Mae’n rhyfedd sut mae pethau’n gweithio…
Ysgrifennwyd blog yr wythnos hon gan Craig Whitney, a anwyd yng Nghwm Dulais ac sydd newydd ddechrau gyda thîm y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd fel Swyddog Datblygu Busnes.

Mae’r dirwedd o amgylch safle’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd yn un rydw i wedi’i hadnabod ar hyd fy oes. Rydw i wedi cerdded bron pob modfedd o’r mynyddoedd a’r bryniau a fydd yn gefndir mor drawiadol i’r prif gyfleuster arloesedd rheilffyrdd yn Ewrop cyn hir.
Fy enw i yw Craig Whitney ac rydw i wedi ymuno â thîm GCRE yn ddiweddar fel Swyddog Datblygu Busnes, gan gefnogi un o’r datblygiadau seilwaith rheilffyrdd pwysicaf a mwyaf cyffrous yn y Deyrnas Unedig ac Ewrop.
Cefais fy ngeni yma yng Nghwm Dulais, ym Myngalo Ashgrove ar ffordd Onllwyn i Goelbren. Glowyr lleol yn y pyllau dwfn oedd fy nau dad-cu, fel eu tadau nhw o’u blaenau. Mae fy ngwreiddiau Cymreig yn ymestyn yn ôl dros o leiaf bum cenhedlaeth.
Ar ôl symud i Lundain gyda swydd fy nhad pan oeddwn yn blentyn bach, dychwelais i Gymru cyn gynted ag y gallwn dros dri deg pum mlynedd yn ôl gyda fy ngwraig a’m teulu ifanc a fagwyd i gyd yng nghysgod yr Olchfa, sef y prif gyflogwr yn yr ardal ar un adeg.
Rydw i wedi treulio rhyw ugain mlynedd yn y diwydiant argraffu a phymtheng mlynedd arall yn gweithio i mi fy hun i raddau helaeth a chynnal busnesau yn y diwydiannau marchnata a beiciau modur. Yr hyn a’m denodd i’r cyfle gyda GCRE oedd y cyfle i fod yn rhan o’r tîm sy’n ceisio adfywio ac ailfywiogi cwm yr wyf wedi’i garu ar hyd fy oes. Anaml y cewch chi gyfle i weithio ar eich stepen drws, a’r cyfle i roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned sy’n golygu cymaint i mi oedd y peth mwyaf cymhellol am y rôl.
Roedd gan yr ardal ganolfan fasnachol fywiog ar un adeg. Roedd nifer o siopau, gorsafoedd petrol a hyd yn oed siopau adrannol yn fy mhentref ar anterth y glofeydd. Mae calon y gymuned yno o hyd – mae gennym siop bentref, tafarn a chlwb rygbi – ond mae llawer o’r seilwaith cymdeithasol ehangach wedi diflannu. Rydyn ni wedi colli o leiaf bum tafarn o fewn radiws o filltir o safle GCRE yn ystod y degawdau diwethaf, dim ond un o’r ffyrdd y mae dad-ddiwydiannu wedi effeithio ar yr ardal leol. Fel y bydd llawer o’r rhai sy’n byw mewn cymunedau meysydd glo yn tystio, mae tirwedd ffisegol ein cymunedau wedi newid yn sylweddol yn ddiweddar.

Rwy’n ystyried fy hun yn ffodus iawn i fyw mewn pentref mor hardd a thawel, wedi’i amgylchynu gan fawredd parc cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Ond dros y 200 mlynedd diwethaf, bu’n amgylchedd diwydiannol gweithiol ac mae ei fasnach wedi cynnal y cartrefi, y busnesau a’r pensiynau gerllaw. Bellach, rwy’n mwynhau’r cyfle i fod yn rhan o bennod nesaf y stori honno, gan gyfrannu at roi’r cyfle i’m plant i, ac yn wir eu plant nhw, weithio’n lleol mewn prosiect arloesol ar gyfer diwydiant sydd ar drothwy chwyldro teithio gwyrdd.
Yn broffesiynol, rydw i wedi bod yn ymwneud ag ynni adnewyddadwy, batris storio a diwydiannau solar yn ystod y pum mlynedd diwethaf, felly rwy’n frwdfrydig ynglŷn â phrosiectau sy’n ymgorffori’r technolegau hyn sy’n dod i’r amlwg wrth wraidd eu datblygiadau. Mae hyn yn ganolog i weledigaeth GCRE, sy’n ceisio bod yn gyfleuster sero net wrth weithredu a bod yn ganolbwynt ar gyfer technolegau gwyrdd newydd a ddefnyddir ledled y byd yn systemau trafnidiaeth modern a chynaliadwy yfory sy’n cael eu hadeiladu ledled y byd.
Roedd glo wedi dominyddu’r dirwedd hon am genedlaethau, gan effeithio’n fawr ar yr amgylchedd. Roedd llawer o’r swyddi a ddarparodd yn anodd ac yn beryglus, ac mae gwaddol dirywiad y diwydiant trwm wedi gadael llawer o greithiau.
Rwy’n credu bod gan GCRE gyfle i dorri tir newydd – nid dim ond ar gyfer rheilffyrdd, ond ar gyfer cymoedd yr ardal hon. Trwy gyflwyno diwydiant gwyrdd newydd i gymuned sydd eisoes yn falch a dod â swyddi medrus o ansawdd da i’r rhanbarth, gallwn roi cymunedau’r cymoedd fel fy un i yn ôl ar y droed flaen, gan arwain y ffordd o ran technoleg newydd ac arloesedd – a fydd, yn ei dro, yn cefnogi busnesau a chymunedau lleol gerllaw. Bydd arnom angen adeiladwyr, gweithwyr tir, weldwyr, gosodwyr, peirianwyr a llawer mwy i adeiladu a chynnal ein cyfleuster newydd, yn ogystal ag ystod eang o staff gweinyddol a chymorth.
Ond, i mi, un o’r pethau allweddol yw rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned. Mae’r ystyriaethau amgylcheddol a thirweddu adferol wrth wraidd y datblygiad – gan adnewyddu llawer o’r hen Olchfa a darparu cyfleoedd newydd i gymunedau lleol elwa o’r seilwaith newydd sy’n cael ei ddatblygu. Mae’r ymrwymiad diweddar a wnaed i adfer y domen sborion “cacen briodas” yn un enghraifft o’r ffyrdd y mae GCRE eisiau bod yn gymydog da i’r rhai sy’n byw yn lleol.
Wrth gwrs, mae’n siŵr y byddaf yn cyfarfod â’r bobl leol niferus sy’n croesawu ac yn cefnogi’r datblygiad am yr union resymau yr wyf i mor frwdfrydig ynglŷn ag ef. Ond, byddaf hefyd yn gwrando ar unrhyw un sydd â chwestiynau ac yn gweithio gyda fy nghydweithwyr i roi’r atebion a’r sicrwydd angenrheidiol i’r rhai sy’n byw gerllaw.
Mae’n wych bod yn rhan o ddatblygu’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd - doeddwn i erioed wedi meddwl y byddwn yn cael cyfle mor wych i fod yn rhan o greu dyfodol llewyrchus i’r cymunedau yr wyf yn rhan ohonynt.
Mae’n rhyfedd sut mae pethau’n gweithio.