Canolfan Fyd-Eang Rhagoriaeth Rheillffyrdd - Sioe Deithiol Gymunedol
Canolfan Fyd-Eang Rhagoriaeth Rheillffyrdd Sioe Deithiol Gymunedol
Mae’r Ganolfan Fyd-eang ar gyfer Rhagoriaeth Rheilffyrdd yn un o’r datblygiadau seilwaith pwysicaf sydd wedi bod o fudd i’r ardal leol yn y blynyddoedd diwethaf, gydag effeithiau cadarnhaol ar yr economi, yr amgylchedd ac ar gyfer busnesau a chymunedau lleol gerllaw.
Mae gwaith bellach yn mynd rhagddo i adeiladu’r cyfleuster newydd – canolfan arloesi rheilffyrdd o’r radd flaenaf ar hen safle glo brig Nant Helen.
Rydym am siarad â thrigolion lleol a rhanddeiliaid am ein cynlluniau ehangach ar gyfer y safle a darparu fforwm i chi ofyn cwestiynau i dîm GCRE.
Dewch i unrhyw un o’n sioeau teithiol sydd ar ddod; cwrdd â thîm GCRE a dysgu rhagor am gynlluniau cyffrous GCRE.
Dydd Mercher 3 Mai 2023: 3pm tan 7pm – Neuadd Les y Glowyr Onllwyn Wembley Avenue, Onllwyn, Castell-nedd Port Talbot, SA10 9HL
Dydd Gwener 12 Mai 2023: 3o'r gloch tan 7pm – Canolfan Gymunedol Ystradgynlais, Hendre Ladus, Ystradgynlais, Powys, SA9 1SE
Dydd Sadwrn 13 Mai 2023: 11am i 3pm – Neuadd Les Abercraf, Tan yr Allt, Abercraf, Powys SA9 1XA
Bydd y digwyddiadau sioeau teithiol hyn yn ddechrau ymgysylltu pellach â’r gymuned leol. Byddwn yn cyhoeddi dyddiadau digwyddiadau pellach ac ymgysylltu ar ein gwefan ac yn lleol.
I gael rhagor o wybodaeth am GCRE ewch i www.gcre.wales neu i gysylltu ag e-bost y tîm enquiries@gcre.wales.
