Croesffordd o gydweithio

Yn ein blog gwadd diweddaraf, mae Daisy Chapman-Chamberlain o East West Rail yn ysgrifennu am bwysigrwydd hanfodol arloesi i ddyfodol rheilffyrdd ac yn dilyn ymweliad â'n safle, yn myfyrio ar y cyfle y mae'r Ganolfan Rhagoriaeth Rheilffyrdd Byd-eang newydd yn ei gynnig wrth ddatblygu technoleg y genhedlaeth nesaf.

Mae Prydain wedi cyrraedd croesffordd mewn mwy nag un ffordd. Gydag etholiad cyffredinol yn debygol, a newid mawr ym maes rheilffyrdd ni waeth am ganlyniad yr etholiad, mae ein diwydiant ar drothwy cyfle. 

Er mwyn manteisio i’r eithaf ar y cyfle hwn, mae un gofyniad allweddol yn drech na’r gweddill – yr angen i gydweithio. Fel y bydd darllenwyr yn gwybod, mae East West Rail (EWR) yn brosiect rheilffyrdd cenedlaethol arwyddocaol sy’n ceisio darparu cysylltiadau trafnidiaeth y mae mawr angen amdanynt i gymunedau rhwng Rhydychen a Chaergrawnt, gan wella mynediad pobl at swyddi, addysg a gofal iechyd, a’i gwneud yn haws i weld teulu a ffrindiau a theithio ar gyfer hamdden. Ar draws y prosiect, mae’r angen i gydweithio er mwyn galluogi effeithlonrwydd o ran adeiladu, cost, graddfeydd amser a lleihau carbon, yn hollbresennol; gan agor y drws i rannu gwybodaeth â phrosiectau seilwaith arwyddocaol, gan gynnwys HS2, Rheilffordd Pwerdy’r Gogledd, a’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd (GCRE). Gall rhannu gwybodaeth ac arloesiadau helpu EWR i leihau gwariant cyfalaf (CAPEX) er mwyn gallu darparu’r rheilffordd yn effeithlon, gofalu ein bod yn integreiddio’r technolegau a’r arloesiadau rheilffyrdd gorau posibl, a sicrhau llwybr agored tuag at arloesedd ac ymchwil yn y dyfodol pan fydd EWR a GCRE yn weithredol. 

Daisy Chapman-Chamberlain, Rheolwr Arloesi East West Rail, ar ymweliad diweddar â'r Ganolfan Rhagoriaeth Rheilffyrdd Byd-eang gyda Phennaeth Arloesi GCRE, Kelvin Davies

Wrth i CP7 (Cyfnod Rheoli 7) nesáu, mae arloesedd ar draws y rhwydwaith cenedlaethol yn hollbwysig. Yng nghyd-destun cefndir heriol o gynnal a chadw ac uwchraddio, daw arloesedd o ran arbedion effeithlonrwydd, cost, dibynadwyedd, deunyddiau, a chynnal a chadw rhagfynegol yn fwyfwy hanfodol. Mae pwyslais allweddol ar ddatgarboneiddio, hefyd; elfen allweddol o sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn gallu cyrraedd ei tharged sero net erbyn 2050. O drydaneiddio i ddatblygu technolegau batri, i ailgylchu ac effeithlonrwydd mewn cadwyni cyflenwi, i fioamrywiaeth, gall arloesedd helpu i ddatgloi llawer o’r heriau cynaliadwyedd sy’n wynebu ein sector sydd eisoes yn ‘wyrdd’ iawn. Fodd bynnag, mae risg uchel a chost uchel yn gysylltiedig ag arloesi mewn gwagle: bydd y cyfleoedd arloesi cydweithredol y bydd GCRE yn eu darparu yn golygu y gellir datblygu, profi ac, yn y pen draw, masnacheiddio a gweithredu’r genhedlaeth nesaf hon o dechnoleg ac offer.

Safle Global Centre of Rail Excellence Site

Mae’r diwydiant rheilffyrdd yn cefnogi £43 biliwn o werth ychwanegol gros (GVA) mewn twf economaidd, 710,000 o swyddi, a £14 biliwn mewn refeniw treth. Mae £2.50 o incwm yn cael ei gynhyrchu yn yr economi ehangach am bob £1 sy’n cael ei gwario ar reilffyrdd. Bydd buddsoddiad ychwanegol mewn rheilffyrdd – ar draws prosiectau seilwaith mawr fel GCRE – yn rhoi hwb i’r ffigurau hyn sydd eisoes yn drawiadol. O fewn y ffigurau economaidd hyn, gallwn weld gwerth enfawr a rennir gan EWR a GCRE; gan agor y drws i swyddi newydd uniongyrchol yn eu cymunedau lleol unigol, swyddi yn y gadwyn gyflenwi, a swyddi a fydd yn tyfu o amgylch y prosiectau i ddarparu gwasanaethau hanfodol. Mae effaith twf sector traddodiadol fel rheilffyrdd ar y cymunedau lleol yn Ne Cymru ac ar draws Arc Rhydychen-Caergrawnt yn amhrisiadwy. 

Er mwyn i reilffyrdd allu ffynnu yn y dyfodol, mae’n rhaid i ni gydweithio: gan alluogi mwy o effeithlonrwydd a gwaith cost-effeithiol, gwella ein gallu i ddatrys problemau a gwneud penderfyniadau ar draws y sector, a hybu arloesedd. Bydd yr agwedd unedig hon, a gefnogir gan y cyfleoedd ymchwil a datblygu yn GCRE, yn sicrhau bod sector rheilffyrdd y dyfodol yn effeithlon, yn gynaliadwy, yn gost-effeithiol, yn ddiogel, yn canolbwyntio ar gwsmeriaid, ac yn arwain y ffordd yn fyd-eang.

Ynglŷn â’r awdur 

Daisy Chapman-Chamberlain yw’r Rheolwr Arloesedd yn East West Rail, sy’n frwd ynghylch trawsnewid trafnidiaeth, cynaliadwyedd, a chynhwysiant. Mae hi’n gweithio i wneud dyfodol rheilffyrdd yn well i bob cwsmer; yn fwy diogel, hygyrch, a phleserus. Gellir cysylltu â Daisy ar daisy.chapman-  daisy.chapman-chamberlain@eastwestrail.co.uk

Drwy gofrestru ar gyfer y cylchlythyr rydych yn cytuno i'n telerau ac amodau