
Buddsoddiad unigryw
Cyfle
Mae’r Ganolfan Fyd-Eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd (GCRE) yn Ne Cymru yn un o’r prosiectau seilwaith pwysicaf a mwyaf creadigol ym maes rheilffyrdd heddiw. Mae’r prosiect yn cymryd y cam mawr nesaf yn ei ddatblygiad trwy wahodd buddsoddwyr y sector preifat i gymryd cyfran ecwiti fwyafrifol yn GCRE Ltd a dod yn bartner strategol a all helpu cyflawni gweledigaeth uchelgeisiol y prosiect.
Safle am brofion o'r radd flaenaf
Pan fydd yn agor yn 2025, bydd GCRE yn safle ar gyfer profion o’r radd flaenaf o ran cerbydau rheilffyrdd, seilwaith a thechnolegau rheilffordd newydd ac arloesol a fydd yn llenwi bwlch strategol ym maes rheilffyrdd, nid yn unig yma yn y DU, ond ledled Ewrop.
Mae'r prosiect yn cymryd y cam nesaf, mawr yn ei ddatblygiad drwy wahodd buddsoddwyr yn y sector preifat i gymryd cyfran ecwiti mwyafrifol yn GCRE Ltd ac i ddod yn bartner strategol a all helpu i wireddu gweledigaeth uchelgeisiol y prosiect.
Mae’r cyfle buddsoddi yn un unigryw ac rydym yn chwilio am bartner(iaid) strategol a all gefnogi GCRE i ddatblygu seilwaith y safle, o ran rheilffyrdd ac ynni yn bennaf, ac uchafu potensial masnachol GCRE. Rydym yn croesawu diddordeb gan bartneriaid sydd â phrofiad mewn seilwaith rheilffyrdd a/neu brosiectau mawr.
Sero Net
Mae angen cyflenwad ynni dibynadwy a fforddiadwy ar GCRE hefyd i sicrhau ein bod yn diwallu anghenion pŵer cwsmeriaid GCRE (tyniant a domestig), ac yn cefnogi GCRE i gyflawni ei uchelgeisiau sero net. Mae gan safle GCRE nifer o nodweddion deniadol sy’n caniatáu ar gyfer cynnig masnachol ehangach o ran rheilffyrdd a chynhyrchu ynni yn fwy na’r gofynion craidd sydd eu hangen gan y GCRE.

Rydym yn chwilio am bartneriaid a all gymryd cyfran ecwiti fwyafrifol ym musnes GCRE. Gall hynny fod naill ai fel un buddsoddwr neu fel partneriaid.
Gall buddsoddwyr posib sydd eisiau cael mynediad i'r Hysbysiad Contract a'r Holiadur Dethol wneud hynny yma:
Cynhaliwyd digwyddiad 'Cwrdd â'r Prynwr' gyda buddsoddwyr posib a phartneriaid strategol ym mis Rhagfyr ac mae'r cyflwyniad o'r diwrnod i'w weld yma:
Os ydych chi eisiau gwybod mwy am y broses fuddsoddi GCRE neu sut y gallwch gymryd rhan yn y prosiect, cysylltwch â : strategicinvestment@gcre.wales