‘Yr arloeswyr cyntaf ar y safle’ – Cystadleuaeth arloesi rheilffyrdd fawr yn symud i’r ail gam 

‘Yr arloeswyr cyntaf ar y safle’ – Cystadleuaeth arloesi rheilffyrdd fawr yn symud i’r ail gam 

Symudodd y gystadleuaeth ‘Arloesi mewn Adeiladu Rheilffyrdd’ £7.4m i’w hail gyfnod yr wythnos hon wrth i’r timau gael gwybodaeth am gam nesaf y rhaglen.

Fis Hydref diwethaf, gwahoddwyd sefydliadau yn y Deyrnas Unedig i wneud cais i Innovate UK am gyfran o hyd at £575,000 ar gyfer astudiaethau dichonoldeb yn rhan o’r gystadleuaeth ‘Arloesi mewn Adeiladu Rheilffyrdd’ a ariennir gan Adran Busnes a Masnach Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Bu 24 o brosiectau yn cynnwys 36 o sefydliadau yn llwyddiannus yn y rownd gychwynnol, a arweiniodd at ariannu astudiaethau dichonoldeb ynglŷn â’u syniadau. Yr wythnos hon, cynhaliodd y timau llwyddiannus sesiwn friffio gyda’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd (GCRE) ac Innovate UK ynglŷn â chamau nesaf y gystadleuaeth.

Bydd prosiectau sy’n llwyddo yn yr ail rownd yn cael cyllid i ddatblygu eu syniadau ymhellach i’r cam cysyniad yn y cyfleuster GCRE newydd sy’n cael ei adeiladu yn Ne Cymru.

Dywedodd Prif Weithredwr GCRE Limited, Simon Jones:

“Y gystadleuaeth Arloesi mewn Adeiladu Rheilffyrdd yw un o’r prosiectau ymchwil a datblygu mwyaf cyffrous a diddorol ym maes rheilffyrdd y Deyrnas Unedig. Mae’n rhoi cipolwg ar y dyfodol a chyfle i weld y syniadau a’r cysyniadau newydd a fydd yn asgwrn cefn rheilffyrdd yfory.

“Mae hyn yn arbennig o gyffrous i ni yn GCRE oherwydd y rhain fydd y timau prosiect cyntaf i arloesi ar ein safle. Hyd yn oed cyn i ni fod yn weithredol ar gyfer cleientiaid masnachol, bydd timau’n gweithio ar y safle ac yn datblygu eu cynhyrchion a’u syniadau newydd.

“Roedd yn wych gweld sut mae’r gwahanol dimau wedi dehongli’r her a chlywed sut mae eu harloesiadau’n dod ymlaen. Mae rhai syniadau creadigol a diddorol iawn yn cael eu datblygu trwy’r cam cyntaf ac mae’n gyffrous meddwl y gallwn ddatblygu rhai o’r goreuon yn ein cyfleuster GCRE newydd.

Llun: Rhai o dimau’r gystadleuaeth ar ymweliad diweddar â safle GCRE ym mis Mehefin.

Dywedodd Pennaeth Arloesedd GCRE Limited, Kelvin Davies:

“Yr hyn sy’n gyffrous iawn am y cynigion y mae’r timau’n eu datblygu yw’r ffordd maen nhw’n ceisio mynd i’r afael â rhai o’r heriau mwyaf ym maes rheilffyrdd. Mae llawer o’r prosiectau a lwyddodd yn y rownd gyntaf yn ceisio helpu i ddatgarboneiddio ein rheilffyrdd neu ddatblygu seilwaith rheilffyrdd mwy cost-effeithiol a chynaliadwy. Mae hynny’n hynod gyffrous a hefyd yn fuddiol iawn i ddyfodol y rheilffyrdd yma yn y Deyrnas Unedig a ledled Ewrop.

“Mae hwn yn gyfle unigryw i’r timau sy’n gysylltiedig wrth i ni gynnig y posibilrwydd o ddatblygu’r syniadau damcaniaethol gorau i’w hadeiladu yng nghyfleuster y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd. Mae’r ethos o fod yn gyfleuster sy’n cefnogi arloesedd ar bob lefel – gan gynnwys timau arloesi bach – yn un sy’n bwysig iawn i dîm GCRE ac mae’n wych ei weld yn cael ei wireddu yma.”

Dywedodd Paul Gadd, Dirprwy Gyfarwyddwr, Deunyddiau, Gweithgynhyrchu a Thrafnidiaeth ar y Tir yn Innovate UK:

“Mae lansio’r gystadleuaeth cam 2 bwysig hon yn dangos y cydweithrediad parhaus rhwng Innovate UK, yr Adran Busnes a Masnach, GCRE a’r gadwyn gyflenwi adeiladu rheilffyrdd i gyflawni arloesedd.

“Bydd y rhaglen yn cefnogi arddangosiadau ar safle GCRE o ddulliau arloesol o leihau allyriadau carbon, lleihau costau a chyflymu graddfeydd amser. Bydd hyn yn helpu rhaglenni seilwaith mawr a gynhelir gan HS2 a Network Rail i gael eu cyflawni’n fwy cynaliadwy, cost-effeithiol a chyflym.

“Mae Innovate UK wedi ymrwymo i weithio gyda llywodraeth ganolog, leol a datganoledig ar draws y Deyrnas Unedig i gefnogi polisi trafnidiaeth gwyrddach, y mae gan y diwydiant rheilffyrdd ran allweddol i’w chwarae ynddo.”

Cystadleuaeth fesul cam yw’r gystadleuaeth Arloesi mewn Adeiladu Rheilffyrdd, a bydd nifer o brosiectau llwyddiannus yn symud ymlaen yn 2024 i ddatblygu eu syniadau’n llawn a chyflwyno arddangosiad ar safle GCRE.

Mae prosiectau llwyddiannus y rownd gyntaf yn amrywio o ran cwmpas o ddatblygu technoleg drôn rheilffyrdd newydd i goncrit hunandrwsio.

Pan fydd yn agor, bydd GCRE yn gyfleuster sy’n darparu gwaith ymchwil, profi ac ardystio cerbydau rheilffyrdd, seilwaith a thechnolegau newydd arloesol o’r radd flaenaf a fydd yn llenwi bwlch strategol nid yn unig ym maes rheilffyrdd y Deyrnas Unedig, ond ledled Ewrop.

Sefydlwyd GCRE yn 2021 gydag ymrwymiad cychwynnol o £50 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cefnogi’r prosiect gyda chyllid ar gyfer ymchwil a datblygu ynghyd ag £20 miliwn o gyllid cyfalaf. Ar hyn o bryd, mae GCRE yn symud ymlaen ag ymarfer caffael cyhoeddus mawr i ddenu cyllid preifat ar gyfer y prosiect.  

Drwy gofrestru ar gyfer y cylchlythyr rydych yn cytuno i'n telerau ac amodau