Y Ffordd sydd i’w Theithio o Hyd

Kelly Warburton – Prif Swyddog Masnachol, Canolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd

Mae rheilffyrdd wedi rhoi cymaint i mi.

Fel rhywun sydd wedi gweithio yn y diwydiant ers bron pum mlynedd ar hugain, rwy’n ffodus i edrych yn ôl ar gyfres o rolau heriol a boddhaus; gyrfa lle’r wyf wedi mwynhau dod i’r gwaith bob dydd a chyfleoedd i ffurfio cyfeillgarwch personol, arbennig iawn ar hyd y ffordd.

O’r rôl gyntaf oll yr ymgymerais â hi gydag Alstom ar droad y mileniwm, i’m swydd bresennol fel Prif Swyddog Masnachol yn y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd (GCRE), gallaf ystyried fy hun yn eithriadol o ffodus o ran y cyfleoedd yr wyf wedi’u cael yn ogystal ag ymfalchïo yn fy ymdrech fawr i wneud y mwyaf o bob un ohonynt.

Ac rwyf wedi cael rheswm i fyfyrio ar y daith yrfaol honno’n ddiweddar wrth ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gynharach y mis hwn.

I mi, mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gyfle’n bennaf i aros am eiliad ac ystyried y menywod disglair rwy’n gweithio gyda nhw ym maes rheilffyrdd ac sy’n fy ysbrydoli a’m cefnogi bob dydd.

Yn GCRE, rwy’n ffodus i gael cynifer o’r cynghreiriaid a’r modelau rôl benywaidd cryf yna o’m hamgylch. O’n Cadeirydd gwych, Dr Debra Williams, sydd wedi gweithio yn rhai o’r cwmnïau mwyaf ar draws y byd ac sy’n ffynhonnell gyson o gyngor a chefnogaeth, i’r holl fenywod dawnus rwy’n gweithio gyda nhw ar draws ein busnes. Mae gennyf lu o gydweithwyr benywaidd cryf yn GCRE i weithio gyda nhw ac wrth eu hochr.

Y mis hwn, hoffwn dalu teyrnged i’r cydweithwyr yna a’u llongyfarch – Deb, Sam Hawkins, Gail Hawthorne, Joanna Evans, Clare Byrne, Tamara Evans a Holly Machin. Chi sy’n ffurfio GCRE, a diben y darn hwn yw eich dathlu a’ch cydnabod chi a’ch gwaith.

Cododd fy nghalon wrth i mi ddarllen hanesion, tystiolaeth a syniadau cynifer o fenywod gwych sy’n gweithio ym maes rheilffyrdd yn rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2023. Mae menywod ym maes rheilffyrdd wedi dod mor bell yn ystod y ddau ddegawd diwethaf. Ond mae nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ymwneud ag edrych tua’r dyfodol hefyd. Mae’n ymwneud ag ystyried y llwybr sydd i’w deithio o hyd - ac i’r diwydiant hwn sy’n agos i’m calon, mae hynny’n gofyn am onestrwydd, yn ogystal â chanmoliaeth.Er bod fy ngyrfa i wedi cynnwys mwy o bwyntiau cadarnhaol na negyddol, nid wyf yn edrych yn ôl trwy wydrau rhosliw ac nid wyf yn anfeirniadol o’n diwydiant.

Fel gormod o fenywod sy’n gweithio ym maes rheilffyrdd, rwyf wedi bod yn destun ymddygiad, iaith a thriniaeth nad oedd yn dderbyniol. Ymddygiad, iaith a thriniaeth nad oedd yn deg nac yn gyfiawn – naill ai bryd hynny neu yn awr – a rhan o’r hyn sy’n fy ysgogi heddiw yw penderfyniad i sicrhau, ar gyfer y menywod hynny o’m hamgylch yn GCRE a thu hwnt, ein bod yn parhau i ymladd dros gydraddoldeb, amrywiaeth a thegwch ym maes rheilffyrdd ac ar draws y gweithlu.

Fel gormod o fenywod sy'n gweithio yn y rheilffyrdd, rydw i wedi bod yn destun ymddygiad, iaith a thriniaeth nad oedd, yn syml, yn dderbyniol. Ymddygiad, iaith a thriniaeth nad oedd yn deg ac nad oedd yn unig – naill ai nawr neu hynny – ac mae rhan o'r hyn sy'n fy ysgogi heddiw yn benderfyniad i sicrhau, i'r menywod hynny o'm cwmpas yn GCRE a thu hwnt, rydym yn parhau â'r frwydr dros gydraddoldeb, amrywiaeth ac ecwiti yn y rheilffyrdd ac ar draws y gweithlu.

Mae pawb yn gwybod bod heriau’n bodoli ym maes rheilffyrdd.

Y ddelwedd ohoni o hyd yw siacedi oren a depos mwdlyd; dur a saim. Delwedd o fyd o yrwyr, peirianwyr a thechnegwyr gwrywaidd. Mae’r diwylliant hwnnw wedi newid, wrth gwrs, yn enwedig ers i mi ymuno â’r sector yn ôl yn 2001. Mae llawer mwy o leisiau, unigolion a phenderfynwyr benywaidd ar bob lefel o’r diwydiant – o’r platfform i’r ystafell fwrdd – gan helpu i newid y diwydiant er gwell. Pobl fel Dyan Crowther yn HS1, Elaine Clark yn y Fforwm Rheilffyrdd, Mary Grant yn Porterbrook a Lucy Prior yn TTS – dyma’r union fath o fodelau rôl benywaidd cadarnhaol y mae angen i ni eu dathlu mwy fel arweinwyr dros newid ym maes rheilffyrdd.

Efallai’r ffordd fwyaf amlwg y gallaf gyfrannu at y dasg ehangach honno o wneud i faes rheilffyrdd edrych fel y byd y tu allan yw trwy’r gwaith rwy’n ei wneud yn awr yn y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd. Ymunais â’r tîm y llynedd ac rydym ni wrthi’n adeiladu cyfleuster arloesi rheilffyrdd £400m yn ne Cymru – rhywbeth a fydd yn gartref o’r radd flaenaf ar gyfer ymchwil, profi ac ardystio ym maes rheilffyrdd o 2025 ymlaen.

Yr hyn sy’n fy ysgogi yw sicrhau bod GCRE – sy’n gwmni newydd ym myd rheilffyrdd – nid yn unig yn llwyddiannus yn ariannol, ond yn tyfu mewn ffordd sy’n cynrychioli’r gorau oll o’r hyn y gall ac y dylai’r diwydiant rheilffyrdd fod yn y dyfodol. Rwyf eisiau i bobl ddweud bod GCRE yn edrych, yn teimlo ac yn gweithredu mewn ffordd fodern ac amrywiol, sy’n gynrychioliadol o’r wlad fodern ac amrywiol rydym yn rhan ohoni.

Felly, yn fuan ar ôl i mi ymuno, roeddwn yn falch iawn bod GCRE wedi gallu gweithio gyda Chymdeithas y Diwydiant Rheilffyrdd i lofnodi’r Siarter Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a dod yn un o fwy na 200 o sefydliadau sydd wedi ymrwymo i’r addewid honno i wneud newid cadarnhaol yn eu sefydliadau.

I mi, y man cychwyn i gyflawni ymrwymiadau’r Siarter Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yw sicrhau bod ethos a diwylliant GCRE yn ffafriol i gefnogi menywod yn eu gyrfaoedd.

Mae hynny’n arbennig o bwysig yn achos GCRE oherwydd bod ein safle wedi’i leoli ym mhen uchaf Cwm Tawe, sy’n ardal drawiadol yn weledol, ond yn rhan o feysydd glo de Cymru sydd wedi profi cyfnodau economaidd eithriadol o heriol yn ystod y deugain mlynedd diwethaf. Mae’r anghydraddoldeb o ran rhywedd sy’n wynebu llawer o fenywod a merched sy’n byw ger y safle yn cael ei waethygu gan rwystrau tlodi ac anghydraddoldeb incwm sydd hefyd yn effeithio ar eu bywydau a’u cyfleoedd mewn bywyd.

Felly, os yw GCRE am fod yn rym cadarnhaol wrth fynd i’r afael â’r rhwystrau hynny, mae’n rhaid i ni deilwra’r cyfleoedd y gallwn eu cynnig yn lleol i’r heriau arbennig sy’n wynebu’r menywod a’r merched hynny a sicrhau bod llwybrau tuag at gyflogaeth ar gael mewn ffordd hyblyg a hygyrch – sy’n gweddu i’r amgylchiadau maen nhw’n eu hwynebu yn eu bywydau.

Dyna pam mae thema tegwch Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni mor bwysig ac mor amserol.

Mae’n taflu goleuni ar ba mor bell rydym wedi dod yn y chwarter canrif, bron, yr wyf wedi’i dreulio ym maes rheilffyrdd, ond mae hefyd yn dangos pa mor bell sydd i’w deithio o hyd.

Drwy gofrestru ar gyfer y cylchlythyr rydych yn cytuno i'n telerau ac amodau