‘An opportunity we can’t let slip’

Yn ystod y misoedd i ddod, bydd y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd (GCRE) yn cyhoeddi cyfres o erthyglau gwadd gan unigolion ar lefel uwch yn y diwydiant ynglŷn ag arloesi ym maes rheilffyrdd a sut gall GCRE gefnogi uchelgeisiau strategol yn y sector.

Ysgrifennwyd darn heddiw gan Noel Travers, Rheolwr Gyfarwyddwr XRAIL.

Mae syniadau gwych yn sbarduno pob busnes da. Nid datganiad dadleuol mo hwnnw.

Ni all unrhyw fusnes lwyddo os yw’r cynnyrch neu’r gwasanaeth craidd y mae’n ei werthu yn sigledig yn y bôn, neu’n anghynaliadwy.

Ond nid yw syniadau gwych yn ddigon ynddynt eu hunain, ac nid yw hyn fel petai’n cael cymaint o sylw. I’r cwmnïau a’r sefydliadau mwyaf llwyddiannus, un cam yn unig ar y daith arloesi yw cynhyrchu syniadau newydd.

Man cychwyn yn unig yw pob syniad ar gyfer proses neu ddarn o dechnoleg newydd. Mae’n rhaid i’r syniad hwnnw gael ei brofi’n drwyadl, ei ddadansoddi, ei fireinio, ac yna’i brofi eto. Mae’r un peth yn wir am bob busnes. Ac efallai’r rheswm pam nad yw’r broses honno’n cael y sylw a ddylai yw oherwydd bod y daith arloesi’n boenus, weithiau; wastad yn heriol ond nid bob amser yn llwyddiannus.

Ond ’does dim ffordd arall.

Mae’n rhaid i chi ganfod p’un a yw syniad newydd neu ddarn newydd o offer yn gweithio – ac un peth rydw i wedi’i ddysgu mewn mwy na deng mlynedd ar hugain yn y diwydiant rheilffyrdd yw ei bod yn well o lawer canfod os yw’r syniad hwnnw’n mynd i weithio neu beidio mewn deunaw mis na phum mlynedd. Rydych chi eisiau i bob syniad newydd lwyddo, ond os nad yw’n mynd i lwyddo, gwell methu’n gyflym a symud ymlaen i’r nesaf – dyna beth rydw i wastad wedi’i gredu.

Ac mae’n hynny’n arwain at y rheswm pam mae arnom angen y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd.

Rwy’n edmygwr mawr o’r arloeswyr talentog iawn sydd gennym ym maes rheilffyrdd. Rydym yn ffodus o gael rhai o’r meddyliau gorau a mwyaf toreithiog yn gweithio yn ein diwydiant sydd â gwir ymdeimlad o weledigaeth a chenhadaeth ar gyfer y dyfodol. Ond rydym yn eu siomi’n aml oherwydd bod y broses sydd gennym ar gyfer datblygu a phrofi eu harloesiadau yn annigonol, a bod yn onest.

Mae’r straeon yn gyfarwydd i ni i gyd.

Bu’n rhaid i rywun â syniad gwych dreulio pum mlynedd neu fwy yn dod o hyd i rywle i brofi; cael y cymeradwyaethau angenrheidiol; cael ardystiad… i’r rhai sydd wedi dal ati, mae hynny wedi defnyddio llawer mwy o adnoddau, arian ac amser nag oedd angen. Mae llawer o rai tebyg wedi rhoi’r ffidil yn y to – maen nhw wedi mynd yn brin o arian neu amser, gan adael llawer o syniadau da a hyfyw ar lawr y labordy.

Mae’r dystiolaeth o hyn yn glir. Roedd y ‘Cynllun ar gyfer Rheilffyrdd’ diweddar yn gam ymlaen i’w groesawu wrth amlinellu gweledigaeth strategol gliriach o lawer ar gyfer y sector – ac roedd arloesi cyflymach yn allweddol i’w uchelgais. Rydym i gyd eisiau adeiladu rheilffyrdd cryfach, gwyrddach a mwy dibynadwy, ac mae datblygu cynhyrchion newydd yn gyflymach yn ffordd bwysig o wneud hynny.

Ond y gwir yw, ar hyn o bryd, dim ond y cwmnïau mwy o faint yn ein diwydiant sydd â’r gallu ariannol i gefnogi’r broses o fynd â chynnyrch newydd i’r unig gyfleuster penodol yn y byd ar gyfer profi seilwaith yng Ngholorado yn Unol Daleithiau America. Mae dod o hyd i ffordd – a lle – i arloeswyr mawr a bach ddatblygu syniadau newydd yn hollbwysig.

Felly, i mi, mae cael cyfleuster a adeiladwyd i’r diben yma yn y Deyrnas Unedig, yn y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd, lle y gellir gwneud gwaith ymchwil o’r radd flaenaf, profi ac ardystio cerbydau rheilffyrdd, seilwaith a thechnolegau rheilffyrdd newydd arloesol, yn un o’r syniadau gorau i mi ei glywed mewn amser hir.

Bydd yn helpu i gyflawni llwyddiant – a methiant – yn gyflymach, gan sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n effeithlon ac yn effeithiol. Ond mae’n bwysig mewn ffordd arall hefyd. Ble bynnag rydw i wedi gweithio, mae syniadau da fel arfer yn golygu cyfle masnachol.

Mae creu cynhyrchion, gwasanaethau neu brosesau newydd y mae pobl eisiau eu prynu yn golygu cyfleoedd refeniw. Mae hynny’n wych i’r cwmnïau a’r sefydliadau sy’n datblygu cynhyrchion yn safle GCRE, ond mae hefyd yn newyddion da i Gymru a’r Deyrnas Unedig. Mae’r cynhyrchion a’r gwasanaethau newydd hynny’n nwyddau masnsachadwy hefyd sy’n gallu cynnal potensial allforio’r sector.

A ’does dim amheuaeth bod galw am gynhyrchion newydd. Nid yw’r heriau polisi cyfunol rydym i gyd yn eu hwynebu erioed wedi bod mor ddwys yn fy nhri degawd ym maes rheilffyrdd.

Mae’n rhaid i ni i gyd gyrraedd sero net a chreu system drafnidiaeth sy’n gallu cynnal planed wyrddach wrth wynebu’r argyfwng hinsawdd. Mae pob gwlad eisiau datblygu systemau trafnidiaeth aml-ddull, integredig sy’n gallu cynnal twf mwy dynamig. Ac mae pob llywodraeth yn y byd eisiau adeiladu seilwaith rheilffyrdd yn fwy effeithlon, gan wastraffu llai o arian yn sgil prosiectau mawr sy’n cymryd mwy o amser na’r disgwyl ac yn gwario mwy na’r gyllideb.

Yn ddiweddar, dywedodd Neil Walker, Cyfarwyddwr Allforion Cymdeithas y Diwydiant Rheilffyrdd (RIA), wrth i’r sefydliad gyflwyno cyfres o argymhellion pwysig i Ymchwiliad y Pwyllgor Dethol ar Fasnach Ryngwladol:

“Er bod allforion rheilffyrdd yn werthfawr iawn – gan ddod i gyfanswm o fwy na £600m yn y flwyddyn cyn i’r pandemig ddechrau – mae potensial mawr i dyfu allforion yn fwy, gan hybu masnach y wlad a chynyddu cydnerthedd cadwyn gyflenwi’r Deyrnas Unedig – er enghraifft, trwy greu swyddi newydd mewn busnesau bach a chanolig (BBaChau).”

Mae Neil yn iawn.

Ond mae sut i gyflawni hynny a ble i gyflawni hynny yn rhywbeth y mae angen i ni ei ystyried ymhellach. A dyna lle y credaf y gall GCRE helpu.

Os gall GCRE fod yn ganolfan ar gyfer datblygu arloesedd, bydd yn creu cyfle allforio newydd arwyddocaol ar gyfer Cymru a’r Deyrnas Unedig wrth i ffrwd o gwsmeriaid masnachol geisio amser profi ac ymchwilio yno.

Fel diwydiant, credaf fod gennym gyfrifoldeb i helpu’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd i lwyddo. Os byddwn yn colli’r cyfle sydd ger ein bron, mae’n eithaf tebyg y byddwn ni, a’n heconomi, yn difaru hynny.

Drwy gofrestru ar gyfer y cylchlythyr rydych yn cytuno i'n telerau ac amodau