Thales GTS a’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd yn llofnodi cytundeb partneriaeth i gydweithio ar brosiectau rheilffyrdd yn y dyfodol

Yr wythnos hon, mae Thales’ Ground Transportation Systems (GTS) UK a’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd (GCRE) wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth i gydweithio ar ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o dechnolegau arloesol a fydd yn arbed costau ac yn trawsnewid y rheilffyrdd ar gyfer teithwyr a defnyddwyr ym maes cludo llwythi.

Mae Thales GTS yn arweinydd byd ym maes technolegau digidol ac yn arwain y ffordd wrth ddatblygu datrysiadau trafnidiaeth gynaliadwy, gan gynnwys signalau digidol, ymreolaeth, cyfathrebu, systemau tocynnu a seiberddiogelwch.

Mae’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd yn ganolfan arloesedd rheilffyrdd bwrpasol sy’n cael ei hadeiladu yn ne Cymru a fydd yn darparu safle ar gyfer gwaith ymchwil, profi ac ardystio cerbydau rheilffyrdd, seilwaith a thechnolegau rheilffyrdd newydd arloesol o’r radd flaenaf. Disgwylir i waith adeiladu’r safle gael ei gwblhau yn 2025.

Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn ymrwymo’r ddau barti i gydweithio ar brosiectau seilwaith rheilffyrdd yn GCRE a rhannu gwybodaeth am gyfleoedd i ddod er mwyn cyflymu’r broses o fabwysiadu technolegau trawsffurfiol.

Dywedodd Prif Weithredwr y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd, Simon Jones:

“Rydym yn falch iawn o lofnodi’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn rhwng GCRE a Thales.

“Bydd y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd rydym yn ei hadeiladu yn ne Cymru wir yn safle ar gyfer arloesedd rheilffyrdd a seilwaith o’r radd flaenaf. Gan gefnogi datblygiad technolegau newydd creadigol a fydd yn asgwrn cefn rhwydwaith rheilffyrdd cryfach, gwyrddach, a mwy fforddiadwy yfory, bydd yn llenwi bwlch strategol nid yn unig yn y Deyrnas Unedig, ond ledled Ewrop.

“Yn ein safle, rydym eisiau gweithio gyda phartneriaid o’r radd flaenaf sydd â’r sgiliau yn y technolegau digidol a’r datrysiadau trafnidiaeth gynaliadwy newydd a all gefnogi ein dyfodol sero net, a’r wybodaeth amdanynt. Dyna pam mae’n gam mor gadarnhaol i GCRE lofnodi’r bartneriaeth hon gyda Thales.

“Mae arbenigedd a phrofiad Thales yn cyd-fynd yn dda â’n huchelgeisiau rhyngwladol ar gyfer GCRE. Bydd gwybodaeth Thales ym maes datrysiadau trafnidiaeth arloesol yn gweddu’n dda i’n safle newydd, sef y safle pwrpasol cyntaf yn Ewrop ar gyfer arloesedd ym maes seilwaith rheilffyrdd.

“Gyda’n gilydd, gallwn ddatblygu arloesedd diddorol a chreadigol ym maes seilwaith rheilffyrdd, felly rydym yn gyffrous iawn i lofnodi’r cydweithrediad hwn a dechrau ein gwaith gyda’n gilydd.”

Dywedodd Andy Bell, Is-lywydd Thales GTS UK:

“Rydym yn falch iawn o fod wedi llofnodi’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth newydd hwn gyda GCRE ac edrychwn ymlaen at weithio ochr yn ochr â thîm GCRE i helpu i greu rheilffyrdd digidol y dyfodol yn y ganolfan dechnoleg gyffrous hon yng Nghymru.”

“Mae gwledydd, dinasoedd a gweithredwyr trafnidiaeth ledled y byd yn dibynnu ar ddatrysiadau arloesol Thales i fodloni gofynion symudedd newydd. Rydym yn falch iawn o gael y cyfle i gyfrannu ein harbenigedd helaeth ym maes signalau digidol, cyfathrebu, systemau tocynnu a seiberddiogelwch sydd, gyda’i gilydd, yn helpu i ddarparu teithiau cysylltiedig ar gyfer teithwyr a llwythi.”

Drwy gofrestru ar gyfer y cylchlythyr rydych yn cytuno i'n telerau ac amodau