GCRE yn penodi Rob Forde i rôl ‘Strategaeth a Sgiliau’ ‘allweddol’
Mae GCRE Limited wedi cryfhau ei thîm gweithredol ymhellach trwy benodi Rob Forde yn Gyfarwyddwr Strategaeth a Sgiliau newydd y cwmni.
Wrth gyhoeddi ei benodiad, croesawodd y Prif Weithredwr Simon Jones y Cyfarwyddwr newydd, sy’n ymuno â thîm y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd (GCRE) o Network Rail.
Bydd Rob yn goruchwylio strategaeth sgiliau a hirdymor GCRE, gan weithio gyda chleientiaid, academyddion a phartneriaid yn y diwydiant i gyflymu cylchoedd ymchwil a datblygu yn y cyfleuster arloesedd rheilffyrdd newydd sydd wrthi’n cael ei adeiladu yn ne Cymru.
Cyn ymuno â GCRE, roedd Rob yn Arweinydd Sector Diwydiant ar gyfer Network Rail ar Raglen Ddigidol Arfordir y Dwyrain, a chyn hynny’n rhan o dîm ymchwil a datblygu Network Rail, gan arwain y rhaglen arloesedd carlam a helpu i sicrhau cyllideb chwe gwaith yn fwy ar gyfer CP6.
Mae’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd yn gyfleuster ymchwil, profi ac ardystio rhyngwladol newydd ar gyfer cerbydau rheilffyrdd, seilwaith a thechnolegau rheilffyrdd newydd arloesol sy’n cael ei adeiladu yn ne Cymru.

Dywedodd Prif Weithredwr GCRE Limited, Simon Jones:
“Rydym yn falch iawn bod Rob Forde yn ymuno â’n tîm ac yn ymgymryd â’r rôl allweddol hon fel Cyfarwyddwr Strategaeth a Sgiliau yn y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd. Mae gan Rob bron ugain mlynedd o hanes cryf yn y diwydiant rheilffyrdd ac mae’n ymuno â GCRE ar adeg bwysig iawn.
“I lwyddo, bydd angen i GCRE ddatblygu llif hirdymor o sgiliau, gan weithio gydag ysgolion, prifysgolion, colegau a’r diwydiant i sicrhau bod gan GCRE a’i chleientiaid fynediad at y bobl ddawnus y mae arni eu hangen i gefnogi’r gwaith ymchwil ac arloesedd o ansawdd uchel y byddwn yn ei wneud ar y safle.
“Creu’r llif hwnnw o sgiliau ac, yn arbennig, sicrhau bod pobl sy’n byw yn agos i’r safle’n gallu elwa o’r swyddi a’r sgiliau y byddwn yn eu cynnig yw un o’r pethau pwysicaf y bydd Rob yn gweithio arno.
“Rôl newydd yw hon rydym wedi’i chreu ac mae’n adlewyrchu pa mor allweddol bwysig yr ydym yn credu yw sicrhau bod y seilwaith sy’n ategu ein cyfleuster newydd yn gryf.”
Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategaeth a Sgiliau, Rob Forde:
“Rwy’n falch iawn o fod yn ymuno â thîm y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd ac ymgymryd â rôl newydd mor gyffrous a diddorol yn y tîm. Rydw i wedi treulio fy ngyrfa’n gweithio mewn arloesedd ac ymchwil a datblygu, felly mae’n wych gallu cyfrannu at gyfleuster newydd mor hanfodol bwysig ym maes rheilffyrdd.
“Y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd fydd y prif safle yn Ewrop ar gyfer arloesedd rheilffyrdd, gan gefnogi datblygiad syniadau newydd a fydd yn dod â chynhyrchion newydd i’r farchnad yn gyflymach; helpu i ddatblygu seilwaith rheilffyrdd mwy cost-effeithiol a chefnogi llwybr y diwydiant tuag at sero net.
“Mae strategaeth hirdymor glir a llif sgiliau cynaliadwy yn allweddol i’r uchelgeisiau hynny, ac rwy’n gobeithio y galla’ i ddefnyddio fy mhrofiad yn un o’r datblygiadau pwysicaf a mwyaf diddorol yn rheilffyrdd y Deyrnas Unedig ac Ewrop.”