‘Gwthio ffiniau arloesedd technoleg’ – GCRE a Frauscher Sensor Technology yn llofnodi partneriaeth arloesi bwysig yn y Deyrnas Unedig 

‘Gwthio ffiniau arloesedd technoleg’ – GCRE a Frauscher Sensor Technology yn llofnodi partneriaeth arloesi bwysig yn y Deyrnas Unedig 

Dydd Llun 20Tachwedd 2023

Mae’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd (GCRE) a Frauscher Sensor Technology wedi cytuno ar bartneriaeth arloesi newydd bwysig. 

Mae’r ddau gwmni wedi llofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth i weithio gyda’i gilydd ar brosiectau yng nghyfleuster GCRE sy’n cael ei ddatblygu yn Ne Cymru ar hyn o bryd. 

Mae Frauscher, sef cwmni technoleg Ewropeaidd sy’n tarddu o Awstria, yn cynnig datrysiadau a gwasanaethau wedi’u teilwra i farchnadoedd rheilffyrdd rhyngwladol ac mae’n arweinydd byd ym maes rhifyddion echelau a synwyryddion olwynion arloesol. 

Wrth wneud hynny, mae Frauscher yn ceisio darparu’r cymorth gorau posibl i integreiddwyr systemau a gweithredwyr rheilffyrdd drwy gydol cylch oes eu cynhyrchion a thu hwnt, gan sicrhau eu bod yn cael y wybodaeth y mae arnynt ei hangen. Gyda rhwydwaith byd-eang o leoliadau a phartneriaid, mae Frauscher yn gwarantu cadwyn gyflenwi gref a’r cymorth cwsmeriaid gorau ledled y byd. 

Bydd y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd yn safle ar gyfer ymchwil reilffyrdd, profi ac arddangos cerbydau rheilffyrdd, seilwaith a thechnolegau newydd arloesol. 

Bydd Frauscher yn defnyddio safle 700 o hectarau GCRE fel canolfan brofi a dilysu ar gyfer y datrysiadau a’r arloesiadau sy’n arwain y farchnad y bydd yn eu datblygu ar gyfer marchnadoedd Ewropeaidd a rhai rhyngwladol. 

Llofnododd Rheolwr Gyfarwyddwr Frauscher UK, Melanie Gangl, y memorandwm cyd-ddealltwriaeth yn ystod ymweliad diweddar â safle GCRE. 

Wrth lofnodi’r bartneriaeth, dywedodd Cyfarwyddwr Strategaeth a Sgiliau GCRE Limited, Rob Forde: 

“Mae Frauscher wedi datblygu enw da yn fyd-eang ym maes datblygu rheilffyrdd a thechnoleg am ansawdd uchel eu harloesiadau a’u datrysiadau i gwsmeriaid, felly mae’n wych cytuno ar y bartneriaeth hon gyda’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd. 

“Bydd GCRE yn darparu seilwaith o’r radd flaenaf i’r diwydiant rheilffyrdd ar gyfer ymchwil, profi ac ardystio a bydd yn cynnig sylfaen wych i weithio gyda Frauscher wrth iddynt ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd ar gyfer marchnadoedd Ewropeaidd a rhai rhyngwladol. 

“Mae’r cytundeb hwn yn helpu i ddangos, unwaith eto, y galw masnachol sylweddol sy’n bodoli am y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd a’r ystod o wasanaethau y byddwn yn eu darparu ar y safle. GCRE fydd prif safle Ewrop ar gyfer arloesedd rheilffyrdd ac mae’r cwmnïau sy’n datblygu partneriaethau â ni yn dangos pa mor gryf yw cynnig busnes GCRE.

“Mae Frauscher Sensor Technology yn adnabyddus yn y diwydiant drwyddo draw am eu hysbryd blaengar, eu brwdfrydedd ynglŷn ag arloesedd technolegol a’u syniadau eithriadol. Mae pawb yn nhîm GCRE yn gyffrous iawn i weithio gyda Frauscher a chyfrannu at wthio ffiniau arloesedd technoleg.”

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Frauscher UK, Melanie Gangl: 

“Mae bod yn rhan o’r ganolfan mawr ei bri hon ar gyfer arloesedd rheilffyrdd yn fy llenwi â brwdfrydedd mawr, gan ei bod yn cynnig llwyfan perffaith i ni lywio datblygiadau newydd ac arloesiadau sy’n torri tir newydd ym maes technoleg reilffyrdd. 

“Mae’r dyfodol yn llawn addewid ac rwy’n gyffrous i ddechrau ar daith gydweithredol gyda Frauscher a GCRE i wireddu’r weledigaeth hon."

Drwy gofrestru ar gyfer y cylchlythyr rydych yn cytuno i'n telerau ac amodau