'Archwaeth Farchnad Clir' ar gyfer Partneriaeth Canolfan Ynni a Data ar safle GCRE

Mae'r Ganolfan Ragoriaeth Rheilffyrdd Byd-eang (GCRE) wedi dweud bod sawl sefydliad blaenllaw wedi cyflwyno Datganiadau o Ddiddordeb ffurfiol mewn datblygu asedau canolfan ynni a data ar ei safle 700 hectar yn Ne Cymru.

Dros yr ychydig fisoedd diwethaf mae GCRE wedi bod yn chwilio am bartner i ddatblygu Ffynonellau Ynni Adnewyddadwy (RES) a Chanolfan Ddata (DC) ar y safle, hen fwynglawdd brig sy'n cyfateb i faint Gibraltar.

Y cynllun yw i'r partner ddatblygu'r asedau ochr yn ochr â'r prosiect rheilffordd.

Dywedodd Prif Weithredwr GCRE, Simon Jones, fod awydd clir yn y farchnad gan gynigwyr posibl yn dilyn diwedd cam cyntaf y broses ddethol. Bydd ail gam o ddeialog yn digwydd nawr gyda chynigwyr i ddatblygu eu cynigion ymhellach.

Mae GCRE yn gyfleuster newydd, pwrpasol sy'n cael ei ddatblygu yn Ne-orllewin Cymru ar gyfer ymchwil, profi a datblygu technoleg rheilffyrdd rhyngwladol sero net. Mae gan safle GCRE y potensial i ddod yn glwstwr blaenllaw Ewrop ar gyfer arloesi rheilffyrdd a symudedd cynaliadwy.

Dim ond 30km o Ben-y-bont ar Ogwr a 50km o Gaerdydd mae'r safle lle mae clystyrau Canolfannau Data eisoes yn ffurfio fel rhan o Barth Twf Deallusrwydd Artiffisial y Llywodraeth.

Dywedodd Prif Weithredwr GCRE Cyf, Simon Jones: 

“Yn dilyn diwedd cam cyntaf ein cystadleuaeth, gallwn weld awydd clir yn y farchnad gan bartneriaid yn ein safle fel lleoliad ar gyfer seilwaith ynni a chanolfannau data o ansawdd uchel.

“Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn galonogol iawn a byddwn nawr yn parhau â’r ddeialog gyda’r gwahanol gynigwyr i ddatblygu potensial eu syniadau ymhellach.

“Mae’r cyfle am bartneriaeth datblygu hirdymor gyda GCRE yn un unigryw. Mae maint, grid pŵer a chysylltedd telathrebu safle GCRE yn ei gwneud yn ddeniadol iawn ar gyfer datblygu asedau ynni adnewyddadwy a chanolfan ddata. Mae llinellau pŵer 132kV a 400kV yn croesi safle GCRE, gyda chysylltedd ffibr o ansawdd uchel yn cael ei ddatblygu ar gyfer yr ardal – rhywbeth y mae buddsoddwyr yn amlwg â diddordeb ynddo.

“Bydd seilwaith ynni a chanolfan ddata ar y safle yn helpu i ategu datblygiad ehangach GCRE ac mae’n rhywbeth sy’n sail i’n chwiliad am fuddsoddiad ar gyfer y prosiect rheilffordd.”

“Rydym wedi gweld yn ddiweddar y ffyrdd pwysig y mae tirwedd polisi ynni a deallusrwydd artiffisial yn datblygu’n gyflym. Mae’r DU yn ceisio manteisio ar gyfleoedd y newid i sero net a deallusrwydd artiffisial drwy ddatblygu’r seilwaith sydd ei angen i’w gefnogi. Mae Cymru ar flaen y gad o ran y newid hwnnw – yn ddiweddar iawn, dynodwyd De Cymru yn Barth Twf deallusrwydd artiffisial newydd gan Lywodraeth y DU.

“Mae GCRE a’r seilwaith ynni a data modern y gallwn ei adeiladu ar y safle yn amlwg yn un o’r cyfleoedd hynny ac mae’n rhywbeth y credwn y gallwn ei ddefnyddio fel platfform ar gyfer y swyddi gwyrdd newydd y gallwn eu creu o amgylch y clwstwr rheilffyrdd.”

Mae cystadleuaeth EDCP yn cael ei datblygu ochr yn ochr â chwiliad ar wahân GCRE am fuddsoddiad ar gyfer y rheilffordd.

Bydd GCRE yn darparu diweddariadau pellach ar gynnydd y gystadleuaeth yn ddiweddarach yn 2026.

Drwy gofrestru ar gyfer y cylchlythyr rydych yn cytuno i'n telerau ac amodau