleuster GCRE yn cynyddu hyblygrwydd a chyfleoedd i gynnal profion, gan leihau’r amser mae’n ei gymryd i wella a dilysu arloesiadau newydd. Bydd GCRE yn helpu i foderneiddio rheilffyrdd trwy gau’r bwlch rhwng datblygu a mabwysiadu.
At hynny, bydd profi technoleg reilffyrdd arloesol Hitachi yn helpu i greu sylfaen sgiliau digidol newydd mewn safle yng Nghymru, ac yn cefnogi swyddi yn y gadwyn gyflenwi ehangach.
Canolfan arloesedd rheilffyrdd bwrpasol yw GCRE sy’n cael ei hadeiladu yn ne Cymru a fydd yn darparu safle ar gyfer gwaith ymchwil, profi ac ardystio cerbydau rheilffyrdd, seilwaith a thechnolegau rheilffyrdd newydd arloesol o’r radd flaenaf.
Bydd y safle’n darparu gwasanaethau ar gyfer marchnad yn y Deyrnas Unedig ac Ewrop. Ar hyn o bryd, nid oes cyfleuster penodol a adeiladwyd i’r diben ar gyfer profi seilwaith rheilffyrdd yn Ewrop, nac ychwaith ddolen profi rheilffyrdd ar y raddfa hon yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig.
Arbenigedd diogeledd ynni Hitachi Energy, sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang, yn dod i Gymru
Gall cyflenwadau tyniant ar gyfer rheilffyrdd gyflwyno heriau unigryw i’r rhwydwaith trydanol. Mae defnyddio trawsnewidyddion amledd statig (SFC) Hitachi Energy yn dileu’r heriau hyn ac yn darparu cyflenwad sefydlog i’r cerbydau rheilffyrdd. Mae hefyd yn golygu y gellir defnyddio ynni adnewyddadwy ac yn helpu’r prosiect GCRE i ddod yn rheilffordd sero net gyntaf y Deyrnas Unedig.
Ers dros 40 mlynedd, mae technoleg Hitachi Energy wedi cael ei defnyddio ar gyfer cymwysiadau rheilffyrdd gyda datrysiad profedig ar gyfer gridiau rheilffyrdd. Mae ei dechnoleg ddyfeisgar a’i algorithmau rheoli arloesol wedi galluogi’r newid tuag at grid rheilffyrdd modern sy’n cael ei fwydo gan SFC, gan sicrhau ei sefydlogrwydd a’i berfformiad.
Mae caledwedd drawsnewidydd a meddalwedd reoli’r SFC, a ddewiswyd gan GCRE, yn ymdrin ag anghenion arbennig cymwysiadau rheilffyrdd. Yn wir, mae’r dyluniad mecanyddol a’r cynhwysydd gorchuddiol yn lleihau’r ôl troed, risgiau ar y safle, ac amser gosod, ar yr un pryd â sicrhau y gellir cael at y cydrannau’n rhwydd er mwyn hwyluso cynnal a chadw a chywiro diffygion. Yn ogystal, mae’n darparu hyblygrwydd o ran gosodiad i optimeiddio paramedrau’r safle.
Dywedodd Gweinidog yr Economi Cymru, yr Aelod o’r Senedd Vaughan Gething:
“Mae’r bartneriaeth newydd gyffrous hon rhwng Hitachi a’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd yn newyddion gwych i Gymru. Mae’n amlygu’r partneriaid masnachol pwysig o safon uchel sydd â diddordeb mewn profi ac arloesi yn yr hyn a fydd wir yn gyfleuster o’r radd flaenaf.
“Mae hyn yn dangos pam roedd Llywodraeth Cymru’n iawn i fuddsoddi yn GCRE a helpu i ddatblygu’r cysyniad cyffrous hwn. Gall Hitachi weld y potensial a’r gwerth ychwanegol unigryw y bydd y cyfleuster hwn yn eu darparu. Mawr obeithiaf weld mwy o bartneriaethau creadigol yn cael eu datblygu gyda GCRE yn y dyfodol.”
Dywedodd y Gweinidog Diwydiant a Diogelwch Economaidd, yr Aelod Seneddol Nusrat Ghani:
“Mae partneriaeth Hitachi â’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd yn arwydd o hyder yn ein diwydiant rheilffyrdd ac yn gam pwysig ymlaen yn y ras tuag at reilffyrdd sero net yn y Deyrnas Unedig
“Bydd GCRE yn allweddol i ddatgarboneiddio ein rhwydwaith rheilffyrdd, gan helpu i leihau costau rheilffyrdd a chreu swyddi a sgiliau newydd trwy’r partneriaethau mae’n eu sicrhau, fel yr un hon gyda Hitachi.”
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrhydeddus Aelod Seneddol David TC Davies:
“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn croesawu’r bartneriaeth rhwng Hitachi a’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd. Mae’n dangos yr hyn y gall GCRE ei wneud i gefnogi ein diwydiant rheilffyrdd a’r gwerth ychwanegol sy’n gysylltiedig â chael gallu o’r fath yma yn y Deyrnas Unedig – gan ddangos pam mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi buddsoddi £20 miliwn yn y cyfleuster a hefyd darparu £7.4m trwy Innovate UK ar gyfer Ymchwil a Datblygu.
“Gallai’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd greu swyddi newydd, annog twf a lledaenu ffyniant yng Nghymru. Bydd partneriaethau fel yr un hon gyda Hitachi yn gwireddu’r weledigaeth honno.”
Dywedodd Jim Brewin, Pennaeth y Deyrnas Unedig ac Iwerddon yn Hitachi Rail:
“Mae’r bartneriaeth hon yn atgyfnerthu ymrwymiad Hitachi i arloesedd a’r gadwyn gyflenwi yn y Deyrnas Unedig, yr ydym eisoes wedi gwario dros £2.6 biliwn arnynt yn y Deyrnas Unedig ers 2015.
Trwy’r cytundeb cychwynnol hwn, rydym yn falch o helpu GCRE i wireddu ei photensial a’i huchelgais i ddod yn ganolfan fyd-eang ar gyfer arloesedd rheilffyrdd. Yn y pen draw, bydd y gallu i brofi trenau a thechnoleg Prydeinig ar y ddolen brofi yng Nghymru o fudd i deithwyr rheilffyrdd ac economi’r Deyrnas Unedig.”
Dywedodd Laura Fleming, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwledydd y Deyrnas Unedig ac Iwerddon yn Hitachi Energy:
“Mae Hitachi Energy yn falch o gyfrannu yn rhan o’r Bartneriaeth Un Hitachi gyda’i thechnoleg trawsnewidydd amledd statig hen sefydledig ar gyfer rheilffyrdd – datrysiad cadarn, arloesol sy’n darparu gwasanaeth tymor hir dibynadwy a manteision sylweddol o ran ansawdd pŵer gwell ac ymddygiad rheoli profedig i’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd (GCRE) yng Nghymru. Mae’n enghraifft wych o gydweithio ac arloesi i gyflymu’r newid i ynni o fath gwahanol.”
Dywedodd Prif Weithredwr y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd, Simon Jones:
“Mae’n wych cytuno ar y bartneriaeth hon gyda Hitachi. Bydd y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd rydym yn ei hadeiladu yn ne Cymru yn safle ar gyfer arloesedd rheilffyrdd a seilwaith o’r radd flaenaf, rhywle y bydd ganddo adnoddau da iawn i gefnogi Hitachi Rail a Hitachi Energy â’u gwaith blaengar. Mae’r bartneriaeth hon yn gweddu’n dda iawn i’r ddau barti yn strategol.
“Mae cytuno ar y fargen hon gyda Hitachi yn eiliad fawr i’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd. Mae’r ffaith bod partner sydd mor bwysig ac arwyddocaol yn fyd-eang wedi cael ei sicrhau i wneud ei waith profi ac ymchwilio ar y safle yn dangos yn glir safon ac ansawdd y cleientiaid y byddwn yn gweithio gyda nhw yn ein cyfleuster.
“Yr hyn sy’n rhoi boddhad arbennig yw’r neges y mae’n ei chyfleu i’r diwydiant cyfan ynglŷn â hygrededd ac atynioldeb yr hyn y mae GCRE yn ei gynnig.
“Yn rhan o’r cytundeb hwn, mae hefyd yn bleser cyhoeddi y bydd Hitachi yn darparu’r Trawsnewidydd Amledd Statig sy’n angenrheidiol i gyflyru’r ynni y mae arnom ei angen i drydaneiddio’r hyn a fydd yn rheilffordd sero net weithredol gyntaf y Deyrnas Unedig. Mae’n ddarn allweddol o seilwaith ar gyfer ein safle sy’n cynrychioli’r math o dechnoleg a fydd yn angenrheidiol i drydaneiddio rheilffyrdd y Deyrnas Unedig yn haws, ac rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Hitachi i’w sicrhau.”
-DIWEDD-