Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn Dod yn Gyntaf ar gyfer GCRE

Y Ganolfan Fyd-Eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd (GCRE) yw’r sefydliad mwyaf yn y diwydiant rheilffyrdd i lofnodi’r Siarter Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) Rheilffyrdd.

Lansiwyd y Siarter EDI, sydd â thros 200 o lofnodwyr, ym mis Tachwedd 2020 ac fe’i harweinir ar y cyd gan Gymdeithas y Diwydiant Rheilffyrdd (RIA) a Women in Rail. Mae’n agored i’r holl sefydliadau sy’n gweithio yn sector rheilffyrdd y DU sy’n dymuno chwarae rôl mewn hyrwyddo newid cadarnhaol.

Amcan y Siarter EDI yw gwella cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant o fewn y gweithlu rheilffyrdd a gwneud yn siŵr fod pawb sy’n gweithio yn y diwydiant yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys a’u cefnogi yn eu datblygiad a’u twf personol a phroffesiynol.

Trwy lofnodi’r Siarter EDI, mae cwmnïau’n cydnabod yn gyhoeddus fod gweithlu cynhwysol yn dda i fusnes: mae’n cynnig amrywiaeth o ran syniadau, arloesedd, diwylliant gweithlu cadarnhaol, perthnasoedd gwell â chwsmeriaid, gan gefnogi ar yr un pryd symudedd cymdeithasol a chyfle economaidd cynyddol ym mhob rhanbarth o’r DU.

Mae ymrwymiadau'r Siarter yn cynnwys:

  • Penodi aelod o’r uwch dîm arweinyddiaeth yn ‘Hyrwyddwr EDI’
  • Cytuno ar gynllun gweithredu, monitro ac adrodd ar y cynnydd a wnaed
  • Darparu cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant ac addysg cyflogeion a chefnogi dilyniant unigolion amrywiol i rolau uwch i wella cynrychiolaeth amrywiol ar lefel uwch a gweithredol yn niwydiant rheilffyrdd y DU
  • Creu diwylliant sy’n meithrin cynhwysiant ac yn darparu gofod diogel i’r holl gyflogeion siarad yn agored, gan gynnwys mewn digwyddiadau’r diwydiant ac mewn cyfarfodydd
  • Gwneud prosesau recriwtio a dilyniant yn hygyrch a deniadol i bawb i ddenu, cadw a datblygu pobl o bob cefndir, rhywedd a hunaniaeth.

Samantha Hawkins yw Prif Swyddog Ariannol GCRE ac fe’i penodwyd yn Hyrwyddwr EDI y sefydliad.

Dywedodd hi: “Yn GCRE, rydyn ni’n cydnabod bod angen i’n sefydliad edrych fel y gymuned ehangach a’r economi rydyn ni’n ei gwasanaethu, er mwyn bod yn llwyddiannus. A ninnau’n ganolfan newydd ym maes rheilffyrdd, rydyn ni wedi ymrwymo yn y bôn i adeiladu GCRE mewn ffordd sy’n sicrhau bod gwerthoedd tegwch, cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ganolog iddi o’r cychwyn cyntaf. Rydym yn falch iawn o fod wedi llofnodi’r Siarter Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ac edrychwn ymlaen at weithio ochr yn ochr ag eraill fel partner gweithredol wrth wneud rheilffyrdd yn lle sy’n edrych fel y byd o’u cwmpas.”

Dywedodd Prif Swyddog Masnachol GCRE, Kelly Warburton:

“Rydyn ni eisiau i’r Ganolfan Fyd-Eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd fod yn llwyddiant masnachol mawr. Elfen hanfodol o hynny yw sicrhau bod ein tîm, ein diwylliant a’n ffyrdd o weithio, ar draws y sefydliad, yn adlewyrchu’r cwsmeriaid amrywiol rydyn ni’n eu gwasanaethau a’r cymunedau rydyn ni’n gweithio ynddyn nhw. Mae cael amrywiaeth eang o bobl, profiadau a chefndiroedd yn ein tîm, a gweithio mewn ffordd gadarnhaol gyda chydraddoldeb wrth wraidd yr hyn rydyn ni’n ei wneud, yn ein helpu i gyflawni hynny trwy wneud penderfyniadau cryfach.”

Drwy gofrestru ar gyfer y cylchlythyr rydych yn cytuno i'n telerau ac amodau