GCRE a Talgo yn Bwriadu Ffurfio Partneriaeth Tymor Hir ar Safle yn Ne Cymru

GCRE yn derbyn cerbyd Talgo ar y safle

Derbyniodd y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd (GCRE) ei cherbyd rheilffordd cyntaf ar y safle y mis hwn – cam cyntaf partneriaeth newydd bwysig rhwng y cyfleuster arloesedd a’r gweithgynhyrchwr trenau byd-eang, Talgo.

Rhoddwyd y cerbyd gan Talgo a bydd yn aros ar y safle yn ne Cymru i’w ddatblygu’n ganolfan ymwelwyr tra bod cyfleuster GCRE gwerth £400m yn cael ei adeiladu yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Mae’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd yn ganolfan arloesedd newydd fawr ym maes rheilffyrdd y disgwylir iddi gael ei chwblhau yn 2025. Bydd yn gartref i waith ymchwil, profi ac ardystio cerbydau rheilffyrdd, seilwaith a thechnolegau rheilffyrdd newydd o’r radd flaenaf ar gyfer y diwydiant rheilffyrdd yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.

Wrth i’r cerbyd gyrraedd safle Onllwyn, dywedodd y Prif Weithredwr, Simon Jones, ei fod yn gobeithio bod hyn yn ddechrau partneriaeth tymor hir gyda’r gweithgynhyrchwr cerbydau rheilffyrdd.

GCRE fydd rheilffordd sero net gyntaf y Deyrnas Unedig. Bydd y cyfleuster yn cynnwys dwy ddolen brofi 25KV wedi’u trydaneiddio, un yn drac cerbydau rheilffyrdd cyflymder uchel 6.9km a’r llall yn drac profi seilwaith 4km ~60km/h.

Dywedodd Simon Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd:

“Roedd yn wych derbyn cerbyd Talgo a’i arddangos ar ein safle. Dyma’r cerbyd rheilffordd cyntaf i’w ddanfon i gyfleuster y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd a gobeithiwn ei ddefnyddio fel canolfan ymwelwyr tra byddwn yn adeiladu ein cyfleuster newydd.

“Yn bwysicach, efallai, rydym eisiau i hyn fod yn ddechrau perthynas tymor hwy rhwng y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd a Talgo.

“Mae’r gwasanaethau byddwn yn eu darparu ar y safle – gwaith ymchwil, profi ac ardystio cerbydau rheilffyrdd, seilwaith a thechnolegau rheilffyrdd newydd arloesol o’r radd flaenaf – yn rhai rydym yn gwybod y gallant fod o fudd i weithgynhyrchwyr rhyngwladol o ansawdd uchel fel Talgo.

“Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu partneriaeth rhwng GCRE a Talgo. Mae Talgo wedi cefnogi GCRE drwy gydol ein cam datblygu. Trwy hwyluso eu gofynion profi ac arloesedd rheilffyrdd, gallwn gefnogi’r technolegau sero net, arloesol y mae angen iddynt fod yn sail i rwydwaith rheilffyrdd datgarboneiddiedig yfory.

“Gobeithiwn y bydd hyn yn ddechrau cydweithrediad cynhyrchiol a chreadigol rhwng GCRE a Talgo, er budd y ddau gwmni.”

Dywedodd Jonathan Veitch o Talgo UK:

“Ac yntau’n arloeswr cerbydau rheilffyrdd, mae Talgo yn falch o fod y cerbyd rheilffordd cyntaf i gyrraedd cyfleusterau ymchwil, profi ac ardystio o’r radd flaenaf GCRE. “Rydym yn llwyr rannu gweledigaeth GCRE a gobeithiwn mai hwn fydd cam cyntaf cydweithrediad llwyddiannus rhwng y ddau barti i ddod ag arloesedd a chynigion profi effeithlon i farchnad y mae gan Talgo ddiddordeb gwirioneddol ynddi. Rydym yn awyddus i ddangos galluoedd ein technoleg i ddatgarboneiddio a gwella trafnidiaeth reilffyrdd yn y Deyrnas Unedig.”

Drwy gofrestru ar gyfer y cylchlythyr rydych yn cytuno i'n telerau ac amodau