Canolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd yn Lansio Cyfle Buddsoddi Preifat Mawr
Mae'r Ganolfan Ragoriaeth Rheilffyrdd Fyd-eang (GCRE) wedi cyhoeddi ei bod yn gwahodd buddsoddwyr o bob cwr o'r byd i gymryd cyfran ecwiti yn ei fusnes a chefnogi cam nesaf datblygiad y prosiect.
Gyda hwb ariannol cyhoeddus gychwynnol eisoes ar waith gan Lywodraeth Cymru a'r DU, mae disgwyl i'r prosiect ddechrau ar y gwaith adeiladu yn gynnar yn 2023 a bydd yn gweithredu'n llawn yn 2025.
Mae’r prosiect bellach yn cymryd y cam nesaf yn ei ddatblygiad gyda GCRE Ltd, sy’n cael ei berchnogi’n gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd, sy’n chwilio am bartner cyd-fentro ("Buddsoddwr Strategol") i ddatblygu ac ariannu GCRE hyd nes bydd yn cael ei gwblhau.
Bydd gan y Buddsoddwr Strategol rôl arweiniol mewn gweithredu’r prosiect yn llwyddiannus ac yn amserol, ynghyd â masnacholi’r GCRE ymhellach. Gallai’r Buddsoddwr Strategol fod yn un buddsoddwr neu’n gonsortiwm o fuddsoddwyr, a fydd yn caffael cyfranddaliad mwyafrifol yn GCRE Ltd, a rheolaeth ohoni.
Mae proses gaffael ffurfiol wedi dechrau yn sgil cyhoeddi Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw (PIN).
Dywedodd Prif Weithredwr GCRE, Simon Jones:
“Mae’r Ganolfan Fyd-Eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd yn un o’r prosiectau seilwaith rheilffyrdd pwysicaf a mwyaf creadigol ym maes rheilffyrdd heddiw. Fel safle integredig, a adeiladwyd yn bwrpasol ar gyfer profion, ymchwil a datblygu o’r radd flaenaf o ran cerbydau rheilffyrdd, seilwaith a thechnolegau rheilffordd newydd, bydd yn ychwanegiad hanfodol at dirwedd y diwydiant rheilffyrdd, nid yn unig yn y DU, ond ledled Ewrop.
“Ein bwriad erioed fu gweithio â phartneriaid yn y sector preifat i geisio eu buddsoddiad, ac yn bwysig, eu gwybodaeth a’u sgiliau mewn meysydd allweddol fel rheilffyrdd ac ynni i wireddu gweledigaeth gyffrous GCRE fel partneriaid strategol. Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fel ei gilydd yn cydnabod bod angen cefnogaeth y sector preifat i adeiladu a sefydlu GCRE fel menter fasnachol.
“Yn sgil lansio proses gaffael yr wythnos hon, rydyn ni eisiau annog partneriaid o bob cwr o’r byd i edrych ar ein prosiect a chydnabod y cyfle buddsoddi cryf mae’n ei gynrychioli.
Mae prosiect GCRE yn cynnwys adeiladu rheilffordd £250m. Mae camau pellach buddsoddi posibl yn cynnwys datblygu potensial masnachol ehangach y safle 700 hectar – gan gynnwys creu parc busnes a thechnoleg a gwesty newydd. Cyfanswm y buddsoddiad ar gyfer y datblygiad, gan gynnwys datblygiadau eiddo cychwynnol a’r cyflenwad pŵer tyniant, yw £400m.