Adeiladu capasiti diwydiannol newydd yn y Deyrnas Unedig
Rydym wrth ein bodd bod yr Arglwydd Patrick McLoughlin, cyn-Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth a gwas cyhoeddus nodedig, wedi ysgrifennu darn traethawd yn nodi ei feddyliau ar gyfle Canolfan Ragoriaeth Rheilffyrdd Fyd-eang. Mae'r Arglwydd McLoughlin yn nodi sut y gall GCRE ddatblygu cryfder diwydiannol newydd yn ein heconomi a gwneud y DU yn arweinydd rhyngwladol mewn arloesi rheilffyrdd.
Arglwydd Patrick McLoughlin

Mae’r Deyrnas Unedig yn arwain y ffordd yn fyd-eang mewn llawer o feysydd allweddol diwydiant ac arloesedd.
O’r gweithgynhyrchu awyrofod rhyngwladol sy’n digwydd o amgylch Bryste a Gogledd Cymru; i’r arbenigedd gwasanaethau ariannol sydd gennym yn Ninas Llundain a Chaeredin; a’r seilwaith ymchwil a datblygu arwyddocaol mewn meysydd fel arloesedd fferyllol o amgylch Rhydychen a Chaergrawnt – mae gan y Deyrnas Unedig ganolfannau gwybodaeth, sgiliau a gallu sy’n sbardunwyr allweddol twf economaidd.
Mae hynny’n bwysig oherwydd, fel y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei hun wedi cydnabod, mewn byd mwyfwy globaleiddiedig, bydd dod o hyd i’r manteision hynny sy’n seiliedig ar ansawdd; syniadau newydd ac arloesedd blaenllaw yn sbarduno economi’r Deyrnas Unedig ymlaen ac yn gwneud ein cynhyrchion a’n gweithgynhyrchu’n ddeniadol, yn enwedig o ystyried mewnforion rhatach a chystadleuaeth o dramor.
Ond er gwaethaf ein balchder cyfiawn yn yr hyn rydym yn ei wneud yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd, mae’n rhaid i ni ofyn y cwestiwn ‘beth nesaf’ i’n hunain yn barhaus. Beth fydd yn gyrru ein heconomi ac yn creu swyddi a sgiliau’r dyfodol? Pa fanteision cystadleuol y gallwn ddod o hyd iddynt mewn sectorau o’r economi neu ffyrdd o fyw sy’n trawsnewid, er enghraifft mewn technolegau sy’n dod i’r amlwg fel deallusrwydd artiffisial neu wyddorau bywyd wrth i ni ddelio â disgwyliad oes cynyddol a’r pwysau anferthol sydd ar ein gwasanaeth iechyd.
A llawn cyn bwysiced yw ble y gallwn leoli’r arbenigedd newydd a’r seilwaith newydd a all ein helpu i droi’r trawsnewidiad hwnnw’n fantais economaidd? Ein tasg yn y blynyddoedd i ddod yw ailddychmygu economi’r Deyrnas Unedig a throi problemau’n gyfleoedd, trwy greu rhinwedd o’r heriau economaidd sy’n ein hwynebu a’r newidiadau y mae angen i ni eu gwneud.
Mae sero net yn rhoi un o’r cyfleoedd hynny i ni. Mae’n cynnig cyfle i ysgogi grym y trawsnewidiad economaidd nid yn unig i’n rhoi ar lwybr cynaliadwy tuag at 2050, ond ar yr un pryd i ddefnyddio’r buddsoddiad sy’n angenrheidiol i ddatblygu capasiti diwydiannol newydd yma yn y Deyrnas Unedig. Gwnaeth adolygiad Sero Net annibynnol Chris Skidmore, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, y pwynt hwn trwy ddatgan yn glir mai ‘Sero net yw prif gyfle twf yr 21ain ganrif’.
Ac nid yw’n ddadleuol dweud bod gan y llywodraeth rôl allweddol i’w chwarae wrth wireddu’r uchelgais hwnnw. Nid oes angen i chi fod yn gefnogwr mawr y wladwriaeth i gredu y dylai’r llywodraeth chwarae rôl weithredol a galluogol, mewn partneriaeth â busnes, i ddatblygu capasiti diwydiannol newydd a sbarduno swyddi newydd yfory.
Yn arbennig, mae’n rhaid i’r llywodraeth feddwl am sut mae’n ariannu sectorau newydd sy’n denu twf a’r seilwaith sy’n angenrheidiol er mwyn iddynt weithio. Mae angen iddi helpu prosiectau i lywio’r cymhlethdod a’r risg ariannol sy’n gysylltiedig â mentrau newydd trwy ddadrisgio arloesedd a galluogi seilwaith i’r pwynt lle y gall y farchnad weld cynnig y gellir buddsoddi ynddo.
Yn hollbwysig, mae angen iddi helpu prosiectau i lywio trwy’r pwynt lle y maent wedi dangos potensial masnachol sylweddol, ond na allant ddenu cyllid buddsoddi traddodiadol eto. Mae llawer o gyrff fel PwC wedi amlygu bod bwlch o’r fath yn fygythiad i’n hymateb sero net. Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd ganddynt y llynedd, ‘Mae buddsoddiad wedi cael ei ogwyddo tuag at “opsiwn rhwydd” technolegau profedig, gan adael cyfres o sectorau heb ddigon o gyllid, lle y ceir ymagweddau masnachol hyfyw â photensial uchel i leihau carbon.’
Gall y llywodraeth gyflawni rôl sefydlogol; helpu i bontio’r bwlch cyllido cynnar ac, yn hollbwysig, cefnogi yn ystod adegau anodd ar hyd y ffordd, fel pan fydd cyfraddau llog yn uchel a chwyddiant yn uwch na’r cyfartaledd. Yn aml, gall y grymoedd hyn beryglu buddsoddiad cyfalaf newydd mewn cynlluniau diwydiannol ac arloesedd cadarn oherwydd ei bod yn rhwyddach ac yn fwy diogel i gwmnïau buddsoddi sefydledig adael eu cyllid mewn opsiynau cynilo risg is.
Efallai mai’r lle amlycaf y gallwn weld hyn yn digwydd yn rhyngwladol yw yn yr Unol Daleithiau. Nid yw’r Arlywydd Biden wedi cuddio’r ffaith bod y Ddeddf Lleihau Chwyddiant, a ddaeth i rym ym mis Awst 2022, yn ddewis clir a strategol gan Lywodraeth yr Unol Daleithiau i sicrhau bod y wlad honno, wrth newid i economi sero net, ddatgarboneiddiedig, hefyd yn datblygu’r seilwaith, yr arbenigedd a’r capasiti nid yn unig i drawsnewid ei heconomi ei hun, ond datblygu cryfderau diwydiannol newydd yn yr Unol Daleithiau ar gyfer y dyfodol.
Trwy bartneriaeth a buddsoddiad, mae’n sicrhau y bydd gan yr Unol Daleithiau y cryfderau diwydiannol a’r capasiti gweithgynhyrchu trechaf ymhen 10 i 20 mlynedd mewn meysydd fel technoleg arloesi ynni glân. Amcangyfrifir y bydd y cynnydd mewn cynhyrchu batris, paneli solar, a thyrbinau gwynt yn yr Unol Daleithiau yn helpu i greu mwy na 9 miliwn o swyddi da yn ystod y degawd nesaf – bron 1 filiwn o swyddi y flwyddyn ar gyfartaledd.
Mae elfen ddiogelwch i newidiadau o’r fath hefyd, wrth i gadwyni cyflenwi mwy lleol ddod yn bwysicach mewn byd cynyddol ansefydlog. Mae Cynllun Diwydiannol Gwyrdd yr Undeb Ewropeaidd yn amlinellu cynllun uchelgeisiol tebyg i fanteisio ar y buddsoddiadau y bydd rhaid i lywodraethau ledled Ewrop eu gwneud wrth drawsnewid i sero net i ddatblygu cryfderau gweithgynhyrchu newydd hefyd a rhoi mwy o sicrwydd iddo.
Y cwestiwn yw, beth all y Deyrnas Unedig ei wneud i ddatblygu ei galluoedd a’i manteision cystadleuol newydd ei hun – a, llawn cyn bwysiced, sut gall ddarparu’r cyllid cynaliadwy i helpu i wireddu’r cyfleoedd hynny? Wel, y newyddion da yw bod cyfleoedd pwysig ar gael. Mae un ohonynt ym maes arloesedd rheilffyrdd a symudedd.
Ers blynyddoedd lawer, mae’r Deyrnas Unedig ac Ewrop wedi bod yn brin o gyfleuster all-lein a adeiladwyd i’r diben i wneud gwaith arloesi cynhyrchion, technolegau a phrosesau rheilffyrdd o ansawdd uchel. O ystyried bod y diwydiant rheilffyrdd yn werth biliynau o bunnoedd, mae’n rhyfedd nad yw wedi datblygu canolfan arbenigedd a gwybodaeth o ansawdd rhyngwladol lle y gall ganolbwyntio gweithgarwch ymchwil, datblygu a phrofi.
Mae gan sectorau diwydiannol eraill gyfleusterau o’r fath. Er enghraifft, mae gan y diwydiant modurol nifer o enghreifftiau gan gynnwys parc technoleg MIRA yn Swydd Warwig, a Millbrook yn Swydd Buckingham – cyfleusterau o’r radd flaenaf lle y gall timau modurol ymgymryd ag ystod o weithgarwch arloesi o ddylunio cysyniadol a pheirianegol i greu prototeipiau, profi, datblygu, dilysu ac ardystio ar gyfer datblygu cerbydau a thechnolegau modurol newydd.
Mae’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd (GCRE) yn Ne Cymru yn ateb i lawer o’r heriau hyn yn y sector rheilffyrdd. Ac yntau’n gyfleuster o’r radd flaenaf ar gyfer ymchwil reilffyrdd, profi ac ardystio cerbydau rheilffyrdd, seilwaith a thechnolegau newydd arloesol, bydd yn helpu i ddatblygu’r ganolfan ymchwil, datblygu ac arloesi o ansawdd uchel a gydnabyddir yn rhyngwladol y mae ei hangen ar y diwydiant rheilffyrdd ar gyfer y dyfodol.
Mae hyn yn arbennig o wir o ran datblygu rheilffyrdd yfory. Gall cyfleuster GCRE ddarparu lle i ymchwilio, profi a datblygu technolegau tyniant newydd sy’n allweddol i’n dyfodol sero net a bod yn lle i brofi’r seilwaith signalau digidol newydd sy’n allweddol i’r newid effeithlon i reilffordd gwbl ddigidol. Yn hollbwysig, byddai’n gyfleuster a fyddai’n rhoi’r Deyrnas Unedig mewn safle blaenllaw ym maes arloesedd rheilffyrdd ledled Ewrop, gan ei bod hithau hefyd yn brin o gyfleuster tebyg a adeiladwyd i’r diben fel GCRE.
Efallai’n bwysicaf oll, byddai’n helpu’r Deyrnas Unedig i ddechrau lleihau costau anferth seilwaith rheilffyrdd trwy ddatblygu seilwaith newydd sy’n fwy fforddiadwy a chydnerth i’r hinsawdd. Fe allai ein helpu i fynd i’r afael â llawer o broblemau tragwyddol prosiectau mawr sy’n mynd dros derfynau amser a’r gyllideb trwy gynnal profion integreiddio mwy cynhwysfawr cyn iddynt fynd i drafferthion. Gyda GCRE, mae’n bur debyg y gallai HS2 fod wedi canfod ffordd fwy hydrin o ddelio â’r problemau y mae wedi’u hwynebu.
Ond efallai llawn cyn bwysiced, byddai’r capasiti diwydiannol newydd y byddai GCRE yn ei greu wedi’i leoli mewn rhan o’r Deyrnas Unedig y mae arni angen dirfawr am swyddi a sgiliau newydd. Mae’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd, sy’n cael ei hadeiladu ar gyrion gorllewinol meysydd glo De Cymru, yn cynrychioli un o’r syniadau adfywio economaidd mwyaf grymus a phwysig ar gyfer rhanbarth sydd wedi dioddef mwy na deugain mlynedd o ddad-ddiwydiannu.
I wireddu ffyniant bro, bydd angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gael prosiectau y gellir buddsoddi ynddynt y gall hi ei hun ac eraill eu cefnogi’n hyderus i wneud y Deyrnas Unedig yn economi fwy cytbwys. Yn ei Phapur Gwyn Ffyniant Bro ei hun, ymrwymodd i gynyddu buddsoddiad cyhoeddus mewn ymchwil a datblygu y tu allan i Dde-ddwyrain Lloegr 40% o leiaf erbyn 2030. Bydd hynny’n gofyn am gynigion seilwaith cryf, gwerth am arian y gall cynghorau ymchwil fuddsoddi ynddynt. Gan fod pob £1 o fuddsoddiad ymchwil a datblygu cyhoeddus yn ysgogi £2 o fuddsoddiad ymchwil a datblygu preifat yn y tymor hir, mae’r enillion yn sylweddol ac felly mae’r sbardun cadarnhaol y gall y llywodraeth ei ddarparu i gychwyn prosiectau y gellir buddsoddi ynddynt yn hollbwysig.
Credaf fod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn iawn i fuddsoddi £70m mewn datblygu GCRE, oherwydd ei bod wedi rhoi’r cysyniad mewn sefyllfa gyflawnadwy yn gyflymach o lawer nag a fyddai wedi digwydd, fel arall. Yn hollbwysig, mae wedi achub y blaen ar gystadleuwyr Ewropeaidd sy’n ystyried syniadau tebyg ac wedi sicrhau y bydd y cyfleuster yn cael ei adeiladu yma yn y Deyrnas Unedig, mewn man lle y gall gael effaith adfywiol gadarnhaol.
Nid oes ffordd rwydd na llwybr tarw gwleidyddol i ddatblygu dyfodol hyfyw ar gyfer economi’r Deyrnas Unedig. Mae’n rhaid iddi gael ei seilio ar ddatblygu cryfderau diwydiannol newydd ar gyfer ein heconomi a gweithio mewn partneriaeth weithredol â’r sector preifat i greu’r seilwaith, y capasiti a’r sgiliau sy’n angenrheidiol i sicrhau bod gweithgarwch newydd yn cael ei wneud yma yn y Deyrnas Unedig, gyda chyllid cynaliadwy a phenderfyniadau beiddgar i wireddu’r gweledigaethau hynny.
Byddai sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn gartref i brif safle Ewrop ar gyfer arloesedd rheilffyrdd ac yn arweinydd byd-eang mewn technolegau datgarboneiddio newydd yn sicr yn ddechrau da.