Canolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd ‘unwaith mewn cenhedlaeth’ yn cymryd cam arall ymlaen
- GCRE Limited yn Cyhoeddi Tendr ar gyfer Buddsoddiad Preifat
Yr wythnos hon, cymerodd GCRE Limited y cam nesaf tuag at sicrhau buddsoddiad preifat yn y cwmni.
Mae’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd (GCRE) gwerth £400m yn ganolfan arloesedd rheilffyrdd bwrpasol sy’n cael ei hadeiladu yn ne Cymru a fydd yn darparu safle ar gyfer gwaith ymchwil, profi ac ardystio cerbydau rheilffyrdd, seilwaith a thechnolegau rheilffyrdd newydd arloesol o’r radd flaenaf.
Mae’r cyfleuster wedi cael ei gefnogi gan £50m gan Lywodraeth Cymru, £20m gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a £7.4m arall trwy Innovate UK.
Yr wythnos hon, cyhoeddodd y cwmni a berchnogir gan Lywodraeth Cymru Wahoddiad i Dendro (ITT) i sefydliadau rhag-gymwysedig yn rhan o’r broses fuddsoddi. Bydd y cynigydd llwyddiannus yn dal cyfran fwyafrifol yn GCRE Limited ac yn ariannu’r cyfleuster arloesedd hyd at ei gwblhau.
Bydd y cynigydd llwyddiannus hefyd yn gallu elwa o botensial masnachol ehangach y safle 700 hectar.
Lansiodd GCRE Limited y broses caffael cyhoeddus yn ffurfiol ym mis Ionawr, trwy gyhoeddi Hysbysiad o Gontract a Holiadur Dethol. Yn dilyn hyn, rhag-gymhwyswyd cynigyddion i’r cam nesaf.
Dywedodd Prif Weithredwr GCRE Limited, Simon Jones:
“Mae’r wythnos hon yn garreg filltir bwysig arall i GCRE Limited wrth i ni lansio ein Gwahoddiad i Dendro ar gyfer buddsoddi.
“Trwy ein proses gaffael yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym wedi gweld cryn ddiddordeb yng ngweledigaeth GCRE gan ddarpar fuddsoddwyr preifat. Mae enwau o ansawdd uchel o wahanol sectorau wedi cofrestru diddordeb yn GCRE Limited fel cwmni ac yn y cyfleuster trawsnewidiol rydym yn ei adeiladu.
“Rydym bellach wedi rhag-gymhwyso grŵp cryf o gynigyddion i rownd nesaf y broses ac wedi cyhoeddi’r ITT hwn i gynigyddion a fydd yn caniatáu i ni gychwyn deialog ffurfiol â nhw.
“Trwy adeiladu’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd, rydym yn helpu i ddatblygu cyfleuster unwaith mewn cenhedlaeth. Bu angen dybryd am safle pwrpasol a adeiladwyd i’r diben ar gyfer ymchwil, profi ac arloesedd o’r radd flaenaf ar reilffyrdd ers blynyddoedd maith, a bydd cyfleuster GCRE yn darparu’r darn allweddol o seilwaith i faes rheilffyrdd y mae arno ei angen.
“Dyna’r hyn y mae darpar fuddsoddwyr yn ei weld yn ein busnes ac yn y buddsoddiad hwn. Mae darparu cyfleuster fel GCRE yn cynnig cyfle masnachol pwysig i gefnogi nid yn unig y diwydiant rheilffyrdd a’i gadwyn gyflenwi arwyddocaol yn sgil y gwasanaethau a ddarparwn, ond hefyd trwy’r potensial arloesi ehangach sy’n bodoli yn ein safle.
“Mae ein cyfleuster 700 hectar yn cynnig cyfleoedd pwysig mewn meysydd fel ynni – o ran cynhyrchu, storio ac arloesi technolegau ynni adnewyddadwy – sydd â photensial masnachol arwyddocaol.
“Dyna’r hyn y mae darpar fuddsoddwyr yn ei weld yn y cyfle hwn i fuddsoddi, ac rwy’n gyffrous iawn ynglŷn â’r trafodaethau y byddwn yn parhau i’w cynnal gyda chynigyddion yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf.”
Disgwylir i’r broses caffael cyhoeddus barhau tan yr hydref 2023. Yn dilyn hyn, disgwylir i fuddsoddwr/buddsoddwyr preifat berchen ar gyfran fwyafrifol o GCRE.