Dr Debra Williams
Cadeirydd
Mae Dr Debra Williams yn un o’r uwch swyddogion gweithredol busnes mwyaf profiadol yng Nghymru a sefydlodd Confused.com yn un o’r safleoedd crynhoi mwyaf blaenllaw yn y DU.
Ar ôl gweithio ar lefel reoli yn Admiral, Tesco Bank, NCR, Covea, Prifysgol Abertawe a News Corporation, mae’n angel buddsoddi ac yn ymgynghori â chwmnïau ledled y DU, Ewrop ac yn yr Unol Daleithiau. Mae’n aelod o fwrdd The Alacrity Foundation, Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, Cymdeithas Adeiladu’r Principality a Co-op Insurance, ac mae hefyd wedi bod yn gadeirydd Gyrfa Cymru a Chomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.
Mae wedi derbyn Gwobr y Flwyddyn ar gyfer Merched sy’n Arloesi, ac wedi cael cydnabyddiaeth hefyd fel un o’r 200 o birf fenywod busnes y DU gan y Frenhines. Mae’n Ddoethur Anrhydeddus ym Mhrifysgol Abertawe ac yn llysgennad busnes ar gyfer Tŷ Hafan.
Geraint Davies CBE FCA
Is-gadeirydd
Roedd Geraint yn bartner yn Grant Thornton am 25 mlynedd cyn ymddeol ym mis Mehefin 2013, ac mae ganddo brofiad helaeth yn y sector corfforaethol a’r sector ariannol. Erbyn hyn, mae’n Gyfarwyddwr Anweithredol i nifer o fusnesau blaenllaw, gan gynnwys, tan yn ddiweddar, Mears – cwmni FTSE 350; a Maes Awyr Caerdydd, a berchnogir gan Lywodraeth Cymru. Mae Geraint hefyd yn ymgynghorydd i sawl cwmni preifat arall.
Gail Hawthorne
Cyfarwyddwr Anweithredol
A hithau’n gyfreithiwr masnachol a bargyfreithiwr, mae Gail Hawthorne yn arbenigo mewn cynghori diwydiannau hynod reoleiddiedig ar gydymffurfio a lliniaru risg. Mae hyn yn cynnwys gweithio fel ymgfreithiwr masnachol ac fel Cwnsler Cyfreithiol Grŵp dros dro i Scottish Water. Mae hefyd yn gyn eiriolwr panel i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Simon Blanchflower CBE
Cyfarwyddwr Anweithredol
Ymddeolodd Simon Blanchflower CBE o’i rôl fel Prif Swyddog Gweithredol East West Railway Company ym mis Mawrth 2022, ar ôl sefydlu’r cwmni yn llwyddiannus, a sicrhau cyllid ar gyfer cam cyntaf y prosiect a fydd yn cysylltu Rhydychen a Milton Keynes. Bu gynt yn Gyfarwyddwr Rhaglenni Mawr Thameslink Programme ac yn Ddirprwy Gadeirydd London Legacy Development Corporation, yn gyfrifol am sicrhau’r gwaddol o Gemau Olympaidd Llundain 2012.
Simon Jones
Prif Swyddog Gweithredol
Cyn dod yn Brif Weithredwr GCRE, roedd Simon yn Gyfarwyddwr Seilwaith Economaidd yn Llywodraeth Cymru am chwe blynedd, yn gyfrifol am feysydd datganoledig trafnidiaeth, band eang ac eiddo. Helpodd sefydlu Trafnidiaeth Cymru, a bu’n goruchwylio prosiectau mawr, gan gynnwys gwelliannau newydd i ffyrdd a rheilffyrdd yng Nghymru, gan reoli cyllideb flynyddol gwerth £1 biliwn. Cyn hynny, bu Simon yn gweithio am 25 mlynedd ym maes ymgynghoriaeth peirianneg, gan gynnwys 20 mlynedd gydag Atkins.
Samantha Hawkins
Prif Swyddog Ariannol
Mae Samantha yn gyn Brif Swyddog Ariannol Gwasanaethau Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru, a Trenau Arriva Cymru cyn hynny, sef dau fusnes â refeniw blynyddol o £400m. Mae gan Samantha brofiad helaeth, ac yn Trafnidiaeth Cymru, bu’n cefnogi rhaglenni newid mawr, gan gynnwys y rhaglen £750m i drydaneiddio Rheilffyrdd Cymoedd De Cymru, sef un o’r prosiectau seilwaith mwyaf arwyddocaol yng Nghymru.
Rob Thompson
Cyfarwyddwr Gweithredu
Am 16 mlynedd, roedd Rob yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau Celtic Energy, yn gyfrifol am weithgareddau cloddio ac adfer ar safleoedd y cwmni. Roedd gan Rob gyfrifoldeb cyffredinol am safle Nant Helen yn ystod y cyfnod hwnnw, sydd bellach yn safle prosiect y Ganolfan Fyd-Eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd.
Yr Athro Andy Doherty
Prif Gynghorydd Technegol
Yr Athro Andy Doherty FREng yw Prif Ymgynghorydd Technoleg GCRE. Rôl Andy yw darparu'r weledigaeth a'r arweinyddiaeth i strategaeth dechnoleg a datblygiad cyfleuster arloesi rheilffyrdd graddfa lawn cyntaf y DU. Hyd at hydref 2020, Andy oedd Prif Swyddog Technoleg Rheilffyrdd Network Rail, gan ddarparu'r weledigaeth a'r arweinyddiaeth i'w strategaeth dechnoleg. Arweiniodd ryngweithio peirianneg â diwydiant rheilffyrdd y DU ac o fewn maes rheilffyrdd Ewrop. Mae Andy yn Gymrawd o Academi Frenhinol y Peirianwyr ac yn Beiriannydd Systemau Trydanol, gydag arbenigedd yn y system reilffyrdd, dylunio cerbydau rholio, y rhyngwyneb mecanyddol rhwng y trên a'r trac, systemau signalau sy'n seiliedig ar drosglwyddo fel ETCS a chydnawsedd electromagnetig.