HYSBYSIAD O DAN ADRAN 38 DEDDF TIROEDD COMIN 2006 – Comin Drwm

HYSBYSIAD O DAN ADRAN 38 DEDDF TIROEDD COMIN 2006COMIN MYNYDD-Y-DRUM

Cymuned Coelbren ac OnllwynBwrdeistref Sirol Powys a Chastell-nedd Port Talbot

Cais gan: MR. ROBERT THOMPSON – CYFARWYDDWR GWEITHREDU, Y GANOLFAN RAGORIAETH FYD-EANG AR GYFER RHEILFFYRDD

Safle’r cais: COMIN MYNYDD-Y-DRUM – RHWNG COELBREN AC ONLLWYN AR, AC YN GYFAGOS AT, HEN SAFLE GLO BRIG NANT HELEN A GOLCHFA ONLLWYN 

Hysbysir drwy hyn y bydd Arolygydd a benodwyd gan Weinidogion Cymru, V Hirst BA (Anrhydedd) PG Dip TP MA MRTPI, yn cynnal Gwrandawiad ar: 

09 a 10 Ebrill 2024 am 10:00.

Caiff y Gwrandawiad ei gynnal yn rhithiol drwy Microsoft Teams. Bydd cyfarwyddiadau manwl yn cael eu rhoi i’r cyfranogwyr gwahoddedig, maes o law.

Diben y Gwrandawiad yw galluogi’r Arolygydd i glywed sylwadau gan yr unigolion hynny sydd wedi gwneud cyflwyniadau statudol yn ymwneud â’r cais.

Sylwer, er bod y digwyddiad ar agor i’r cyhoedd ei arsylwi, dim ond y rhai sydd wedi’u gwahodd yn benodol gan yr Arolygydd sydd â hawl i gymryd rhan. Dylai unrhyw un sy’n dymuno arsylwi wneud cais i Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru erbyn 26 Mawrth 2024 gan ddefnyddio’r manylion cyswllt ar waelod yr hysbysiad hwn. Dylech sicrhau bod pob gohebiaeth yn dyfynnu rhif cyfeirnod y cais – CAS-02683-F8Q4L1

Gall aelodau’r cyhoedd weld dogfennau’r cais ar-lein yn:https://planningcasework.service.gov.wales/cy 

Mae rhagor o wybodaeth ac arweiniad ar y broses Tir Comin ar gael yn: https://www.llyw.cymru/tir-comin

Isabel NethellPennaeth Gwasanaeth

Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru                     

Adeiladau’r Goron                                                                 

Parc Cathays

CaerdyddCF10 3NQ

Ffôn: 03000 253 326

Ebost: pedw.casework@gov.cymru

Dyddiad: 22 Chwefror 2024

Mae copi o’r hysbysiad hwn yn cael ei roi ar adnau yn y cyfeiriadau canlynol: 

Gweithdy DoveRoman RoadBanwenCastell-neddSA10 9LW

Llyfrgell YstradgynlaisTemperance StreetYstradgynlaisPowysSA9 1JJ

Drwy gofrestru ar gyfer y cylchlythyr rydych yn cytuno i'n telerau ac amodau