
Cadwyn gyflenwi gadarn ac effeithiol
I wireddu gweledigaeth uchelgeisiol GCRE, mae angen i ni greu cadwyn gyflenwi gadarn ac effeithiol i’n helpu i adeiladu’r cyfleuster newydd a’i wneud yn llwyddiant ar gyfer y tymor hir.
Gweledigaeth y GCRE
Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym wedi bod yn siarad â chyflenwyr a chontractwyr, mawr a bach, ac yn dweud wrthynt am ystod y cyfleoedd i gymryd rhan – o gontractau Haen 1 i gyfleoedd ar gyfer cwmnïau lleol.
O ddatblygu systemau rheilffyrdd gweithredol i godi adeiladau masnachol ar y safle; o ddatblygu ein system ynni i brynu deunyddiau crynswth, mae gennym amrywiaeth o ffyrdd y gallwch chi fel cyflenwyr gymryd rhan.