‘Ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf’ – Partneriaeth GCRE i ddod â pheirianneg i ysgolion cynradd lleol 

Mae’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd (GCRE) wedi cyhoeddi partneriaeth gyda’r sefydliad nid-er-elw Primary Engineer i ddod â pheirianneg i ystafelloedd dosbarth ysgolion cynradd lleol.

Mae GCRE yn gweithio gyda’r partner i ddatblygu prosiect peirianneg reilffyrdd, sy’n gysylltiedig â’r Cwricwlwm i Gymru, a fydd yn cael ei gyflwyno mewn 14 o ysgolion cynradd lleol ger y safle.

Sefydliad addysgol, nid-er-elw yw Primary Engineer sy’n darparu ystod o raglenni a chystadlaethau i ennyn diddordeb plant mewn peirianneg ar yr un pryd â gweithio tuag at fynd i’r afael â’r anghydbwysedd rhywedd ac amrywiaeth yn y diwydiant.

Mae’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd yn ganolfan ymchwil, profi ac arloesi rheilffyrdd newydd sy’n cael ei hadeiladu ar hen safle mwyngloddio Nant Helen ym mhen uchaf Cymoedd Dulais a Thawe.

Mae’r rhaglen a ariennir yn llawn yn darparu hyfforddiant i athrawon ysgolion cynradd fel y gallant, gyda chymorth gweithwyr peirianneg proffesiynol sy’n cael eu paru â’r ysgolion, gyflwyno prosiect peirianneg wedi’i deilwra ac annog pobl ifanc i ymddiddori mewn pynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg).

Mae’r fenter yn cael ei hariannu gan GCRE, sy’n cael ei chefnogi gan yr Adran Busnes a Masnach yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Simon Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd:

“Rydym yn falch iawn o lansio’r bartneriaeth gyffrous hon rhwng Primary Engineer a’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd yn ffurfiol ac amlinellu’r gwaith y byddwn yn ei wneud gydag ysgolion cynradd lleol yn yr ardal. 

“Rydym eisiau i’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd gael effaith gadarnhaol yn y gymuned leol ac rydym yn credu’n gryf iawn yn ein cyfrifoldeb i roi cyfle i bobl ifanc sy’n byw yn agos i’n safle greu dyfodol a gyrfa yn ein cyfleuster.

“Mae hynny’n golygu gweithio gydag ysgolion a disgyblion o’r oedran ieuengaf, gan eu hannog i ymddiddori mewn pynciau STEM ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf ynglŷn â pheirianneg a GCRE. Gobeithiwn y bydd y prosiect hwn gyda Primary Engineer yn gwneud yr union beth hynny.”

Dywedodd Kirsty Williams, Cadeirydd Pwyllgor Cymunedol GCRE:

“Mae estyn allan i’r gymuned a gweithio gydag ysgolion cynradd lleol i ennyn diddordeb pobl ifanc mewn STEM a datblygu diddordeb mewn peirianneg yn rhan o uchelgais hirdymor GCRE i sicrhau bod y datblygiad yn cael effaith gadarnhaol ar yr ardaloedd o amgylch y safle.

“Mae GCRE yn cynnig cyfle economaidd ac adfywio pwysig i’r cymoedd gerllaw, a thrwy ffurfio partneriaethau hirdymor o’r math hwn gydag ysgolion y gallwn helpu’r genhedlaeth nesaf i gael mynediad at y swyddi a’r cyfleoedd o ansawdd uchel a gynigir gan y cyfleuster.

“Mae’r prosiect hwn, sy’n gysylltiedig â’r Cwricwlwm newydd i Gymru, yn ddechrau gwych i’r gwaith ymgysylltu hwnnw.”

Ychwanegodd Chris Rochester, Pennaeth Partneriaethau ar gyfer Primary Engineer:

“Bydd y bartneriaeth hon yn rhoi cyfle arbennig i ddod â Phrosiect Rheilffyrdd Primary Engineer i Gymru ac i ddisgyblion ysgolion cynradd lleol gael eu hysbrydoli gan yr arloesedd ym maes rheilffyrdd a fydd yn digwydd yn y cyfleuster hwn sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang.

“Trwy weithio gydag athrawon mewn ysgolion lleol, rydym yn darparu prosiect diddorol i ddisgyblion ddatblygu sgiliau dylunio, adeiladu a gwneud, yn ogystal â datblygu sgiliau canfod problemau, datrys problemau, creadigrwydd a gweithio mewn tîm, sy’n allweddol i beirianneg a’r sector rheilffyrdd.

“Rydym yn credu y dylai pob disgybl gael y cyfle i uniaethu â pheirianneg a gweld y sector rheilffyrdd a’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd fel gyrfa bosibl iddynt yn y dyfodol o’r oedran ieuengaf, a’r bartneriaeth hon yw’r cam cyntaf tuag at hyn.”

Mae’r disgyblion yn adeiladu modelau gweithio yn y dosbarth sy’n cael eu profi mewn Digwyddiadau Dathlu – casgliad mawr o’r holl ysgolion, a gynhelir gan Primary Engineer yn GCRE, sy’n hyrwyddo sgiliau peirianneg, creadigrwydd, a chyflawniadau’r disgyblion.

Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno yn ystod blwyddyn academaidd 2023/24 a bydd hyfforddiant athrawon yn dechrau ym mis Hydref.

Mae pedair ar ddeg o ysgolion lleol yn cael eu recriwtio ar hyn o bryd ac, os bydd yn llwyddiannus, bydd y cyfle’n cael ei gynnig i ysgolion cynradd eraill yn yr ardal yn y dyfodol.

Drwy gofrestru ar gyfer y cylchlythyr rydych yn cytuno i'n telerau ac amodau