'Lleihau, Ailddefnyddio, Ailgylchu' – Mae GCRE yn amlygu cyfleoedd economi gylchol wrth adeiladu cyfleuster arloesi newydd

Yr wythnos hon, amlygodd y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd (GCRE) ei hymagwedd economi gylchol tuag at adeiladu ei chyfleuster arloesedd rheilffyrdd o’r radd flaenaf yn Ne Cymru.

Mae’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd yn gyfleuster ymchwil, profi ac ardystio newydd ar gyfer cerbydau rheilffyrdd, seilwaith a thechnolegau rheilffyrdd newydd arloesol sy’n cael ei hadeiladu yn Ne Cymru. 

Dywedodd Prif Weithredwr GCRE Limited, Simon Jones, fod adeiladu’r cyfleuster newydd yn cynnig cyfleoedd sylweddol i ailddefnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu, ar draws ei safle 700 o hectarau.

Amlygodd GCRE ei hymrwymiad i’r ymagwedd economi gylchol trwy dderbyn y set ddiweddaraf o ddeunyddiau y gellir eu hailddefnyddio gan Network Rail – cyflenwadau rheilffyrdd a fydd yn cael eu hailddefnyddio wrth adeiladu ei chanolfan arloesedd rheilffyrdd newydd ym mhen uchaf cymoedd Dulais a Thawe.

Roedd y llwyth diweddaraf yn cynnwys trac a thrawstiau rheilffordd sy’n cael eu hamnewid gan Network Rail yn rhan o waith uwchraddio Twnnel Hafren. Yn lle cael gwared arnyn nhw, bydd dwy filltir o drac rheilffordd yn cael eu hailddefnyddio yng nghyfleuster GCRE ynghyd â 4,900 o drawstiau rheilffordd.

Dywedodd Prif Weithredwr GCRE Limited, Simon Jones:

“Mae angen i bob sefydliad chwarae rôl gadarnhaol wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ac mae rhan o hynny’n golygu meddwl yn fwy creadigol am sut gallwn ailddefnyddio ac ailgylchu deunyddiau’n gynaliadwy wrth ddatblygu seilwaith newydd.

“Yn GCRE, rydym wedi bod yn meddwl llawer am yr ymagwedd hon ac wedi datblygu partneriaeth gref â Network Rail i ailddefnyddio ac ailgylchu deunyddiau sy’n cael eu hamnewid ar y brif linell teithwyr, ond y gallant gael ail fywyd yn ein cyfleuster profi newydd.

“Y deunyddiau diweddaraf rydyn ni’n eu hailddefnyddio yw trac a thrawstiau rheilffordd o waith uwchraddio Twnnel Hafren ei hadnewyddu i’w defnyddio ar ein safle, ond dim ond y dechrau yw hyn. Gallwn ailddefnyddio ac ailgylchu llawer mwy o gynhyrchion a deunyddiau tebyg a’u cynnwys wrth adeiladu ein cyfleuster yn Ne Cymru.

“Yn wir, mae’n fuddiol iawn i ni wneud hyn. Ein diben yn GCRE yw creu safle ar gyfer profi ac ymchwil rheilffyrdd sy’n gynrychioliadol o’r brif linell reilffordd er mwyn i’n cleientiaid sy’n profi cynhyrchion a thechnolegau newydd allu gweld sut maen nhw’n ymateb, felly’r ffordd orau o wneud hynny yw trwy ailddefnyddio deunyddiau ac offer y byddech chi’n eu gweld ar y llinell honno.

“Yn bwysicach, rydyn ni’n dangos ein hymrwymiad i’r economi gylchol ac yn datblygu ein hymagwedd unigryw ein hunain at ddatblygu darn newydd o seilwaith mewn ffordd gynaliadwy.

“Ein safle ni fydd y rheilffordd Sero Net weithredol gyntaf yn y Deyrnas Unedig – sy’n defnyddio ynni a gynhyrchwyd mewn modd adnewyddadwy yn unig i bweru’r safle – ond mae’r ymagwedd hon at ailddefnyddio deunyddiau yn mynd â ni gam ymhellach.

“Mae’r ymagwedd hon yn cynnig cyfleoedd newydd i ni feddwl yn fwy arloesol am ddylunio ac adeiladu ein cyfleuster, ac rydyn ni’n gyffrous i weithio gyda phartneriaid eraill, ar draws rheilffyrdd, i weld beth arall y gallwn ni ei ailddefnyddio’n gynaliadwy ar ein safle.”

Dywedodd Nick Millington, Cyfarwyddwr Llwybr ar gyfer Cymru a’r Gororau yn Network Rail:

“Un o’n blaenoriaethau yw cefnogi datgarboneiddio ar draws Cymru a’r gororau a chredwn fod ein cyfrifoldeb yn mynd y tu hwnt i gynnal y rheilffordd. 

“Rydyn ni’n cymryd camau rhagweithiol i chwilio am bob cyfle i fod yn fwy ecogyfeillgar, felly roedd yn wych gallu gwneud yr union beth yna a chefnogi GCRE ar yr un pryd. 

“Mae’r deunyddiau rydyn ni wedi’u rhoi wedi helpu miliynau o deithwyr i gyrraedd pen eu taith ac mae’n wych y byddant yn cael eu hailddefnyddio a’u hailgylchu mewn ffordd mor gadarnhaol a fydd yn parhau i fod o fudd i’r diwydiant rheilffyrdd.”

Drwy gofrestru ar gyfer y cylchlythyr rydych yn cytuno i'n telerau ac amodau