GCRE yn arwyddo Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gydag Awdurdod Trafnidiaeth Tir Singapore

Mae Awdurdod Trafnidiaeth Tir Singapôr wedi llofnodi Memorandwm Dealltwriaeth gyda’r Ganolfan Fyd-Eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd (GCRE).

Mae gan Awdurdod Trafnidiaeth Tir Singapôr gyfrifoldeb am gynllunio, dylunio, adeiladu a chynnal seilwaith a systemau trafnidiaeth tir Singapôr. Mae hyn yn cynnwys y Ganolfan Profi Trenau Integredig (ITTC) newydd y disgwylir iddi fod yn weithredol yn 2023.

Arwyddwyd y Memorandwm Dealltwriaeth yn Singapôr ac mae’n cynnwys cyfnewid gwybodaeth a phersonél mewn cysylltiad â dylunio ac arloesedd peirianneg, cynllunio masnachol, prosesau caffael ac arfer gorau gweithredol. Bydd y ddau sefydliad yn gweithio gyda’i gilydd ar bynciau yn gysylltiedig â rheoli asedau, gweithredu a chynnal.

Dywedodd Mr Chua Chong Kheng o Awdurdod Trafnidiaeth Tir Singapôr: “Mae’r ITTC yn ganolog i’n hymdrechion i adnewyddu, uwchraddio ac ehangu ein rhwydwaith rheilffyrdd. Bydd y bartneriaeth hon â GCRE yn helpu datblygu a thyfu galluoedd ar y ddwy ochr mewn gweithredu cyfleusterau profi o’r fath. “

Dywedodd Simon Jones, Prif Weithredwr GCRE: “Mae’n bleser i ni allu cydweithio â’n ffrindiau yn Singapôr, a dysgu oddi wrthyn nhw wrth i ni lofnodi’r Memorandwm Dealltwriaeth pwysig hwn. Mae’r Ganolfan Fyd-Eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd yn un o’r prosiectau seilwaith pwysicaf a mwyaf creadigol yn y diwydiant heddiw, ac rydym ni’n falch iawn o weithio gyda phartneriaid rhyngwladol wrth i ni ddatblygu.

“Dydy hyn ddim yn drefniant unigryw, ond byddwn ni’n gweithio gyda’n gilydd yn ddidwyll i adolygu, trafod a chymharu ein hymagwedd er mwyn i ni allu rhannu arbenigedd technegol a gwybodaeth am ymchwil a datblygu. Bydd cydweithio fel hyn yn ein helpu i ddatblygu’r ganolfan rhagoriaeth fyd-eang orau un y bydd y diwydiant cyfan yn elwa arni yn y pen draw.”

Drwy gofrestru ar gyfer y cylchlythyr rydych yn cytuno i'n telerau ac amodau