Trio of New Appointments for GCRE
Mae’r Ganolfan Fyd-Eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd (GCRE) wedi cyhoeddi penodi Gail Hawthorne a Simon Blanchflower CBE yn Gyfarwyddwyr Anweithredol newydd, ynghyd â Rob Thompson yn Gyfarwyddwr Gweithredu.
A htihau’n gyfreithiwr masnachol a bargyfreithiwr, mae Gail Hawthorne yn arbenigo mewn cynghori sefydliadau byd-eang yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector sy’n gweithredu mewn diwydiannau hynod reoleiddiedig ar gydymffurfio a lliniaru risg. Mae hyn yn cynnwys profiad o weithio yn y Bar ac mewn practis preifat fel ymgyfreithiwr masnachol ac fel Cwnsler Cyfreithiol Grŵp dros dro i Scottish Water. Mae hefyd yn gyn eiriolwr panel i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Mae Simon Blanchflower CBE yn Gymrawd Sefydliad y Peirianwyr Sifil, gan ymddeol o’i rôl fel Prif Swyddog Gweithredol East West Railway Company ym mis Mawrth 2022, ar ôl sefydlu’r cwmni yn llwyddiannus, a sicrhau cyllid ar gyfer cam cyntaf y prosiect a fydd yn cysylltu Rhydychen a Milton Keynes. Mae wedi cael gyrfa hir yn arwain ar ddatblygu a chyflawni prosiectau seilwaith rheilffyrdd mawr, gan gynnwys bod yn Gyfarwyddwr Rhaglenni Mawr Thameslink Programme. Ef hefyd yw Dirprwy Gadeirydd London Legacy Development Corporation, yn gyfrifol am sicrhau’r gwaddol o Gemau Olympaidd Llundain 2012.
Mae GCRE wedi cadarnhau hefyd bod Rob Thompson wedi ymuno’n ffurfiol â GCRE yn Gyfarwyddwr Gweithredu o’i rôl flaenorol fel Cyfarwyddwr Gweithrediadau i Celtic Energy, y perchnogion tir blaenorol. Mae Will Watson, Prif Weithredwr Celtic Energy hefyd wedi camu i lawr o’i rôl fel Cyfarwyddwr Anweithredol GCRE.
Dywedodd Dr Debra Williams, Cadeirydd GCRE: “Dan arweiniad Simon Jones fel Prif Weithredwr, rydyn ni’n adeiladu’r tîm a fydd yn cyflenwi’r brif ganolfan yn Ewrop o ran ymchwil, profion a dilysu, gan ddarparu gwasanaethau cyflawn ac o’r radd flaenaf ar gyfer y diwydiant rheilffyrdd cyfan.
“Gan fod y broses i gaffael tir yn ffurfiol gan Celtic Energy bellach yn gyflawn, rydyn ni’n paratoi ar gyfer dechrau’r gwaith adeiladu gyda’r nod i drefnu bod ein cyfleuster storio cerbydau rheilffyrdd masnachol ar gael i’r farchnad o fewn y 12 mis nesaf. Rydyn ni’n ddiolchgar i Will am ei gyfraniad i’r Bwrdd sy’n ein galluogi i weithio mewn cydweithrediad agos â Celtic Energy fel y perchennog tir blaenorol dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn awr at groesawu Rob i dîm GCRE wrth i ni dyfu yn barod i gyflawni ein gweledigaeth i fod yn ‘siop un stop’ ar gyfer arloesedd rheilffyrdd. Rydym wrth ein bodd yn cryfhau ein Bwrdd yn sgil penodi Gail a Simon, sydd ill dau yn dod â phrofiad helaeth mewn cyflawni prosiectau seilwaith pwysig.”