Canolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd

Mae’r Ganolfan Fyd-Eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd (GCRE) yn gyfleuster newydd pwrpasol sy’n cael ei adeiladu yn Ne Cymru, a fydd yn dod yn brif ganolfan arloesi rheilffyrdd yn Ewrop.

'Siop un stop'

Bydd y Ganolfan Ragoriaeth Rheilffyrdd Fyd-eang yn 'siop un stop’ ar gyfer profi cerbydau rheilffyrdd a chefnogi ymchwil, datblygu ac ardystio o’r radd flaenaf o ran seilwaith rheilffyrdd – rhywbeth nad yw’n bodoli ar un safle yn y DU nac yn Ewrop ar hyn o bryd.

Bydd y cyfleuster yn weithredol 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, ac yn cynnwys dwy ddolen brofi wedi’u trydaneiddio: un ohonynt yn drac cerbydau rheilffyrdd cyflymdra uchel 6.9km a’r llall yn drac 4km ar gyfer profi seilwaith trwm.

Bydd y cyfleuster yn agor yn 2025, a dyma fydd y rheilffordd sero net gyntaf erioed yn y DU, yn cefnogi’r arloesedd sydd ei angen i gynorthwyo llwybr y DU at fod yn sero net, ac yn hanfodol, yn helpu gostwng costau prosiectau seilwaith rheilffyrdd mawr. Bydd y cyfleuster, sydd wedi’i leoli ar hen fwynglawdd brig yng Nghwm Dulais, yn creu swyddi tymor hir, o ansawdd uchel, mewn ardal amddifadedd lluosog, ac yn dod yn atyniadol i fuddsoddiadau eraill, o ansawdd uchel, a chyllid ymchwil a datblygu fel rhan o bolisi diwydiannol gweithredol.

Y Bwlch Strategol mewn Rheilffyrdd Heddiw

Mae rheilffordd yn un o’n hasedau seilwaith cenedlaethol mwyaf allweddol. Mae’n cyflogi mwy na 200,000 o bobl ac yn cyfrannu £36 biliwn bob blwyddyn at economi’r DU. Cyn y pandemig, roedd rheilffyrdd y DU yn gweithredu mwy na 20,000 o wasanaethau ar ddiwrnod cyffredin, ac mae dros 21,000 o filltiroedd o draciau a seilwaith cysylltiedig i’w cynnal a’u huwchraddio ledled y DU. Mae prosiectau seilwaith mawr wedi’u cynllunio ym mhob cwr o’r wlad.

Ond er bod ein heconomi, ein bywydau a’n gwlad yn dibynnu ar y rhwydwaith hwn, mae darn o’r jig-so wedi bod ar goll o hyd mewn profion rheilffyrdd, ac yn enwedig arloesedd seilwaith. Ni fu un cyfleuster integredig yn y DU ac Ewrop i brofi seilwaith rheilffyrdd, cerbydau rheilffyrdd, signalau a thechnoleg newydd a bod yn un safle sy’n gartref i ymchwil a datblygu o’r radd flaenaf. Mae hynny’n achosi nifer o broblemau sylweddol ar draws y diwydiant, gan gynnwys gyda phrosiectau mawr sydd wedi’u heffeithio gan oedi sylweddol a mynd y tu hwnt i’r gyllideb a achoswyd gan ddiffyg profion cynnar ac integreiddio. Yn aml, defnyddir opsiynau arferol i droi atynt, fel profi ar y brif linell.

Rhoddwyd caniatâd cynllunio amlinellol i GCRE gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Powys yn 2021. Mae ystod o ymgynghorwyr a chontractwyr bellach yn gweithio mewn cynghrair i ddylunio’r safle a dechrau paratoi ar gyfer adeiladu. Mae’r safle 700 hectar yr un maint â Gibraltar.

Buddion Polisi Cyhoeddus GCRE

Bydd cael cyfleuster dynodedig fel GCRE lle gellir cynnal profion integredig ar un safle yn cynnig buddion lluosog i’r diwydiant rheilffyrdd, ac amcanion eraill y llywodraeth, ar draws adrannau, gan gynnwys:


I’r diwydiant rheilffyrdd

Bydd GCRE yn llenwi bwlch strategol yn y DU ac yn Ewrop fel lle i gynnal profion, ymchwil ac ardystio o’r radd flaenaf o ran cerbydau rheilffyrdd, seilwaith, technoleg a syniadau newydd, gan helpu cyflymu arloesedd a dod â chynhyrchion newydd i’r farchnad yn gyflymach.

I lywodraethau ledled y DU ac Ewrop,

Bydd GCRE yn cefnogi gwerth gwell am arian ac yn cefnogi rheoli costau’n well trwy brofi syniadau ac arloesiadau newydd cyn eu defnyddio mewn prosiectau pwysig, gan helpu datblygu’r systemau trafnidiaeth, fel eu bod yn gyflymach ac yn fwy effeithlon yn y dyfodol. Bydd angen cyfiawnhau a rhoi cyfrif am bob ceiniog o fuddsoddiad cyhoeddus mewn prosiectau seilwaith mawr mor effeithlon ac mor effeithiol ag y bo modd – dyna ble gall GCRE helpu.

Ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol

Bydd GCRE yn cefnogi ein hangen brys, cyfunol, i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a chyrraedd sero net trwy helpu datblygu technolegau rheilffordd a thrafnidiaeth newydd a all gael eu defnyddio’n gyflymach i leihau allyriadau carbon ac annog mwy o bobl i ddefnyddio ein rheilffyrdd. Yn syml, rhaid i’r DU fodloni’r targedau estynedig, cyfreithiol rwymol i leihau carbon y mae wedi’u gosod erbyn 2050, a bydd hynny’n golygu datblygu technolegau rheilffyrdd newydd fel hydrogen a batri a all gefnogi’r gwaith hwnnw.

Ac i'r Economi

Bydd GCRE yn creu swyddi tymor hir, o ansawdd da ac yn cefnogi creu sgiliau newydd, gan ddod yn brosiect atyniadol a all ddenu buddsoddiadau eraill o ansawdd uchel. 

Dechreuodd ymarfer caffael cyhoeddus ar 23 Tachwedd i sicrhau buddsoddiad preifat ar gyfer y prosiect. Disgwylir y bydd y broses hon yn dod i ben yn hydref 2023.

Drwy gofrestru ar gyfer y cylchlythyr rydych yn cytuno i'n telerau ac amodau