‘Etifeddiaeth ddysgu’ – Mae’r Cyfarwyddwr Strategaeth a Sgiliau newydd, Rob Forde, yn amlinellu pam yr ymunodd â thîm GCRE
Yn y blog yr wythnos hon, mae Cyfarwyddwr Strategaeth a Sgiliau newydd GCRE, Rob Forde, yn amlinellu pam yr ymunodd â’r tîm ac yn tynnu sylw at yr effaith gadarnhaol a hirdymor y mae’n credu y gall y cyfleuster ei chael ar y diwydiant rheilffyrdd a’r gymuned leol.

Ni allaf wrthsefyll her.
Y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd (GCRE) yw un o’r datblygiadau mwyaf cyffrous, arloesol ac y mae ei angen ar frys ar draws rheilffyrdd y Deyrnas Unedig ac Ewrop, a phan welais y cyfle i ymuno â’r tîm, achubais arno.
Penderfynais ei wneud yn rhannol oherwydd fy mod i wir yn credu y gall y cyfleuster rydyn ni'n ei adeiladu helpu i fynd i'r afael â rhai o heriau strategol mwyaf y diwydiant.
Profi ac integreiddio
Cyn y rôl hon, treuliais bedair blynedd a hanner yn nhîm Ymchwil a Datblygu Network Rail cyn ymuno â Llwybr Arfordir y Dwyrain i arwain eu Rhaglen Ddigidol. Yn ystod y ddwy rôl hyn, rydw i wedi gweld drosof fy hun pa mor allweddol yw profi, cymeradwyaethau ac integreiddio cynhyrchion newydd mewn gwirionedd, ond hefyd pa mor heriol y gall fod!
Mae GCRE yn cynnig cyfle unigryw i'r diwydiant leihau cylchoedd datblygu hir yn sylweddol, lleihau costau, gostwng y rhwystr mynediad i gwmnïau newydd ac, yn arwyddocaol, lleihau'r risgiau integreiddio a ddaw yn sgil prosiectau mawr. Yn ei dro, bydd hynny’n helpu i sicrhau bod mwy o'n huwchraddiadau seilwaith hanfodol yn cael eu cyflawni’n brydlon ac o fewn y gyllideb.
Mae rhan o hyn yn ymwneud â dychwelyd i egwyddorion cyntaf a deall gwir werth ymchwil, arloesi a phrofi o ansawdd uchel.
A fyddech chi'n profi math newydd o redfa heb ei dreialu ym maes awyr Heathrow?
Na fyddech, wrth gwrs, ond ar hyn o bryd y brif ffordd rydym yn profi cynhyrchion seilwaith rheilffyrdd mewn amgylchedd realistig yw ar y brif reilffordd.
Mae hyn yn creu risg i'r rheilffordd weithredol y mae angen ei rheoli'n ddiogel. Mae angen cyrraedd safon uchel i osod offer ar y brif linell, sy’n beth da, ond mae hefyd yn achosi oedi. Gall arloeswyr dreulio amser hir yn profi bod offer yn ddiogel ac yn effeithiol ac mae'n atal cynhyrchion a allai wella diogelwch a lleihau costau rhag cael eu defnyddio'n gyflymach. Mae hyn yn amlwg yn gyrru rhai o'r costau uchel a welwn ar y rheilffyrdd a'r canfyddiad nad ydym yn arloesol.
Mae GCRE yn cynnig ateb i hyn.
Ar ein safle, gellir profi cynhyrchion seilwaith mewn amgylchedd rheilffyrdd realistig, heb risg i'r rheilffordd weithredol. Bydd hyn nid yn unig yn cyflymu'r broses gymeradwyo ac yn darparu effeithlonrwydd cyffredinol i'r rheilffordd, ond hefyd yn lleihau'r gost i'r diwydiant cyfan, gan gynnwys arloeswyr mawr a bach.
Gall GCRE ddarparu'r lleoliad i integreiddio system go iawn, gan ddileu'r angen iddo ddigwydd ar y brif linell a lleihau'r cyfnodau hir sy’n ofynnol yn aml i gyflwyno a chomisiynu offer newydd.
Bydd y rhai sy'n fy adnabod yn gwybod nad yw technoleg 'cŵl' yn golygu popeth i mi – rydw i am gefnogi'r diwydiant i roi arloesedd ar waith yn ymarferol. Rwy’n credu y gallai'r daith o feddwl am syniad hyd at fasnacheiddio ddod yn fyrrach o lawer pan fydd GCRE yn weithredol.
Ond dim ond trwy gydweithio go iawn y bydd hyn yn cael ei gyflawni. Trwy weithio mewn partneriaeth ar draws yr ecosystem reilffyrdd a chreu canolbwynt ffisegol i arloeswyr o bob maint gydweithio, profi syniadau a phrofi hyfywedd cynhyrchion newydd.
Sgiliau
Yn ystod fy nghyfnod yn y diwydiant, rydw i hefyd wedi dysgu pa mor hanfodol bwysig yw datblygu talent.
Mae gennym fwlch sgiliau enfawr yn y diwydiant rheilffyrdd ac un sy'n tyfu yn wyneb cystadleuaeth ffyrnig gan sectorau eraill mewn marchnad lafur mor dynn. Mae gennym weithlu sy'n heneiddio gyda 28% dros 51 oed a dim ond 5% o dan 25 oed. Ni fu'r angen brys i fuddsoddi mwy mewn datblygu ac adeiladu sgiliau yn y diwydiant yn y dyfodol erioed mor amlwg.
Mae angen i ni groesawu amrywiaeth, hefyd. Mae llai na 15% o'n gweithlu yn fenywod ac felly mae'n rhaid i ni wneud mwy ar draws y diwydiant i sicrhau bod pobl ifanc fel fy merch fy hun yn gweld rheilffyrdd fel maes deniadol a chroesawgar i adeiladu gyrfa lwyddiannus a boddhaus.
Gall GCRE arwain y ffordd yn y meysydd hyn.
Yn hollbwysig, hefyd, wrth gefnogi datblygiad sgiliau yn yr ardal leol ac fel rhan o system sgiliau fwy ar draws rheilffyrdd yn y Deyrnas Unedig, bydd GCRE yn safle unigryw lle gallwn arddangos a hyfforddi unigolion yn ddiogel mewn amgylchedd rheilffordd realistig. Rydym yn ffodus nad oes diffyg lle ar ein safle, hyd yn oed gyda'n rhwydwaith trac prawf helaeth. Mae’r safle, sy’n fwy na 700ha, yn rhoi digon o gyfle i weithio gyda darparwyr sgiliau lleol i dyfu'n amgylchedd hyfforddi rheilffyrdd byw o'r radd flaenaf.
Fel newydd-ddyfodiad i faes rheilffyrdd – ac fel sefydliad sy'n dal i dyfu – gallwn adeiladu GCRE o'r gwaelod i fyny a sicrhau bod ein busnes yn edrych ac yn gweithredu fel y byd y tu allan drwy adeiladu amrywiaeth yn rhan o'r cwmni a'n safle o'r cychwyn cyntaf – er enghraifft drwy sicrhau bod hygyrchedd a mannau penodol i rywedd yn cael eu cynnwys yn nyluniad GCRE yn hytrach na’u hychwanegu ar y funud olaf.
Yn fyr, mae gan GCRE gyfle i wneud pethau'n wahanol drwy ymgorffori'r math o arloesedd yn ei ddyluniad ei hun y bydd yn cefnogi eraill ag ef ar y safle. Gallwn ddod yn safle sgiliau ffyniannus sy'n gweithio gyda dysgwyr ar bob lefel o brentisiaid hyd at fyfyrwyr PhD. Mae'r safle hefyd mewn ardal o harddwch eithriadol gyda nifer helaeth o weithgareddau awyr agored gerllaw – ardal drawiadol i hyfforddi, mewn lleoliad arloesol.
Yn GCRE, rydym am ddatblygu etifeddiaeth ddysgu – a thrwy hynny rwy'n golygu manteisio ar botensial ein cyfleuster i gael effaith gadarnhaol a hirdymor trwy gefnogi cyfleoedd sgiliau i bobl leol. Wrth i ni symud trwy’r gwaith adeiladu, byddwn yn defnyddio'r safle i ddatblygu sgiliau adeiladu rheilffyrdd a pheirianneg sifil. Yna, pan fyddwn ar waith, bydd y safle’n fan delfrydol i ddatblygu sgiliau ym maes gweithrediadau, cynnal a chadw, gosod, profi ac, yn ddi-os, llawer o sgiliau nad ydym wedi meddwl amdanynt eto.
Y gymuned leol
Yn olaf, gallaf weld y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd yn rhoi bywyd newydd i'r economi a'r ardal leol. Mae GCRE yn cael ei hadeiladu ar safle sydd wedi cael ei ddominyddu gan lo ers dros ddwy ganrif. Mae hanes balch yma, ond mae dad-ddiwydiannu wedi gadael creithiau dwfn. Mae gan Gastell-nedd Port Talbot un o'r cyfraddau uchaf o unigolion economaidd anweithgar yng Nghymru, sef 26.5%.
Trwy adeiladu safle GCRE a chyfle ar gyfer sgiliau newydd, gall yr ardal edrych tuag at ddyfodol mwy disglair unwaith eto. Ni fydd yn ateb syml i bopeth, ond bydd yn fan lle y gall diwydiant o'r radd flaenaf ffynnu unwaith eto. Rydym wedi ymrwymo i fanteisio ar dalent leol a darparu cyfleoedd medrus sy'n talu'n dda i bobl sy'n byw yn lleol, yn ogystal â ffurfio partneriaethau â busnesau lleol drwy gydol y cyfnod adeiladu a gweithredu.
Rwy’n credu’n gryf fod GCRE nid yn unig yn gyfle mawr i'r diwydiant rheilffyrdd, ond i'r gymuned leol hefyd.
Fel rhan o dîm GCRE, mae gennyf gyfle nawr i helpu i wneud y gwahaniaeth hwnnw a helpu i adeiladu rheilffordd yfory.
Nawr, mae hynny'n gyffrous.