Dod o hyd i Bartneriaid Gwych

Pan fydd yn agor yn 2025, rydym am i’r Ganolfan Fyd-Eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd (GCRE) fod yn fan lle y daw pobl a syniadau gwych ynghyd – safle lle y gall peirianwyr rheilffordd medrus, technegwyr creadigol ac arloeswyr dawnus o bob cwr o’r byd weithio mewn partneriaeth i ddatblygu, profi a mireinio technolegau newydd cyffrous a ddaw yn asgwrn cefn y rhwydwaith rheilffyrdd cryfach, gwyrddach a mwy fforddiadwy y mae ei angen arnom at y dyfodol.

Ac ni fydd yr ysbryd hwnnw o weithio mewn partneriaeth wedi’i gyfyngu i’r hyn sy’n cael ei brofi ar y cledrau. Wrth i ni adeiladu busnes GCRE ei hun, rydym yn benderfynol o ddatblygu’r cwmni gyda’r un ysbryd hwnnw o gydweithredu – dod yn sefydliad sy’n meithrin perthnasoedd gwaith cadarn gyda’r cleientiaid a’r gadwyn gyflenwi rydym yn gweithio â nhw.

Nid yw’r perthnasoedd hynny yn bwysicach yn unman nag yn y cymunedau gerllaw’r safle. I ni, bydd gweithio gyda busnesau lleol gwych yng Nghymoedd Dulais ac Abertawe, ynghyd â’r rhanbarth ehangach, yn hollbwysig i’n llwyddiant. Fel busnes, rydym am i GCRE ddatblygu cadwyn gyflenwi hyddysg, gadarn, fel ein bod, o adeg adeiladu i weithredu, yn defnyddio sgiliau, gwybodaeth ac arbenigedd lleol fel y bydd y Ganolfan Fyd-Eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd (GCRE) yn llwyddiant rhyngwladol, sef yr hyn y gwyddom y gall fod.

Un o’r perthnasoedd lleol pwysicaf i ni ei datblygu yn y misoedd diwethaf yw’r berthynas gyda Seren Global Media – sef asiantaeth greadigol brofiadol yn Abertawe sy’n rhoi cyngor ar gysylltiadau cyhoeddus, strategaeth ac ymchwil i’r farchnad i gwmnïau ledled y Deyrnas Unedig. Rydym wedi bod yn gweithio gyda Seren dros y misoedd diwethaf i ddatblygu gwefan newydd ar gyfer busnes GCRE ac i’n helpu i sefydlu mwy o bresenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol.

Daeth y cydweithrediad i fodolaeth o ganlyniad i ddigwyddiad ‘Cwrdd â’r Prynwr’ a gynhaliom yn ne Cymru nôl ym mis Tachwedd y llynedd. Helpodd y digwyddiad i arddangos rhai o’r cyfleoedd cyffrous a oedd ar ddod i fusnesau lleol a rhanbarthol weithio gyda GCRE wrth i ni ddechrau adeiladu’r safle ac agor ein cyfleusterau storio cyntaf yn nes ymlaen eleni.

Dechreuodd Seren siarad â ni am ein hanghenion o ran gwefan a nhw oedd y cwmni cyntaf i sicrhau contract o’r digwyddiad. Gan weithio ochr yn ochr â’u partneriaid, WebAdept UK, yn Hwlffordd, gwnaethant ein helpu i roi ein gwefan newydd gcre.wales/cy yn fyw ddiwedd Rhagfyr 2022.

Eu profiad a’u hagwedd gadarnhaol oedd yn wych am weithio gyda thîm Seren Global Media. Helpodd tîm Seren, dan arweiniad Grant Nicholas a Wyn Jenkins, i ni ddeall beth oedd ei angen arnom a chyfrannont syniadau a chreadigrwydd am sut i wneud y mwyaf o’n gwefan newydd. Yr hyn gawson ni yn y pen draw oedd yr union beth roeddem am ei gael – gwefan fodern, hygyrch a phroffesiynol sy’n ein helpu i adrodd stori GRCE. Ni fu’n rhaid i ni estyn allan ar draws y byd, roedd y partner angenrheidiol ar garreg ein drws. 

Wrth gwrs dim ond rhan fach iawn o'n stori ni yw contract ar gyfer gwefan, ond beth mae'r enghraifft hon yn ei gynrychioli i ni yn GCRE yw'r ffordd yr ydym am fynd ati i adeiladu ein busnes. Rydym am i'r Ganolfan Ragoriaeth Rheilffyrdd Fyd-eang fod nid yn unig yn llwyddiant masnachol ond yn un a all gael effaith gadarnhaol yn lleol – effaith gadarnhaol a sefydlwyd trwy bartneriaethau lleol cryf gyda'r busnesau a'r cymunedau ger y safle.

Byddwn yn defnyddio rhan o’r wefan newydd a ddatblygodd Seren ar ein cyfer i adrodd mwy o storïau fel hyn. Byddwn yn ceisio amlygu’r ffyrdd y mae’r Ganolfan Fyd-Eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd nid yn unig yn gyfle i adeiladu cyfleuster arloesi’r rheilffyrdd o’r radd flaenaf – ond yn gyfle hefyd i gael effaith gadarnhaol ar yr ardal leol o gwmpas y safle trwy gyfraniadau at yr economi sylfaenol a datblygu perthnasoedd gwaith cadarn â busnesau a chymunedau gerllaw.

Ac yn y cyfamser, os oes angen gwefan ar rywun, gallwn argymell yr union bobl i helpu!

Drwy gofrestru ar gyfer y cylchlythyr rydych yn cytuno i'n telerau ac amodau