'Y cyfle i yrru ac annog cydweithio ar draws ein rheilffyrdd'
Ysgrifennwyd ein blog gwadd yr wythnos hon gan Elaine Clark, Prif Weithredwr y Fforwm Rheilffyrdd. Yn ei darn, mae Elaine yn amlygu rhai o’r heriau strategol mawr a fydd yn wynebu rheilffyrdd yn ystod y blynyddoedd i ddod ac yn amlinellu sut gall y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd (GCRE) helpu’r diwydiant a busnesau i fynd i’r afael â nhw.
Pan fyddwn yn cyfarfod ag aelodau’r Fforwm Rheilffyrdd, mae nifer o faterion neu rwystredigaethau cyffredin yn codi wrth sgwrsio. Rydym yn cofnodi’r rhain ac yn ceisio cymryd camau i’w datrys lle y gallwn.
Mae’r rhain yn cynnwys (heb drefn benodol):
- Prosesau cymeradwyo hirfaith ar draws pob rhan o’r diwydiant
- Diffyg mabwysiadu syniadau ac arloesiadau newydd o ganlyniad i amharodrwydd i dderbyn risg
- Mae’r rhan fwyaf o brynu’n cael ei sbarduno gan y gost isaf yn hytrach na gwerth oes gyfan
- Angen gwell cefnogaeth i’r cwmnïau hynny sy’n dymuno allforio a
- Diffyg meddwl trwy systemau a systemau wedi’u hintegreiddio’n wael ar draws cerbydau/seilwaith
Credwn y bydd GCRE yn darparu cyfle gwych i weithio ar y rhain gyda’n gilydd, a chyda’r diwydiant ehangach, ac mae’n rheswm allweddol pam yr oeddem yn falch iawn o’i chroesawu fel ein partner pen-blwydd yn 30 oed ar ddechrau 2023.
Gall y ddau fater cyntaf ar fy rhestr fynd law yn llaw a gallai GCRE, trwy weithio mewn partneriaeth â chleientiaid allweddol, weddnewid y sefyllfa o ran cymeradwyo os bydd cleientiaid yn gweithio’n adeiladol i hwyluso hyn.
Dylai GCRE ddarparu amgylchedd unigryw gyda chyfle i efelychu gwahanol amodau gweithredol i brofi bod y cynhyrchion sydd ar brawf yn gweithio ym mhob sefyllfa ac amgylchedd. Yna, gall unrhyw brofi ychwanegol gael ei gadw i’r lefel leiaf posibl.
Mae gennym gyfle i lwyr ailystyried y prosesau cymeradwyo a’r rhwystrau y mae angen i gwmnïau eu goresgyn er mwyn i’w cynhyrchion gyrraedd y rheilffyrdd. Nid er mwyn eu gwneud yn llai beichus – nid ydym eisiau cyfaddawdu sawl maen prawf allweddol ar gyfer llwyddiant – ond eu gwneud yn fwy effeithiol i bawb. Gallai hyn gyflymu arloesedd, gwella profiad cwsmeriaid a lleihau costau cymeradwyo ac amser i’r farchnad ar gyfer cyflenwyr.
'Does bosib nad yw hon yn wobr y mae’n werth ymdrechu amdani os gall pawb weithio gyda’i gilydd ar gyfer y canlyniad gorau i’n cwsmeriaid?

Y mater nesaf ar fy rhestr yw pwyslais caffael cyhoeddus y Deyrnas Unedig ar y gost gychwynnol isaf yn hytrach na’r gwerth oes gyfan. A allai GCRE helpu i newid yr ymagwedd honno? Rwy’n mawr obeithio hynny!
Efallai mai gobaith ofer ar fy rhan i yw hyn, ond rwy’n credu y gall GCRE chwarae rôl yn hyn o beth. Os gall cyflenwyr brofi eu cynhyrchion, deall cost y cylch oes, materion traul, optimeiddio gofynion cynnal a chadw ac ati, yna fe ddylent allu cynhyrchu cynigion o ansawdd gwell gyda thystiolaeth go iawn wrth dendro ar gyfer archebion newydd.
Beth fyddai’n well na gallu dangos eich cynhyrchion yn y fan a’r lle i’ch darpar gwsmeriaid ar ôl xx o filltiroedd o ddefnydd i ddangos eu hansawdd. Ac fe allai ac y dylai hyn ysgogi penderfyniadau gwell ac arwain at gyflwyno cynhyrchion gwell ar y rheilffyrdd.
Ac i mi, mae’r gallu i ddod â darpar gwsmeriaid o dramor i weld eich cynhyrchion mewn amgylchedd profi bywyd go iawn yn gam gweddnewidiol arall. Yn enwedig os gellir cyfuno hyn ag amlygiad ehangach i alluoedd cadwyn gyflenwi’r Deyrnas Unedig i greu cynnig “Tîm y Deyrnas Unedig”.
Dychmygwch allu dod â chwsmeriaid o dramor i weld sut mae ymgynghorwyr, dylunwyr, cwmnïau adeiladu, gweithgynhyrchwyr, cerbydau rheilffyrdd, cwmnïau datrysiadau digidol a mwy yn y Deyrnas Unedig wedi cydweithio i ddarparu cynhyrchion a gwasanaethau newydd cyffrous? Gallai’r ymagwedd hon roi mantais i Dîm y Deyrnas Unedig dros gystadleuwyr tramor eraill sy’n fwy rhagweithiol ar hyn o bryd.
Ac mae’r pwynt blaenorol yn berthnasol i’r un olaf sy’n ymwneud â systemau ac integreiddio.
Wrth edrych tua’r dyfodol, nid ‘os’ yw’r cwestiwn digidol ond ‘pa mor gyflym’. Bydd symudiad tuag at fwy o ddatrysiadau digidol a bydd pwysigrwydd seiberddiogelwch yn cynyddu nid lleihau, felly bydd cyfleuster lle y gallwn brofi sut mae popeth yn ‘gweithio gyda’i gilydd’ yn hollbwysig.
Efallai’r cwestiwn pwysicach yw i ba raddau y gallwn i gyd gydweithio er mwyn cynyddu budd GCRE i’r eithaf pan fydd ar waith?
Mae budd arall yn gysylltiedig â hynny; y cyfle i sbarduno ac annog cydweithio ar draws ein rheilffyrdd.