Cerrig milltir...
Mewn darn yr wythnos hon, mae Prif Weithredwr y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd (GCRE), Simon Jones, yn archwilio rhai o oblygiadau ehanagch y dyfarniad £15m a enillwyd yn ddiweddar gan brifysgolion partner trwy Gronfa Fuddsoddi Partneriaeth Ymchwil y Deyrnas Unedig i sefydlu Canolfan newydd ar gyfer Profi, Dilysu a Phrofiad Cwsmeriaid Rheilffyrdd ar safle GCRE

Fel y dywed yr hen air: “Gweddïwch dros gefn cryfach, nid llwyth ysgafnach”.
Mae pob prosiect seilwaith rydw i wedi gweithio arno’n teimlo fel ymdrech i chwilio am gefn cryfach!
Mae’n ymddangos fel petai cyfarfodydd, gweithdai a thrafodaethau diddiwedd yn dominyddu’ch wythnos waith. Mae’n gallu teimlo’n ddi-ben-draw weithiau wrth i faterion cymhleth bentyrru ar ei gilydd – a phob un angen sylw, adnoddau ac amser i feddwl trwyddynt a’u datrys.
Dyna pam mae’n bwysig nodi cerrig milltir arwyddocaol ar hyd y ffordd. Maen nhw’n dangos i’ch tîm fod yr ymdrech ar y cyd yn dwyn ffrwyth yn ogystal ag atgoffa cynulleidfa ehangach y tu allan bod cynnydd pendant yn cael ei wneud wrth gyflawni’r weledigaeth rydych wedi’i hamlinellu.
Rydw i wedi bod yn myfyrio ar hyn yn ddiwedar wrth i mi edrych ar sut mae ffurf y tir ar y safle wedi newid a chymaint mae’r dirwedd yn newid. Mewn gwahanol rannau o’r safle 700 o hectarau, mae twmpathau enfawr o fwd a cherrig yn cael eu llyncu bob dydd gan y peiriannau a’r peirianwaith anferthol a’u lefelu i wneud y trywydd sy’n angenrheidiol ar gyfer y traciau profi cerbydau rheilffyrdd a seilwaith a fydd yn guriad calon cyfleuster newydd GCRE yn y pen draw.

Ac fe wnaeth i mi feddwl am garreg filltir arall a gyrhaeddwyd yn gynharach y mis hwn.
Un llai dramatig yn ffisegol, efallai, na thalpiau mawr o bridd yn cael eu symud, ond un llawer mwy arwyddocaol – y cyhoeddiad bod Prifysgol Birmingham, ochr yn ochr â Phrifysgolion Caerdydd ac Abertawe, wedi cael dyfarniad £15m trwy Gronfa Fuddsoddi Partneriaeth Ymchwil y Deyrnas Unedig (neu UKRPIF) i sefydlu Canolfan Ragoriaeth newydd ar gyfer Profi, Dilysu a Phrofiad Cwsmeriaid Rheilffyrdd ar safle GCRE.
Roedd y garreg filltir honno’n un bwysig i’w nodi am nifer o resymau.
Yn gyntaf, i dîm GCRE, mae’n cynrychioli diwedd swm enfawr o waith.
Wrth sefydlu’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd fel safle ar gyfer gwaith ymchwil, profi ac ardystio cerbydau rheilffyrdd, seilwaith a thechnolegau rheilffyrdd newydd arloesol o’r radd flaenaf, roedd wastad yn mynd i fod yn hanfodol sicrhau’r partneriaid academaidd o ansawdd uchel y gallem weithio gyda nhw ar y safle i wneud y cyfleuster yn arwyddocaol yn rhyngwladol.
Mae Rhwydwaith Ymchwil ac Arloesedd Rheilffyrdd y Deyrnas Unedig (UKRRIN), a arweinir gan Brifysgol Birmingham mewn cysylltiad â phrifysgolion blaenllaw eraill y Deyrnas Unedig, ynghyd ag Abertawe a Chaerdydd bellach, yn sicr yn darparu’r partneriaid hynny o ansawdd. Mae hefyd yn tawelu meddwl cleientiaid masnachol yn y diwydiant bod GCRE wir ar y ffordd i ddod yn brif safle Ewrop ar gyfer profi arloesedd rheilffyrdd, yn ogystal â dangos i fuddsoddwyr preifat fomentwm y diwydiant y tu ôl i syniad GCRE.
Yn ail, i’r diwydiant rheilffyrdd, mae’r cyhoeddiad yn gam allweddol arall tuag at ddatblygu’r hyn y mae arno ei angen mor ddybryd – sef safle unigol, integredig a adeiladwyd i’r diben lle y gellir profi ymchwil a datblygiad rheilffyrdd o’r radd flaenaf.
Gall GCRE, sydd wedi’i lleoli yma yn y Deyrnas Unedig, gynnig cyfle i’r diwydiant gyflymu arloesedd a dod â chynhyrchion newydd i’r farchnad yn gyflymach; cefnogi’r broses o ymchwilio a phrofi’r technolegau newydd creadigol sy’n angenrheidiol ar gyfer datgarboneiddio rheilffyrdd; helpu i leihau costau rheilffyrdd a bod yn gyfleuster lle y gellir datblygu seilwaith rheilffyrdd mwy cost-effeithiol. Fel darn allweddol o seilwaith y mae ei angen ar y sector, bydd GCRE yn chwarae rôl bwysig wrth helpu i greu rhwydwaith rheilffyrdd yfory.
Ond, yn drydydd, mae gan y pecyn cyllid a gyhoeddwyd y mis hwn arwyddocâd ehangach i Gymru a’r Deyrnas Unedig.
‘Mae’r syniad o greu ‘sbardunwyr’ twf economaidd newydd mewn ardaloedd lle y mae gwir angen amdanynt yn un hyfyw a chyflawnadwy.’
Un o ysgogiadau’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd oedd y gwaith y gallai ei wneud i helpu i adfywio rhan bwysig o feysydd glo De Cymru trwy ddod â swyddi a sgiliau newydd o ansawdd uchel i’r ardal.
Fel llawer o gymunedau blaenau’r cymoedd, mae’r deugain mlynedd diwethaf wedi bod yn anodd iawn i’r trefi bach a’r pentrefi o amgylch safle GCRE. Mae dad-ddiwydiannu a cholli cyflogaeth fwyngloddio bwysig wedi bod yn ergyd drom i’r ardal, ac mae daearyddiaeth a thopograffeg y rhan hon o’r maes glo’n golygu ei bod yn anodd annog gweithgarwch diwydiannol cyfnewid yn rhwydd. Mae heriau strwythurol amddifadedd ac anweithgarwch economaidd yn parhau i gael effaith sylweddol ar gymunedau, canlyniadau iechyd a chyfleoedd bywyd.
Dyna un o’r prif resymau pam y buddsoddodd Llywodraeth Cymru £50m i gychwyn datblygiad GCRE yn y lle cyntaf a pham mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi buddsoddi bron £30m hefyd – i helpu GCRE i ddod yn sbardun ar gyfer twf economaidd newydd.

Mae pecyn cyllid Ymchwil ac Arloesi yn y Deyrnas Unedig wedi parhau i gyfiawnhau’r ymyriadau cyhoeddus pwysig hynny gan y ddwy lywodraeth. Mae hyn yn rhannol oherwydd y math o fuddsoddiad y mae cyllid UKRPIF yn ei gynrychioli. Nid oedd pwysau ar y cyrff cyllido i’w ddyrannu – cyllid ymchwil a datblygu a enillwyd yn gystadleuol oedd hwn.
Mae hynny’n arwyddocaol oherwydd, mewn rhan o’r Deyrnas Unedig sydd wedi cael trafferth denu ei chyfran o gyllid ymchwil a datblygu cystadleuol fesul pen o’r boblogaeth, mae ennill dyfarniad cyllid ar y raddfa hon – gyda’r tebygolrwydd o arian cyfatebol gan y diwydiant ar ben hynny – yn eiliad bwysig o bosibl mewn cyd-destun datblygu economaidd ehangach. Mae’n dangos bod ymdrech wedi’i thargedu i ddatblygu galluoedd ymchwil ac arloesedd newydd mewn ardaloedd y tu allan i rai sy’n gryf yn draddodiadol, fel triongl euraid Llundain, Rhydychen a Chaergrawnt, yn bosibl iawn.
Mae’r syniad o greu ‘sbardunwyr’ twf economaidd newydd mewn ardaloedd lle y mae gwir angen amdanynt yn un hyfyw a chyflawnadwy.
Wrth gwrs, mae llawer mwy i’w wneud.
Mae’r cyllid a gyhoeddwyd ar gyfer y Ganolfan Ragoriaeth newydd ar gyfer Profi, Dilysu a Phrofiad Cwsmeriaid Rheilffyrdd i’w groesawu, ond bydd llawer mwy o gyfarfodydd, gweithdai a churo pennau ar fyrddau gyda’n gilydd cyn i ni allu datgan bod GCRE yn llwyddiant.
Ond dyma ddechrau rhywbeth, efallai.
Prawf gydag ymdrech ar y cyd, gwaith caled a chynllunio gofalus, y gall rheilffyrdd chwarae rhan bwysig yn yr ymdrech genedlaethol i wneud ein heconomi’n decach roof.
Mae hynny’n sicr yn garreg filltir i’w nodi.
Ac yn werth y poen cefn.