‘Cyfle i ddychmygu rheilffordd yfory’

– GCRE yn agor ei drysau i dimau arloesi rheilffyrdd

Cynigiodd y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd gipolwg o’r dyfodol yr wythnos hon wrth iddi groesawu timau arloesi rheilffyrdd o bob rhan o’r Deyrnas Unedig yn ei safle yn ne Cymru.

Cynhaliodd GCRE Ddiwrnod Agored ar gyfer timau sy’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth ‘Arloesi mewn Adeiladu Rheilffyrdd’, a ariennir gan Adran Busnes a Masnach Llywodraeth y Deyrnas Unedig trwy Innovate UK.

Ym mis Hydref y llynedd, gwahoddwyd sefydliadau’r Deyrnas Unedig i wneud cais am gyfran o hyd at £575,000 ar gyfer astudiaethau dichonoldeb yn rhan o’r gystadleuaeth.

Mae’r cyllid cam cyntaf yn caniatáu i astudiaeth gael ei datblygu mewn partneriaeth â’r timau adeiladu yn GCRE i ddarparu, o bosibl, yr arloesiadau yn y cyfleuster £400m newydd sy’n cael ei adeiladu yn ne Cymru. Llwyddodd 24 o brosiectau yn y rownd gyntaf, a oedd yn cynnwys dros 50 o sefydliadau.

Ddydd Llun, aeth y timau y tu ôl i’r prosiectau i dde Cymru i weld y safle lle y gallai eu harloesiadau gael eu datblygu am y tro cyntaf, gan fynd ar daith o amgylch y cyfleuster 700 o hectarau ym mhen uchaf cymoedd Dulais a Thawe.

Mae’r prosiectau’n amrywio o ddatblygu technoleg trawstiau concrit arloesol i rwystrau acwstig carbon isel newydd.

Dywedodd Kelvin Davies, Pennaeth Arloesedd yn y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd, said:

“Roedd yn wych gwahodd y timau a lwyddodd yn rownd gyntaf y gystadleuaeth Arloesi mewn Adeiladu Rheilffyrdd i safle’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd a dangos iddynt y cyfleuster o’r radd flaenaf rydym yn ei adeiladu.

“Mae’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd yn fan lle y bydd yr arloesiadau rheilffyrdd mwyaf creadigol ac arloesol yn cael eu profi a’u datblygu – man lle mae gwaith ymchwil a datblygu rhagorol a chreadigol yn cael ei gynnal. Felly, mae’n naturiol i GCRE fod yn gartref i’r gystadleuaeth wych hon gan yr Adran Busnes a Masnach – cyfle go iawn i ddychmygu rheilffordd yfory.

“Heddiw, rydyn ni wedi caniatáu i’r timau weld safle GCRE am y tro cyntaf, lle y gallai eu harloesiadau gael eu datblygu a’u defnyddio, ac rwy’n credu eu bod nhw i gyd wedi elwa’n fawr o weld y dirwedd yn agos a lle y byddant yn gweithio.

“Mae’r prosiectau cam cyntaf hyn yn cael eu datblygu fel astudiaethau dichonoldeb, gyda chyfle ar gyfer cyllid ychwanegol i ddatblygu’r syniadau gorau i’r lefel nesaf. Mae hwn yn gyfle unigryw ac mae pawb yn GCRE yn edrych ymlaen at weithio gyda’r prosiectau wrth iddynt symud ymlaen.”

Mae’r cyllid a ddarperir trwy Innovate UK yn cynrychioli cam 1 cystadleuaeth 2 gam posibl, gyda nifer o brosiectau llwyddiannus yn symud ymlaen yn 2024 i ddatblygu eu syniadau’n llawn a chyflwyno arddangosiad ar safle GCRE.

Pan fydd yn agor, bydd GCRE yn gyfleuster sy’n darparu gwaith ymchwil, profi ac ardystio cerbydau rheilffyrdd, seilwaith a thechnolegau newydd arloesol o’r radd flaenaf a fydd yn llenwi bwlch strategol nid yn unig ym maes rheilffyrdd y Deyrnas Unedig, ond ledled Ewrop.

Ychwanegodd Kelvin Davies:

“Yr hyn sydd wedi bod yn fwyaf calonogol am y diwrnod agored a gynhaliwyd gennym oedd gweld yr ystod eang o syniadau ac arloesiadau sy’n cael eu datblygu a’r brwdfrydedd sy’n ysgogi’r timau y tu ôl iddynt.

“Rhan o’r hyn sy’n gwneud y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd yn syniad mor unigryw yw ei bod yn rhoi lle a chyfleusterau o’r radd flaenaf i arloeswyr a thimau ymchwil i ddatblygu, mireinio ac addasu eu cysyniadau. Rhywbeth efallai na fyddent wedi gallu ei wneud yn unman arall.

“Roedd heddiw wedi atgyfnerthu rôl GCRE wrth ffurfio dyfodol y rheilffyrdd – gan helpu i gefnogi’r syniadau a’r technolegau newydd a all helpu i ddatgarboneiddio ein rheilffordd, annog newid dulliau teithio a helpu i ddatblygu seilwaith rheilffyrdd mwy fforddiadwy a chost-effeithiol.”

-Diwedd-

Drwy gofrestru ar gyfer y cylchlythyr rydych yn cytuno i'n telerau ac amodau