Trafnidiaeth Cymru yn cadarnhau cytundeb cleient mawr gyda’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd

‘Cyflawni ar gyfer teithwyr’ yn bwyslais mawr ar gyfer cydweithrediad tymor hir

Yr wythnos hon, mae Trafnidiaeth Cymru (TfW) a GCRE Limited wedi llofnodi penawdau’r telerau er mwyn i TfW ddod yn gleient masnachol mawr i’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd (GCRE).

Mae’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd yn gyfleuster ymchwil, profi ac ardystio gwerth £400m ar gyfer cerbydau rheilffyrdd, seilwaith a thechnolegau rheilffyrdd newydd arloesol sy’n cael ei adeiladu ym mhen uchaf Cymoedd Dulais a Thawe.

Yn rhan o fodel aelodaeth GCRE, gall cwmnïau gael amser profi ac ymchwil gwarantedig ar y safle pan fydd yn agor, yn unol â’u hanghenion arloesi.

Mae’r cytundeb yn dangos bwriad TfW i fod yn aelod o GCRE ar y lefel uchaf a dod yn gleient ‘Premiwm’ i’r cyfleuster, y disgwylir iddo gael ei gwblhau yn 2025. Bydd y cydweithrediad yn gweld GCRE yn cefnogi Trafnidiaeth Cymru gyda’i waith profi, arloesi ac ymchwil a datblygu rheilffyrdd.

Yn ogystal â phrofi, ymchwil a datblygu ac arloesi, mae’r cytundeb yn paratoi’r ffordd i TfW ddefnyddio gwasanaethau eraill GCRE, gan gynnwys storio, hyfforddiant a chymeradwyo cynhyrchion yn y dyfodol wrth i’r rhain gael eu datblygu.

Dywedodd Prif Weithredwr GCRE Limited, Simon Jones, fod y cytundeb yn un ‘naturiol’ ac y byddai’n cefnogi pwyslais Trafnidiaeth Cymru ar gyflawni ar gyfer teithwyr yn ogystal â’i raglen seilwaith fawr ar draws Cymru a’r Gororau.

Dywedodd Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, Lee Waters:

“Y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd yw un o’r darnau mwyaf cyffrous a phwysig o seilwaith sy’n cael ei adeiladu yn unrhyw le yn Ewrop heddiw. Bydd yn arwain y ffordd ym maes arloesedd rheilffyrdd, gan gefnogi datblygiad cynhyrchion a thechnolegau newydd a fydd yn asgwrn cefn i’r rhwydweithiau trafnidiaeth integredig, sero net o ansawdd uchel y bydd arnom eu hangen ar draws y cyfandir yn y blynyddoedd i ddod.

“Mae’n wych bod y cytundeb hwn rhwng GCRE a Thrafnidiaeth Cymru wedi cael ei gwblhau’n derfynol ac y bydd cyflawni ar gyfer teithwyr yn ganolbwynt i’r cydweithrediad, gan arwain at fuddion i gymunedau a chymudwyr ledled Cymru yn y pen draw.”

Dywedodd Prif Weithredwr GCRE Limited, Simon Jones:

“Rwy’n falch o sefydlu’r bartneriaeth gyffrous hon gyda Thrafnidiaeth Cymru, sef cytundeb tymor hir a fydd yn gweld TfW yn dod yn gleient premiwm i’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd ac yn sicrhau mynediad at y cyfleusterau profi ac arloesi o’r radd flaenaf sydd gennym ar y safle.

“Yr hyn y gall GCRE ei ddarparu i Drafnidiaeth Cymru yw cyfleuster pwrpasol ac all-lein, o ansawdd rhyngwladol, yma yng Nghymru, sy’n gallu cefnogi tîm TfW wrth iddynt roi eu rhaglen strategol uchelgeisiol ar waith.

“Mae cyflawni ar gyfer teithwyr yn bwyslais allweddol i TfW a, thrwy’r cytundeb hwn gyda GCRE, gallwn gefnogi ffyrdd newydd ac arloesol o gyflawni ar gyfer cwsmeriaid ar hyd llwybr Cymru a’r Gororau.

“Mae gan Drafnidiaeth Cymru gyfres uchelgeisiol iawn o brosiectau mawr – o’r cynllun gweddnewidiol i drydaneiddio llinell y cymoedd; rhaglenni metro yn Ne Cymru, Bae Abertawe a Gogledd Cymru, yn ogystal â rhestr sylweddol o brosiectau gwella ac uwchraddio gorsafoedd ledled Cymru a’r Gororau. Gall GCRE helpu i gyflawni’r prosiectau mawr hyn trwy fwy o sicrwydd ynglŷn â’r arloesiadau a’r syniadau a ddefnyddir.

“Mae’r cydweithrediad hwn yn un naturiol mewn sawl ffordd – fel cyfleuster o’r radd flaenaf yma yng Nghymru, gall GCRE gefnogi datblygiad system drafnidiaeth genedlaethol Cymru trwy gydweithrediad tymor hir â TfW.

“Mae’r ddau sefydliad yn rhannu uchelgais i ddatgarboneiddio’r rheilffyrdd. Gan fod GCRE ar fin dod yn rheilffordd weithredol Sero Net gyntaf y Deyrnas Unedig, trwy weithio gyda TfW gallwn wneud gwahaniaeth pendant i’r ymdrech genedlaethol sy’n angenrheidiol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

“Yn dilyn ymlaen o gytundeb Hitachi a gyhoeddwyd yn ddiweddar, mae’r bartneriaeth hon yn dangos bod GCRE yn cymryd y cam nesaf ar ei thaith. Nid dim ond adeiladu cyfleuster sy’n arwyddocaol yn rhyngwladol, ond hefyd llunio cytundebau gyda chleientiaid pwysig ac arwyddocaol i ddefnyddio amser profi ac ymchwilio pan fyddwn yn agor – sy’n dangos ansawdd y gwasanaethau rydym yn eu cynnig yn ogystal â chryfder masnachol y busnes.”

Dywedodd Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru, James Price:

“Mae’r diwydiant rheilffyrdd yng Nghymru yn cael ei drawsffurfio ar hyn o bryd yn sgil adeiladu Metro De Cymru a chyflwyno trenau newydd sbon ar draws y rhwydwaith. 

“Rwy’n falch bod y cytundeb hwn yn parhau â’n perthynas waith agos gyda GCRE. Mae’r ffaith bod y cyfleusterau hyn o’r radd flaenaf ar gael yma yng Nghymru yn alluogwr allweddol i’r diwydiant cyfan, ac i TfW wrth gyflawni ein cynlluniau uchelgeisiol.

Drwy gofrestru ar gyfer y cylchlythyr rydych yn cytuno i'n telerau ac amodau