Pe baen nhw ond yn aros ...
Yn y blog yr wythnos hon, mae Craig Whitney o’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd (GCRE) yn mynd ati i archwilio hanes hen Waith Haearn Banwen ger safle GCRE
Roeddwn i’n meddwl ’mod i’n hen gyfarwydd â hanes yr ardal leol.
O garneddau claddu neolithig i ffordd Rufeinig sy’n parhau i fodoli (Sarn Helen) a gwersyll cyrch cyfagos y Fyddin Rufeinig, roeddwn i’n meddwl fod gen i ddealltwriaeth dda o hanes cyfoethog y dirwedd lle rwy’n byw yng Nghwm Dulais. Ond roeddwn i’n llai cyfarwydd â stori Gwaith Haearn Banwen.
Er bod digon o dystiolaeth hanesyddol o wneud haearn a gwaith brics ar safle’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd o’r 1830au cynnar ymlaen, doeddwn i ddim yn ymwybodol o hwn. Roeddwn i wedi clywed hanesion lleol am waith haearn ‘coll’, ond nid yw ar goll o gwbl, mewn gwirionedd. Dim ond wedi’i guddio ac yn llawn llystyfiant.
Yn ddiweddar, fe gawson ni wahoddiad gan Ian, sy’n ffermwr lleol, i ymweld ag olion Gwaith Haearn Banwen sydd ar ei dir a thynnu ffotograffau ohonynt. Mae Ian yn ffermio 140 o erwau sy’n ymestyn i lawr o Fanwen i Ystradfellte, ar y ffin ag afon Pyrddin wrth iddi dywallt dros raeadrau i gyfarfod â blaenddyfroedd afon Nedd.

Mae’r Gwaith Haearn, sydd wedi’i leoli ychydig dros gilometr i’r dwyrain o safle presennol GCRE yn Onllwyn ar Fferm Tonpyrddyn, yn darparu rhagor o dystiolaeth o dreftadaeth ddiwydiannol hir Cwm Dulais Uchaf a’r ysbryd arloesol sydd wedi nodweddu’r ardal ers canrifoedd lawer.
Ar ôl cyfarfod ag Ian ar y fferm, fe wisgon ni ein hesgidiau glaw angenrheidiol iawn a mynd ymlaen i sgrialu trwy laswellt a oedd yn dod i fyny at ein canol ac yna i lawr clawdd mynediad a oedd bron wedi’i guddio yn y coed. Roedd y dramffordd yno’n wely nant bellach ar ôl un o’r misoedd Gorffennaf gwlypaf ers blynyddoedd lawer.
Fe ddisgynnon ni i lawr y nant, gan stryffaglo dros gerrig mawr a ffurfiodd wely’r trac rheilffordd ar un adeg a dod allan i olau haul llachar mewn dôl glan afon llawn llystyfiant. Yno’n syth o’n blaenau roedd pedwar strwythur cerrig mawr. Roeddwn i’n teimlo fel fforiwr cynnar yn darganfod temlau Maiaidd am y tro cyntaf!

Aberthodd y corn simnai a oedd wedi cwympo lawer o’i gerrig i adeiladu strwythur cychwynnol ffermdy Ian, a adeiladwyd â llaw gan ei dad-cu ym 1927. Dim ond un capfaen a oedd yn aros ynghudd yn y danadl a oedd yn cyrraedd at y frest. Ond roedd y tŷ injan yn sefyll yn gadarn o hyd, diolch i grant gan CADW rai blynyddoedd ynghynt i gynnal yr adfeilion. Roedd y ddwy ffwrnais chwyth wedi cwympo’n rhannol, ond yn bresenoldeb urddasol o hyd, wedi’u hadeiladu’n hardd gyda cherrig nadd ac yn meinhau am i fyny o’r gwaelod.
Yn fwyaf trawiadol oedd wal gynnal fawr y clawdd llwytho, a ddefnyddiwyd i lwytho’r ffwrneisiau o’r top. Roedd coed wedi tyfu trwy’r strwythur, a oedd yn sefyll rhyw saith metr o uchder a hanner can metr ar draws, gan atgyfnerthu’r delweddau Maiaidd a oedd eisoes yn fy meddwl.

Wrth ddringo’r dramffordd serth/gwely’r nant unwaith eto, fe ddaethon ni’n ôl i’r clos. Ar un adeg, y beudy cerrig nesaf at Fferm Tonpyrddyn oedd safle’r saer coed a’r efail ar gyfer y gwaith, ynghyd â phwll i gyflenwi dŵr cyddwyso a boeler i olion yr injan chwythu yn y cefn. Roedd cwt cerrig bach mewn cae cyfagos yn cynnwys pont bwyso ar gyfer y tramiau ac mae’r mecanwaith pwyso ei hun wedi goroesi’n gyfan, er ei fod wedi’i gladdu. Fe ddarganfuon ni’r plât pwyso wedi’i gladdu mewn hyd yn oed mwy o ddanadl at ein canol. Mae sylfeini ac olion Tai-Garreg i’r de, sef bythynnod cerrig bach i letya’r gweithwyr.

Mae’n debyg mai Gwaith Haearn Banwen yw’r enghraifft fwyaf cyflawn o waith haearn i oroesi ym meysydd glo carreg De Cymru. Fe’i hariannwyd ac adeiladwyd yn hapfasnachol ym 1845-48 gan Gwmni Haearn a Glo Banwen yn ystod ‘cyffro rheilffyrdd’ y cyfnod gan Rowland Jay Browne, sef bargyfreithiwr o Lundain a chanddo gartref yn Ynysarwed gyfagos yng Nghwm Nedd uchaf.
Roedd tramffordd geffylau’n cysylltu’r Gwaith Haearn â Thramffordd Coedwig Aberhonddu a oedd yn mynd o Gamlas Abertawe yng Nghae’r-lan dros ucheldiroedd Fforest Fawr newydd ei hamgáu, i Lanfa’r Dramffordd ger Pontsenni. Roedd y rhwydwaith o dramffyrdd lleol yn ei gysylltu â glanfa ar rannau uchaf camlas Abertawe yn Aber-craf hefyd.
Mae’n debygol y cafodd ei fwydo â glo carreg o ansawdd uchel o lofeydd lleol Maes Marchog, carreg galch o chwarel Penwyllt, dŵr o afon Pyrddin a mwyn o chwarel gyfagos, sydd bellach o dan y cae pêl-droed y tu ôl i Neuadd Les Glowyr Onllwyn.

Yn anffodus, er iddo wneud rhyw 80 o dunelli o haearn crai, methodd y cwmni gynhyrchu’r swm a oedd yn ofynnol i fodloni amodau’r brydles, felly fe aeth i law’r derbynnydd. Ym 1861, fe’i gwerthwyd i Llewellyn and Son (Llewellyn and Co), a rhoddwyd y gorau i gynhyrchu haearn ar y safle ym 1862. Cefnwyd arno wedi hynny.
Yn eironig, flwyddyn yn ddiweddarach ym 1863, agorodd reilffordd stêm Castell-nedd i Aberhonddu. Byddai’n mynd trwy safle GCRE yn Onllwyn filltir yn unig o’r gwaith haearn sydd bellach yn segur.’Tasen nhw ond wedi aros.
Hoffwn ddiolch o galon i Ian am ei daith wybodus iawn.
Diolch yn ddiffuant i Ian am ei daith wybodus iawn.