Hysbysiad Cyhoeddus

HYSBYSIAD O DAN ADRAN 38 DEDDF TIROEDD COMIN 2006

COMIN DRUM

Cymuned Coelbren ac Onllwyn

Bwrdeistref Sirol Powys a Chastell-nedd Port Talbot

Mae GCRE Limited wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru am ganiatâd o dan adran 38 Deddf Tiroedd Comin 2006 i wneud gwaith cyfyngedig ar Gomin Drum.

Mae’r gwaith arfaethedig fel a ganlyn:

Cynigir gwneud gwaith adfer cloddwaith cyflenwol i greu 2 blatfform tirffurf dolennog (yn rhannol mewn toriad ac yn rhannol ar arglawdd) gyda seilwaith draenio cysylltiedig ac ardaloedd tirweddu a chreu cynefin, gan gynnwys ffens dros dro yn ystod y gwaith adeiladu

Bydd y gwaith wedi’i leoli ar Gomin Drum rhwng Coelbren ac Onllwyn ar a gerllaw hen safle Glo Brig Nant Helen a Golchfa Onllwyn

Gellir archwilio copi o’r ffurflen gais a map sy’n dangos y gwaith arfaethedig yn:

Llyfrgell Ystradgynlais

Stryd y Dirwest

Ystradgynlais

Powys

SA9 1JJ

Gweithdy Dove

Ffordd Rufeinig

Banwen

Castell - nedd

SA10 9LW

rhwng 10.00am a 4.00pm ar ddiwrnodau’r wythnos (nid gwyliau cyhoeddus) tan 23 Mehefin.

Gellir cael copi o’r cais yn www.gcre.wales neu drwy ysgrifennu at GCRE Limited, y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd, Onllwyn, Castell-nedd Port Talbot, Cymru, SA10 9HN    

Dylai unrhyw wrthwynebiadau neu sylwadau gael eu hanfon yn ysgrifenedig AR neu CYN y dyddiad hwnnw at Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn Adeiladau’r Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, neu PEDW.gwaithachos@llyw.cymru. 

Ni all llythyrau a anfonir at yr Arolygiaeth Gynllunio gael eu trin yn gyfrinachol. Bydd copi ohonynt yn cael ei anfon at yr ymgeisydd ac efallai at bartïon eraill â buddiant.

Rob Thompson

Cyfarwyddwr Gweithredu

GCRE Limited

25 Mai 2023

Drwy gofrestru ar gyfer y cylchlythyr rydych yn cytuno i'n telerau ac amodau