Universities win £15m for new Railway Research and Innovation Centre at GCRE in South Wales

Mae Prifysgol Birmingham a chonsortiwm o brifysgolion Cymru wedi cael £15 miliwn gan Gronfa Fuddsoddi Partneriaeth Ymchwil y Deyrnas Unedig (UKRPIF) i sefydlu canolfan ymchwil ac arloesedd rheilffyrdd newydd a fydd yn arwain y ffordd yn fyd-eang yn ne Cymru.

Bydd buddsoddiad UKRPIF yn galluogi Prifysgol Birmingham, yn gweithio gyda Phrifysgolion Caerdydd ac Abertawe, i sefydlu Canolfan Ragoriaeth newydd ar gyfer Profi, Dilysu a Phrofiad Cwsmeriaid Rheilffyrdd ar safle’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd (GCRE), sydd wrthi’n cael ei hadeiladu ar hyn o bryd.

Mae’r cyllid yn rhan o £30m a gyhoeddwyd trwy gronfa UKRPIF i sefydlu dau gyfleuster ymchwil ac arloesedd rheilffyrdd newydd a fydd yn arwain y ffordd yn fyd-eang, gyda’r llall yn Ganolfan Ragoriaeth newydd ar gyfer Peirianneg Oes Gyfan Reilffyrdd yn Goole.

Mae’r cynigion cyllid llwyddiannus yn cynnwys ymrwymiad ehangach gan y diwydiant rheilffyrdd i gydfuddsoddi £60m, gydag £16m arall yn cael ei fuddsoddi gan Brifysgol Birmingham. Mae’r pecyn cyfan yn cynrychioli hwb £106m ar gyfer ymchwil a datblygu yn y Deyrnas Unedig.

Bydd y Ganolfan Ragoriaeth newydd ar gyfer Profi, Dilysu a Phrofiad Cwsmeriaid Rheilffyrdd yn GCRE yn darparu cyfleusterau a adeiladwyd i’r diben ochr yn ochr ag arbenigedd diwydiannol mawr rheilffyrdd y Deyrnas Unedig i gefnogi arloesedd, ymchwil a datblygu ym maes rheilffyrdd y Deyrnas Unedig, ar y cyd â phartneriaid arweiniol y diwydiant. 

Bydd y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd, a fydd yn gartref i’r ganolfan newydd, yn gyfleuster ar gyfer gwaith ymchwil, profi ac ardystio cerbydau rheilffyrdd, seilwaith a thechnolegau rheilffyrdd newydd arloesol o’r radd flaenaf. Bydd yn cynorthwyo diwydiant rheilffyrdd y Deyrnas Unedig ac Ewrop i gyflymu arloesedd, cefnogi datgarboneiddio a datblygu seilwaith rheilffyrdd mwy cost-effeithiol.

Canolfan Ymchwil ac Addysg Rheilffyrdd Birmingham (BCRRE) ym Mhrifysgol Birmingham yw’r ganolfan ymchwil, addysg ac arloesedd rheilffyrdd arbenigol fwyaf yn Ewrop. BCRRE yw’r sefydliad arweiniol ar gyfer Rhwydwaith Ymchwil ac Arloesedd Rheilffyrdd y Deyrnas Unedig (UKRRIN) ac mae’n arwain Canolfan Ragoriaeth Systemau Digidol UKRRIN sy’n gweithio ar ddatblygu a chymhwyso technolegau digidol ar gyfer y rheilffordd. 

Bellach, bydd hefyd yn arwain y Ganolfan Ragoriaeth Profi, Dilysu a Phrofiad Cwsmeriaid Rheilffyrdd, gan weithio gyda Phrifysgolion Caerdydd ac Abertawe.

Dywedodd yr Athro Clive Roberts, Cyfarwyddwr BCRRE:

“A ninnau’n arweinydd byd-eang mewn ymchwil ac addysg rheilffyrdd, rydym yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y byd i ddatblygu eu gweithlu a’u galluoedd technegol a gweithredol. Rydym hefyd yn arweinydd menter ac arloesedd rheilffyrdd, ac mae’r tîm yma’n parhau i weithio gyda busnesau bach a chanolig a gwneuthurwyr cyfarpar gwreiddiol i gadw’r rheilffyrdd ar waith.

“Rydym yn bwriadu defnyddio’r cyllid newydd hwn i sicrhau’r galluoedd a’r offer i alluogi arloesiadau i ddatblygu o syniad gwych i ddatrysiad masnachol yn fwy effeithiol trwy leihau cost a risg prosiectau yn ystod y broses ddatblygu. Mae ein pwyslais ar brofi a dilysu rheilffyrdd wedi’i dargedu tuag at y broses arloesi gyfan ac mae ein cynnig yn canolbwyntio ar effaith byd go iawn”.

Dywedodd Simon Jones, Prif Weithredwr GCRE Limited:

“Mae ymchwil ac arloesedd o’r radd flaenaf wrth wraidd cenhadaeth y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd. Bydd gweithio gyda Phrifysgol Birmingham a’u partneriaid, sydd bellach yn cynnwys prifysgolion Caerdydd ac Abertawe, yn caniatáu i ni wireddu’r uchelgais hwn. 

“Datblygu cyfleusterau ymchwil a datblygu unigryw a fydd o fudd i’r byd academaidd, diwydiant ac, yn bwysicaf, teithwyr a threthdalwyr yw’r rheswm pam y cawsom ein sefydlu. Mae cyhoeddiad heddiw yn deillio o lawer o waith caled ac edrychwn ymlaen at gymryd y camau nesaf gyda’n partneriaid sy’n enwog yn rhyngwladol.”

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies AS:

“Mae’r cyllid arwyddocaol diweddaraf hwn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer ymchwil ac arloesedd yn y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd yn ychwanegu at ein hymrwymiad £28m presennol i’r prosiect a bydd yn helpu i sicrhau bod y weledigaeth gyffrous ar gyfer GCRE yn cael ei gwireddu.

“Byddwn yn parhau i gefnogi GCRE wrth iddi helpu i ddatblygu statws Cymru fel canolfan ar gyfer arloesedd, swyddi tra medrus a diwydiannau’r dyfodol.”

Dywedodd Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd gyda chyfrifoldeb am Drafnidiaeth:

“Y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd yng Nghwm Dulais yw un o’r prosiectau seilwaith mwyaf allweddol a chreadigol sy’n digwydd yn unrhyw le yn Ewrop. 

“Mae’r sector rheilffyrdd, sy’n allweddol i daith ddatgarboneiddio’r Deyrnas Unedig, yn gwario miliynau bob blwyddyn ar brofi ei offer a’i gerbydau rheilffyrdd. 

“Mae llawer o’r arian hwn yn cael ei wario yn Ewrop neu’r Unol Daleithiau, ond bydd y dyfarniad hwn yn mynd rhywfaint o’r ffordd tuag at sicrhau bod arloesedd y sector yn cael ei ddatblygu, ei brofi a’i fasnacheiddio yng Nghymru.

“Mae hyn yn beth cadarnhaol am sawl rheswm, gan gynnwys sicrhau gwerth am arian, creu swyddi medrus sy’n talu’n dda a lleihau ôl troed carbon trafnidiaeth reilffyrdd yn sylweddol ar gyfer y dyfodol.

“Mae dyfarnu’r cyllid newydd hwn i ddatblygu cyfleusterau ymchwil a datblygu unigryw ymhellach, mewn partneriaeth â Phrifysgolion Birmingham, Caerdydd ac Abertawe, yn bleidlais fawr o hyder yng Nghymru wrth i ni barhau i gynnal ac adeiladu economi arloesol, gystadleuol a gwyrddach.”

Dywedodd yr Athro Carol Featherston, arbenigwr ar drafnidiaeth gynaliadwy yn Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd ac arweinydd prosiect y sefydliad:

“Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Ymchwil ac Addysg Rheilffyrdd Birmingham (BCRRE) i gyflawni’r ganolfan newydd. 

“Bydd ein harbenigedd mewn Ynni, Systemau Digidol a Seiberddiogelwch, Ffactorau Dynol a Seilwaith, ar y cyd â Phrifysgolion Birmingham ac Abertawe, yn cefnogi diwydiant rheilffyrdd y Deyrnas Unedig ac Ewrop trwy gyflymu arloesedd, cefnogi datgarboneiddio a datblygu seilwaith rheilffyrdd mwy cost-effeithiol.” 

Dywedodd yr Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor, Ymchwil ac Arloesi, ym Mhrifysgol Abertawe:

“Rydym yn falch iawn o fod yn sefydliad partner yn y ganolfan ymchwil ac arloesedd newydd gyffrous hon, ac edrychwn ymlaen at gydweithio â GCRE, gan gynnwys ym maes seilwaith, storio ynni, gefeilliaid digidol a phrofi deunyddiau.

“Mae cydweithio â sefydliadau academaidd, Rhwydwaith Arloesi Cymru, partneriaid diwydiannol a masnachol a phartneriaid yn y sector cyhoeddus wrth wraidd ein hethos ymchwil ac arloesi, ac rydym wedi ymrwymo i gyflawni effeithiau ar y byd go iawn trwy ein gweithgarwch ymchwil ac arloesi.

Dywedodd yr Athro Fonesig Jessica Corner, Cadeirydd Gweithredol yn Research England:

“Gan ychwanegu at y buddsoddiad gan UKRPIF yn rownd 5 y cynllun, mae’n bleser gennyf gyhoeddi £30m o gyllid ar gyfer y consortiwm hwn, a arweinir gan Brifysgol Birmingham, a fydd yn parhau i sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn arweinydd rhyngwladol wrth ddatblygu technolegau rheilffyrdd chwyldroadol. Mae’r rhain yn hanfodol i greu rheilffyrdd mwy effeithlon, cynaliadwy a chynhyrchiol y dyfodol.

“Bydd creu dwy ganolfan ymchwil rheilffyrdd sy’n unigryw yn y byd yn Ne Cymru a Goole yn meithrin partneriaethau allweddol rhwng y byd academaidd a diwydiant, yn helpu i sbarduno’r broses o roi mentrau newydd arloesol ar waith yn y sector ac yn datblygu clystyrau rhagoriaeth rhanbarthol.”

Drwy gofrestru ar gyfer y cylchlythyr rydych yn cytuno i'n telerau ac amodau