Ymweliad â’r Palas
Cynhaliodd tîm y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd (GCRE) gyfres o ddigwyddiadau ‘Sioe Deithiol’ yn agos i’r safle yn gynnar ym mis Mai i roi diweddariad i gymunedau lleol ar y datblygiad a chyflwyno’r Uwchgynllun.
Ysgrifennodd Pennaeth Cyfathrebu Strategol GCRE, Andrew Johnson, flog am sut aethant.

Mae’n wythnos coroni’r Brenin newydd ac mae tîm y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd ychydig yn nerfus.
Maen nhw wedi bod yn paratoi ar gyfer yr eiliad hon am rai wythnosau – yn adrodd eu llinellau’n dawel ac ymarfer eu cyflwyniad.
Mae gan staff GCRE apwyntiad yn y palas.
Ond nid yr un hwnnw…
Roedd gan y tîm apwyntiad yn y ‘Palas Diwylliant’, sef yr enw lleol ar Neuadd Les Glowyr Onllwyn, nid nepell o’r safle 700 hectar a fydd, ymhen ychydig flynyddoedd byr, yn gartref i’r prif gyfleuster profi, ymchwil ac arloesedd rheilffyrdd yn Ewrop.
Ddydd Mercher 3 Mai oedd y cyntaf mewn cyfres o’n digwyddiadau ‘sioe deithiol’ yr haf yn y pentrefi o amgylch safle GCRE. Cynhaliwyd dau arall yn Ystradgynlais ddydd Gwener 12 Mai ac Aber-craf y diwrnod wedyn.
Roedd y sesiynau’n gyfle i roi diweddariad i bobl leol ar gynnydd datblygiad GCRE a chyflwyno’r Uwchgynllun a ddatblygwyd ar gyfer y safle gan ein penseiri arobryn, Fifth Studio.
Mynychodd nifer dda yr holl sesiynau. Daeth cyfanswm o 222 o bobl i’r tri digwyddiad ac roedd y diwrnodau’n eithaf dwys i dîm GCRE wrth iddynt ateb amrywiaeth o gwestiynau gan breswylwyr lleol, busnesau a chynrychiolwyr etholedig.

Beth mae hyn yn ei olygu i sŵn ar fy ffordd? A fydd yn llychlyd? Beth ydych chi’n ei wneud gyda llinell gangen Castell-nedd? A alla’ i barhau i gyrraedd y llwybr cerdded rwy’n ei ddefnyddio ar y penwythnos? O ble mae eich cyflenwad ynni’n dod? A fydd swyddi i bobl leol? A wnewch chi ddod i siarad â’m hysgol leol? Sut bydd trenau sy’n cael eu profi yn cyrraedd y safle?
A llawer, llawer mwy.
Roedd yn beth da bod tîm GCRE wedi paratoi’n drylwyr. Roedd y rhai a fynychodd wedi gwneud ymchwil ac roedd ond yn iawn bod preswylwyr a oedd yn byw gerllaw’r safle yn cael ymatebion mor llawn ac mor fanwl â phosibl. Mae hwn yn brosiect adeiladu mawr a phwysig, felly roedd yn ddealladwy y byddai ystod mor eang o gwestiynau.
Ond efallai bod nerfau tîm GCRE cyn y sesiwn ychydig yn ormodol.
Yr hyn a oedd yn amlwg o’r tri digwyddiad oedd y gefnogaeth sylfaenol a fodolai i syniad GCRE. Roedd gan bobl leol faterion clir yr oeddent eisiau iddynt gael sylw, ond ar yr un pryd roedd bron pawb yn gweld bod GCRE yn cynrychioli cyfle economaidd ac adfywio unigryw i’r ardal.
Efallai’r rheswm am hynny yw nad cymuned gyffredin mo hon.
Mae’r pentrefi hyn - ym mhen uchaf cymoedd Tawe, Dulais a Nedd - yn rhan annatod o feysydd glo de Cymru, ardal sydd wedi’i thrwytho mewn traddodiadau gweithgynhyrchu a pheirianneg ac sydd â hanes o fwyngloddio dwfn sy’n ymestyn yn ôl dros ddwy ganrif.
Roedd waliau lleoliadau’r sioe deithiol eu hunain yn Onllwyn, Ystradgynlais ac Aber-craf yn dyst i hyn. Roeddent yn llawn straeon, cofnodion a lluniau o orffennol diwydiannol cyfoethog y rhanbarth hwn. Yn wir, un o’r pethau rydym eisiau ei wneud yng nghyfleuster GCRE ymhen hir a hwyr yw cael canolfan arddangos ar y safle a all gyfleu a chofnodi’r hanes hwnnw ar gyfer ymwelwyr a chenedlaethau’r dyfodol.

Ac felly, efallai mai’r etifeddiaeth honno oedd yn sail i’r ymateb cadarnhaol, at ei gilydd, a welsom yn y tair sesiwn. Mae’r cymunedau hyn yn deall prosesau gweithgynhyrchu a beth mae’n ei olygu i gael diwydiant wedi’i ymsefydlu yn eu hardal leol.
Maen nhw’n gwerthfawrogi’r buddion a ddaw yn sgil lleoli diwydiant yn lleol, ond yn cydnabod bod paratoadau pwysig y mae angen eu gwneud o flaen llaw – a daeth pob un o’r tair sesiwn, i bob pwrpas, yn weithdai wyneb yn wyneb ynglŷn â sut i wneud datblygiad seilwaith o’r maint hwn ac ar y raddfa hon yn llwyddiannus. Mae GCRE nid yn unig eisiau bod yn gymydog da ond yn rhan weithredol o’r gymuned leol, felly roedd y sesiynau’n teimlo fel ymarfer defnyddiol iawn i ni fel busnes ac i’r rhai a oedd yn bresennol.
Trefnwyd y sesiynau eu hunain mewn ffordd eithaf syml. Daethom â gwybodaeth glir a hygyrch gyda ni am GCRE y gallai pobl edrych arni eu hunain, gyda chyfle i sgwrsio gydag un neu ddau aelod o dîm GCRE ar ôl iddynt orffen.
Wrth gwrs, gallem fod wedi strwythuro pob digwyddiad mewn ffordd wahanol iawn, gyda delweddau gweledol trawiadol a fideos corfforaethol caboledig, ond ni fyddai hynny wedi cyd-fynd ag ysbryd y ddeialog wyneb yn wyneb yr oedd pobl leol ei heisiau.
O’r cychwyn cyntaf, fe wnaethon ni addo bod yn agored, yn dryloyw ac yn onest ynglŷn â’n safbwynt a’n sefyllfa.
Roedd yr ymadrodd “Mae risg yn gysylltiedig â hyn…” yn adleisio o amgylch y neuaddau gan bob aelod o dîm GCRE, ar draws y tair sesiwn. Er ein bod wedi cael cymorth ariannol gwych gan y llywodraeth hyd yma – £50m gan Lywodraeth Cymru ac £20m gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ynghyd â £7.4m arall ar gyfer ymchwil a datblygu – mae arnom angen £330m o fuddsoddiad preifat ychwanegol i orffen y gwaith a gwireddu’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd.
Ac er bod y broses o godi’r buddsoddiad hwnnw’n mynd yn dda – gobeithiwn fod wedi trefnu’r buddsoddiad preifat erbyn mis Hydref – roedden ni eisiau sicrhau bod pawb a oedd yn bresennol yn llwyr ddeall gwirionedd ein sefyllfa. Cardiau ar y bwrdd.
Dyna oedd y peth iawn i’w wneud, yn anad dim, ond hefyd mae’r cymunedau hyn yn deall nad oes y fath beth â ‘sicrwydd’. Doedden nhw ddim yn ei gredu’r tro diwethaf a fydden nhw ddim yn ei gredu nawr, felly, wrth baratoi ar gyfer y sesiynau sioe deithiol, rhoddodd ein Prif Weithredwr, Simon Jones, un neges glir iawn i ni – ‘Peidiwch â gwneud unrhyw addewidion na allwn eu cadw’.
A byddwn yn parhau â’n holl waith ymgysylltu â’r gymuned yn yr un ysbryd yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.
Wrth gwrs, roedd rhai wedi gadael y digwyddiadau mewn dau feddwl ynglŷn â datblygiad GCRE o hyd. Dyna natur datblygiad seilwaith mawr fel hwn. Ond rwy’n credu bod pawb wedi gwerthfawrogi’r wybodaeth ychwanegol a’r ffaith eu bod wedi cael cyfle i leisio’u barn yn uniongyrchol i’r tîm.

Ond roedd hunaniaeth yn fater amlwg yn y neuaddau yr ymwelon ni â nhw ar gyfer y tair sesiwn hefyd.
Onllwyn, Caehopkin, Aber-craf, y Coelbren, Ystradgynlais, Blaendulais… mae’r pentrefi o amgylch y safle yn ymfalchïo yn hanes diwydiannol eu hardal. Dyna sut roeddent yn ennill eu bywoliaeth ac mae’n sail i’w hunaniaeth fel cymuned. Roedd y rhan hon o Gymru wedi helpu i arwain y byd i’r chwyldro diwydiannol cyntaf, i bob pwrpas.
Ond mae’r cyfnod diweddar wedi bod yn anodd, ac mae’n bosibl eu bod yn gweld cyfle trwy GCRE i ysgrifennu pennod nesaf eu stori ddiwydiannol eu hunain. Fel cartref i’r cyfleuster ymchwil a phrofi rheilffyrdd mwyaf datblygedig yn Ewrop, gallai’r cymoedd hyn ddod yn fyd-enwog unwaith eto am ragoriaeth ym maes peirianneg ac arloesedd. Rhywbeth sy’n rhan annatod o’r ardal hon.
Yn ystod y misoedd i ddod, trwy’r blogiau hyn, byddwn yn archwilio’n fanylach rai o’r themâu mwy a ddaeth o’r sesiynau sioe deithiol hyn a rhai yn y dyfodol, ac yn ddiweddarach yr wythnos hon byddwn yn postio cwestiynau ac atebion ar y wefan y byddwn yn ychwanegu atynt a’u cadw’n gyfredol gyda’r wybodaeth bwysicaf a mwyaf perthnasol.
Byddwn hefyd yn cynnal mwy o ddigwyddiadau sioe deithiol yn ddiweddarach yn y flwyddyn, felly anogwn bawb i edrych ar y wefan i gael mwy o fanylion.
Yn y cyfamser, hoffem ddiolch o galon i bawb a fynychodd y sesiynau sioe deithiol. Fe wnaethon ni werthfawrogi eich cwestiynau, eich cyngor a’ch syniadau yn fawr.