Mae GCRE yn targedu marchnadoedd rhyngwladol wrth i Xrail gytuno ar bartneriaeth strategol

Mae'r Ganolfan Rhagoriaeth Rheilffyrdd Byd-eang (GCRE) wedi cytuno ar bartneriaeth ryngwladol newydd gyda'r cwmni peirianneg ac ymgynghori blaenllaw Xrail.

Bydd y memorandwm cyd-ddealltwriaeth a lofnodwyd rhwng y ddau gwmni yn gweld Xrail yn darparu cyngor strategol a gwybodaeth am weithredu mewn marchnadoedd tramor i wella potensial allforio GCRE.

Bydd y Ganolfan Rhagoriaeth Rheilffyrdd Byd-eang yn safle ar gyfer ymchwil rheilffyrdd o'r radd flaenaf, profi ac arddangos cerbydau, seilwaith a thechnolegau newydd blaengar. Mae Xrail yn cynnig atebion a gwasanaethau peirianneg o'r dechrau i'r diwedd i farchnad fyd-eang, o ymgynghori arbenigol i ddarparu prosiectau un contractwr.

Fel safle 700-hectar ar gyfer arloesi ansawdd rhyngwladol, bydd y Ganolfan Rhagoriaeth Rheilffyrdd Byd-eang yn gallu cefnogi llywodraethau, gweithgynhyrchwyr a gweithredwyr seilwaith ledled Ewrop a'r dwyrain canol gyda datblygu cynnyrch a thechnoleg; integreiddio systemau a thrawsnewid sero net.

Gyda'i arbenigedd a'i wybodaeth am farchnadoedd tramor, bydd Xrail yn darparu cyngor a chefnogaeth strategol i'r tîm GCRE.

Fe wnaeth y ddau gwmni arwyddo eu partneriaeth ryngwladol newydd yn Rail Live ym Madrid yr wythnos hon.

"Mae gan Xrail enw da byd-eang am ragoriaeth mewn peirianneg ac am dorri i mewn i farchnadoedd tramor newydd. Bydd eu gwybodaeth am Ewrop ac, yn arbennig, y dwyrain canol yn rhoi cyfle unigryw i ni fynd â'r gwasanaeth GCRE i wledydd ledled y byd, gyda manteision pwysig i bawb sy'n gysylltiedig. "

Simon Jones – Prif Weithredwr, GCRE Cyf

Mae'r timau TAG ac Xrail yn llofnodi'r bartneriaeth yn Rail Live ym Madrid. O'r chwith i'r dde – Rami AlZahrani – Rheolwr Cyffredinol y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica, Xrail; Kelly Meachin – Cyfarwyddwr Datblygu Busnes, Xrail; Yr Arglwydd Patrick McLoughlin Aelod o'r Bwrdd Gweithredol Xrail; Kelly Warburton – Prif Swyddog Masnachol, GCRE Ltd; Munir Patel – Prif Swyddog Gweithredol, Xrail; Simon Fletcher – Llysgennad Brand Ewrop, GCRE Ltd; Andy Doherty – Prif Swyddog Technoleg, GCRE Ltd; Noel Travers – Rheolwr Gyfarwyddwr, Xrail

Dywedodd Simon Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Rhagoriaeth Rheilffyrdd Byd-eang:

"Rwy'n falch iawn o gytuno ar y bartneriaeth strategol hon gyda Xrail o ystyried y blynyddoedd lawer o brofiad a'r wybodaeth fanwl y maent wedi'i meithrin o weithio'n llwyddiannus mewn marchnadoedd rhyngwladol ac allforio i wledydd ledled y byd.

"Fel safle ar gyfer ymchwil, profi ac arloesi rheilffyrdd o ansawdd uchel, credwn y gall GCRE fod o fudd enfawr i genhedloedd a chwmnïau ledled y byd wrth ddatblygu technolegau newydd a rheoli prosiectau mawr trwy'r profion integreiddio y byddwn yn eu cynnig.

"Mae gan Xrail enw da byd-eang am ragoriaeth mewn peirianneg ac am dorri i mewn i farchnadoedd tramor newydd. Bydd eu gwybodaeth am Ewrop ac, yn arbennig, y dwyrain canol yn rhoi cyfle unigryw i ni fynd â'r gwasanaeth GCRE i wledydd ledled y byd, gyda manteision pwysig i bawb sy'n gysylltiedig.

"Gyda pharc technoleg o'r radd flaenaf wedi'i gynllunio ar gyfer safle GCRE, bydd gan lawer o'r cwmnïau sy'n profi yn ein cyfleuster gynhyrchion ac arloesiadau newydd gyda photensial allforio. Bydd Xrail yn gallu ein helpu i harneisio'r cyfleoedd hynny mewn partneriaeth â'n cwsmeriaid.

"Wrth i genhedloedd ledled y byd bontio i sero net ac edrych i ddatblygu rhwydweithiau rheilffyrdd cryfach a mwy cost-effeithiol, mae GCRE yn cynnig llwyfan ar gyfer cydweithredu rhyngwladol ar sut i gyflawni'n fwy effeithiol i gwsmeriaid. Bydd Xrail yn bartner strategol hanfodol yn y gwaith hwnnw."

Dywedodd Prif Weithredwr Xrail Munir Patel:

"Rydym wedi bod yn gefnogwyr mawr i'r Ganolfan Rhagoriaeth Rheilffyrdd Byd-eang ers amser maith bellach ac mae'n wych i ffurfioli ein gwaith gyda'n gilydd drwy'r bartneriaeth hon.

"Bydd GCRE yn ychwanegu gwerth unigryw i'r diwydiant rheilffyrdd nid yn unig yn y DU, ond yn rhyngwladol. Ni fydd gan unman yn Ewrop na'r dwyrain canol yr isadeiledd arloesi o ansawdd uchel y bydd y Ganolfan Rhagoriaeth Rheilffyrdd Byd-eang yn ei gynnig a chyda'n cefnogaeth rydym am ennyn y cyfle hwnnw i farchnadoedd yn rhyngwladol, gan gefnogi twf GCRE.

"Mae galw masnachol sylweddol am yr hyn y mae GCRE yn ei gynnig. Mae ganddo'r potensial i dorri i mewn i farchnadoedd byd-eang newydd a chefnogi twf allforio ar y rheilffyrdd. Rydym yn gyffrous am y bartneriaeth ryngwladol newydd hon a'r gwaith y byddwn yn ei wneud gyda'n gilydd dros y blynyddoedd i ddod."

Drwy gofrestru ar gyfer y cylchlythyr rydych yn cytuno i'n telerau ac amodau